Polisi preifatrwydd

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y polisi hwn

Rydyn ni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn cymryd ein rhwymedigaethau preifatrwydd o ddifrif ac rydyn ni wedi creu'r polisi preifatrwydd yma i esbonio sut rydyn ni'n trin yr wybodaeth bersonol sy'n cael ei chasglu ar y wefan yma. Gwybodaeth bersonol yw gwybodaeth sydd yn datgelu pwy ydych chi.
Mae casglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol yn cael ei reoleiddio gan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd ('GDPR') a Deddf Diogelu Data 2018.
Dylech chi ddarllen y polisi yma ar y cyd â Hysbysiad Preifatrwydd y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI RhCT) (dolen allanol)(Dolen allanol).

Darperir y llwyfan meddalwedd y mae’r wefan hon yn rhedeg arno a’r gweithrediadau technoleg cysylltiedig gan Granicus LLC. Cliciwch y ddolen hon i weld y Polisi Preifatrwydd sy’n rheoli eu gwasanaeth(Dolen allanol) (dolen allanol).

Pa wybodaeth bersonol y gallwn ni ei chasglu?

Gwybodaeth Proffil

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth gennych pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r safle hwn. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost a gwybodaeth ddemograffig ychwanegol fel y nodir gennych chi ar y ffurflen gofrestru.

Cofiwch y gallwch bori unrhyw adrannau o’r wefan hon sy’n agored i’r cyhoedd yn gwbl ddienw heb gofrestru.


Gwybodaeth am Ymgysylltu

Y cynnwys rydych chi'n ei greu fel rhan o'ch rhyngweithio â'r wefan hon. Gall y rhain gynnwys ymatebion i arolygon, sylwadau ar fforymau trafod, neu unrhyw rai o’r cyfleoedd ymgysylltu eraill sydd ar gael yma.


Gwybodaeth am Ddefnydd

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth am eich defnydd o’r safle, fel tudalennau yr ymwelwyd â nhw, dogfennau a gafodd eu llwytho i lawr, ac ati.


Sut rydyn ni’n defnyddio'r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu

Rydyn ni’n casglu’r wybodaeth hon er mwyn:

  • ei dadansoddi a'i dehongli i helpu i gyflawni ein hamcanion a'n rhwymedigaethau;
  • cyfleu gwybodaeth i chi am gyfleoedd ymgysylltu, achlysuron a mentrau eraill; ac
  • ymateb i ymholiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.


Dolenni allanol

Mae'n bosibl bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Mae'r dolenni hynny ar gael er hwylustod ac efallai na fyddan nhw'n parhau i fod yn gyfredol nac yn cael eu cynnal. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am arferion preifatrwydd y gwefannau yn y dolenni allanol ac rydyn ni'n awgrymu eich bod chi'n adolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau hynny cyn eu defnyddio.


Diogelwch

Er nad oes gwasanaeth ar-lein sy’n gwbl ddiogel, rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i ddiogelu gwybodaeth amdanoch chi rhag mynediad heb awdurdod, ei ddefnyddio, ei addasu neu ei dinistrio, a chymryd pob cam rhesymol i wneud hynny.


Gofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol neu ei chywiro

Yn amodol ar ddeddfau a rheoliadau lleol perthnasol, efallai fod gennych rai neu’r cyfan o’r hawliau canlynol o ran eich data personol:

  • i gael mynediad at eich data personol ac i gywiro unrhyw wallau yn y data personol hwnnw;
  • gwneud cais i ddileu eich data personol sy’n aros gyda ni;
  • gofyn am eich data personol mewn fformat cludadwy y gellir ei ddarllen â pheiriant; a
  • tynnu eich caniatâd yn ôl i ni brosesu eu data personol.

Os hoffech gysylltu â ni gyda chais sy’n ymwneud â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir isod, gan gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt. Efallai y bydd angen i ni gadarnhau pwy ydych chi cyn rhoi eich gwybodaeth bersonol i chi.

Efallai mewn rhai achosion fydd dim modd i ni roi mynediad i chi at eich holl wybodaeth bersonol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni'n egluro pam. Byddwn ni'n delio â phob cais am fynediad at wybodaeth bersonol o fewn amserlen resymol.


Cysylltu â Ni

Am ragor o wybodaeth am ein polisi preifatrwydd ac arferion gwybodaeth cysylltiedig, i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol neu ei chywiro, neu i wneud cwyn, e-bostiwch hdrc@rctcbc.gov.uk (dolen allanol)(Dolen allanol).