Cwestiynau Cyffredin am Ymholiadau Prosiect

Rhannu Cwestiynau Cyffredin am Ymholiadau Prosiect ar Facebook Rhannu Cwestiynau Cyffredin am Ymholiadau Prosiect Ar Twitter Rhannu Cwestiynau Cyffredin am Ymholiadau Prosiect Ar LinkedIn E-bost Cwestiynau Cyffredin am Ymholiadau Prosiect dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Dyma rai cwestiynau cyffredin ar gyfer y rheiny sydd wedi cyflwyno ymholiad ac wedi dechrau ar eu taith â Chydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Rhondda Cynon Taf. Mae modd i chi ddarllen y dudalen yma ar y cyd â Sut mae Prosiectau CYBI yn gweithio. Os ydych chi dal angen cymorth, cysylltwch â ni.

Os ydych chi wedi cyflwyno ymholiad a ddim wedi clywed yn ôl gennym ni, bwriwch olwg ar ein tudalen ymholiadau.

Cam 1: Rydych chi wedi cyflwyno ymholiad ac mae'r cyfnod ymholi wedi cau.

1. Pryd bydda i'n gwybod os mae fy ymholiad wedi bod yn llwyddiannus?

Byddwn ni'n adolygu eich ymholiad ar ddiwedd y cyfnod ymholiadau. Bwriwch olwg ar ein tudalen ymholiadau am ddyddiadau pob cyfnod. Byddwn ni yna'n adolygu a blaenoriaethu eich ymholiad. Mae modd i hyn gymryd sawl wythnos. Pan fyddwch chi'n cyflwyno ymholiad, byddwch chi'n derbyn derbyneb e-bost awtomatig, mae modd iddo gynnwys rhagor o fanylion. Os yw eich ymholiad yn un brys, neu os ydych chi'n ansicr os ydyn ni wedi derbyn eich ymholiad, cysylltwch â ni.

2. Hoffwn i newid neu dynnu fy ymholiad yn ôl

Bydd rhaid i chi siarad ag aelod o'n carfan. Cysylltwch â ni.

3. Pam gafodd fy ymholiad ei wrthod?

Bydd hyn yn cael ei nodi yn ein he-bost gwrthod.

4. Oes modd i mi ddiwygio ac ailgyflwyno fy ymholiad wedi iddo gael ei wrthod?

Os oes diwygiadau bach sydd eu hangen, byddwn ni'n gweithio gyda chi er mwyn ceisio diwygio eich ymholiad cyn ei wrthod. Os oes angen newidiadau sylweddol, neu os nad oedd yn brosiect ymarferol i'r CYBI, bydd yn cael ei wrthod a byddwn ni'n darparu adborth yn ein he-bost gwrthod. Yn yr achosion yma, bydd rhaid cyflwyno ymholiad newydd yn y cyfnod ymholi nesaf.

5. Mae fy ymholiad wedi'i dderbyn, beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwch chi'n derbyn gwahoddiad i Glinig Carfan y CYBI er mwyn i ni ddysgu rhagor am eich ymholiad. Fel arfer, byddwn ni'n cysylltu â chi drwy e-bost gan nodi dyddiad, amser a lleoliad. Os oes gyda chi unrhyw anghenion o ran cyfathrebu neu gymorth er mwyn mynychu, cysylltwch â ni.

Cam 2: Rydych chi wedi derbyn gwahoddiad i Glinig Carfan CYBI

1. Beth alla i ei ddisgwyl yn y Clinig?

Byddwn ni'n trafod eich ymholiad er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth am eich prosiect er mwyn sicrhau bod modd i ni fodloni eich anghenion. Mae clinigau fel arfer yn cymryd tua 1.5 awr ac mae modd eu cynnal wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae'r rhain yn drafodaethau cydweithrediadol. Byddwn ni'n cwblhau Proforma Clinig yn ein cyfarfod. Bydd yn cael ei adolygu gyda'n partneriaid cydweithredu wedi'r cyfarfod.

2. Pwy fydd yn y Clinig?

Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am bwy sydd wedi derbyn gwahoddiad pan fyddwn ni'n anfon eich gwahoddiad atoch chi. Fel arfer, y rhain bydd:

  • Yr Ymholwr

  • Pennaeth CYBI Rhondda Cynon Taf

  • Swyddog Arweiniol Datblygiad Sefydliadol neu Ymchwil (gan ddibynnu ar yr ymholiad)

  • Aelodau arbenigol carfan graidd y CYBI

  • Noddwr Prosiect posibl gan Gyngor Rhondda Cynon Taf (os nad yw'r ymholwr yn aelod o staff Cyngor Rhondda Cynon Taf)

  • Ein Cynorthwy-ydd Cymorth Cydweithio bydd yn nodi cofnodion

3. Oes modd i mi ddod â rhywun arall gyda mi, neu anfon cynrychiolydd?

Oes, fodd bynnag, rhaid i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw. Os ydych chi'n anfon cynrychiolydd, sicrhewch eu bod nhw'n gwybod digon am yr ymholiad ac wedi'u hawdurdodi i lunio penderfyniadau perthnasol.

