Cyflwyno Ymholiad Prosiect

Rhannu Cyflwyno Ymholiad Prosiect ar Facebook Rhannu Cyflwyno Ymholiad Prosiect Ar Twitter Rhannu Cyflwyno Ymholiad Prosiect Ar LinkedIn E-bost Cyflwyno Ymholiad Prosiect dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Cyn cyflwyno ymholiad prosiect, darllenwch ein tudalen Sut Mae Prosiectau'r CYBI yn Gweithio.
Pwy sy’n cael cyflwyno ymholiad?
Mae'r ffurflen ymholiad yn addas ar gyfer y canlynol:
  1. Staff Cyngor RhCT
  2. Partneriaid cydweithredol
  3. Sefydliadau Cymunedol
  4. Y gymuned ymchwil
Os ydych chi'n ansicr a ydych chi'n perthyn i'r categorïau yma, mae modd i chi fwrw golwg ar ein Rhestr Termau neu cysylltwch â ni am gyngor.
Rydyn ni'n croesawu ymholiadau gan y cyhoedd, fodd bynnag, caiff y rhain eu trin ychydig yn wahanol. Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i ddweud wrthym ni beth sy'n bwysig i chi.
Pethau i'w gwirio cyn cyflwyno'r ffurflen ymholiad
Rhaid i'r sawl sy'n cwblhau'r ffurflen sicrhau bod:
  1. Eu barn a'u safbwyntiau yn adlewyrchu'r sefydliad
  2. Mae gyda nhw'r awdurdod, neu maen nhw wedi cael yr awdurdod, i ddarparu'r barnau yma i'r CYBI
  3. Bydd eich prosiect o fudd i drigolion Rhondda Cynon Taf
Pryd galla i gwblhau'r ffurflen ymholiad?
Oherwydd lefelau uchel o ymholiadau a gyflwynwyd, dim ond ar adegau penodol o'r flwyddyn y byddwn ni'n agor ffenestri ymholiadau am brosiectau. Mae hyn yn golygu mai dim ond pan fydd gyda ni'r gallu i weithio gyda chi y byddwn ni'n derbyn ceisiadau am brosiectau. Bydd y statws yn cael ei ddiweddaru yma. Mae modd i chi danysgrifio i'r dudalen yma ar waelod y sgrin yma i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf, felly fyddwch chi byth yn colli ffenestr ymholiadau.

Statws cyfredol yr ymholiad yw: AR GAU

Y ffenestr ymholiadau olaf oedd: 31 Mawrth hyd at 30 Ebrill 2025
Y ffenestr ymholiadau nesaf fydd: 2026

Os oes gyda chi gynnig ymchwil yn cael ei ddatblygu a hoffech chi siarad â'r CYBI am gydweithio neu os yw eich prosiect yn un brys, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod.

Mae modd i chi ddod o hyd i restr o Gwestiynau Cyffredin ar y dudalen yma os ydych chi'n ystyried cyflwyno ymholiad, neu os ydych chi wedi cyflwyno ymholiad yn ddiweddar.
Os ydych chi'n gweithio gyda CYBI RhCT ar ymholiad neu gynnig ar hyn o bryd, bwriwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin am y Cynnig.

Diweddaru: 22 Jul 2025, 12:10 PM