Neidio i'r cynnwys
Baner Tlodi Plant Porffor

Arolwg Gweithgor Tlodi Plant

Mae CYBI RhCT yn gweithio gydag aelodau etholedig i gasglu ystod o dystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi gweithgor. Bydd y grŵp yn gwneud argymhellion ar sut mae modd i'r Cyngor weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau'n fwy croesawgar ac yn fwy effeithiol o ran grymuso plant a theuluoedd y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw. Mae'r grŵp wedi penderfynu canolbwyntio ar wasanaethau cymorth sy’n ymwneud â materion ymarferol ac ariannol, a sut mae modd cael mynediad at y gwasanaethau yma. 

Yn rhan o'r gwaith parhaus hwn, rydyn ni am gasglu profiadau'r rhai sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf i weld pa wasanaethau sy'n cael eu defnyddio, barn pobl ar y gwasanaethau, a sut byddai modd eu gwella.

Mae modd i chi chwarae rhan bwysig yn y prosiect hwn drwy gwblhau'r arolwg isod. Fydd dim angen rhannu unrhyw wybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad, manylion cyswllt ac ati) yn rhan o'r arolwg yma.

Os hoffech chi unrhyw gymorth wrth gwblhau'r arolwg, neu os hoffech chi gael yr arolwg mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost aton ni: CYBI@rctcbc.gov.uk


Dim ond at ddibenion cefnogi'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) y bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhannu ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r CYBI yn prosesu gwybodaeth bersonol, bwriwch olwg ar ein hysbysiadau preifatrwydd: http://www.rctcbc.gov.uk/HysbysiadPreifatrwyddGwasanaeth.

0% Ateb

1.  

Ydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf? 

* Ofynnol
2.  

Oes gyda chi o leiaf un plentyn (dan 18 oed) yn byw gyda chi? 

* Ofynnol