4. Hoffwn i newid neu dynnu fy ymholiad yn ôl

5. Dydw i ddim yn gallu mynychu ar y dyddiad penodol mae'r clinig am gael ei gynnal, beth yw fy opsiynau?

6. Mae gennyf anghenion o ran cyfathrebu neu gymorth wrth fynychu'r clinig

Os oes gyda chi unrhyw anghenion o ran cyfathrebu neu gymorth er mwyn gallu mynychu, cysylltwch â ni. Mae modd i ni drafod opsiynau er mwyn eich cynorthwyo chi yn y modd orau.

7. Mae gyda fi bryderon eraill am fynychu'r Clinig

Mae modd i chi siarad gyda ni am unrhyw bryderon sydd gyda chi, cysylltwch â ni.

Cam 3: Ar ôl Clinig y CYBI

1. Beth sy'n digwydd ar ôl y Clinig?

Byddwn ni'n asesu eich ymholiad yn seiliedig ar yr wybodaeth gafodd ei drafod yn y Clinig ac yn rhannu ein hasesiad gydag aelodau Grŵp Cyflawni Gweithredol y CYBI er mwyn nodi eu sylwadau a'u mewnbwn. Yn dilyn hyn, bydd penderfyniad yn cael ei lunio er mwyn symud yr ymholiad yn ei flaen i'r cam cynnig. Bwriwch olwg ar ein proses Ymholi a Chynnig.

2. Pryd bydda i'n gwybod os ydy fy ymholiad wedi bod yn llwyddiannus?

Fel arfer, byddwn ni'n rhoi amcan amserlen i chi yn y Clinig, am fod hyn yn dibynnu ar argaeledd aelodau ein Grŵp Cyflawni Gweithredol i adolygu Proforma'r Clinig. Mae hefyd yn dibynnu ar ba mor frys yw eich ymholiad. Byddwn ni'n cadw cyswllt agos gyda chi.

3. Hoffwn i newid neu dynnu fy ymholiad yn ôl

4. Pam gafodd fy ymholiad ei wrthod?

Bydd hyn yn cael ei nodi yn ein he-bost gwrthod / trafodaethau gyda chi.

5. Oes modd i mi ddiwygio ac ailgyflwyno fy ymholiad wedi iddo gael ei wrthod?

Os oes diwygiadau bach sydd eu hangen, byddwn ni'n gweithio gyda chi er mwyn ceisio diwygio eich ymholiad cyn ei wrthod. Os oes angen newidiadau sylweddol, neu os nad oedd yn brosiect ymarferol i'r CYBI, bydd yn cael ei wrthod a byddwn ni'n darparu adborth. Yn yr achosion yma, bydd rhaid cyflwyno ymholiad newydd yn y cyfnod ymholi nesaf.

6. Cafodd fy ymholiad ei dderbyn, beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn ni'n gweithio gyda chi er mwyn datblygu Cynnig Prosiect.

Cam 4: Datblygu'r Nodyn Cwmpasu Cynnig

1. Beth alla i ddisgwyl yn ystod y cam yma?

Byddwn ni'n cydweithio er mwyn coethi amcanion, methodoleg, cwestiynau ymchwil a deilliannau disgwyliedig y prosiect a chadarnhau manylion allweddol, gan gynnwys amserlenni, adnoddau sydd eu hangen, moesau, a chyhoeddi canfyddiadau. Bydd hefyd yn rhannu'r prosiect yn dasgau haws eu trin. Byddwn ni'n nodi hyn yn ein Nodyn Cwmpasu Cynnig. Byddai modd gwneud hyn drwy gyfarfodydd, galwadau ffôn neu hyd yn oed e-byst (fwy na thebyg y bydd yn gymysgedd o bob un o'r rhain).

3. Beth fydd yn digwydd nesaf?

Unwaith mae'r Nodyn Cwmpasu Cynnig wedi'i gadarnhau, bydd rhaid iddo gael ei lofnodi cyn iddo ddod yn Gytundeb Cynnig.

Cam 5: Cytundeb Cynnig

1. Beth alla i ei ddisgwyl yn ystod y cam yma?

Bydd rhaid i Noddwr y Prosiect (pwy bynnag fydd yn gyfrifol am fod yn berchen ar y prosiect) a Phennaeth y CYBI lofnodi'r cytundeb. Dyma gontract a bydd rhaid ei lofnodi naill ai wyneb yn wyneb neu drwy ddefnyddio ein meddalwedd llofnodi electronig.

2. Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn dymuno llofnodi Cytundeb y Cynnig?

Mae modd i ni weithio gyda chi er mwyn sicrhau eich bod chi'n hapus gyda Chytundeb y Cynnig. Fydd dim modd bwrw ymlaen â dechrau gweithio ar y prosiect hyd nes i'r Cytundeb Cynnig gael ei lofnodi. Os nad yw'r ddogfen wedi'i llofnodi, neu ei llofnodi o fewn amserlen resymol, bydd y Cynnig a'r Ymholiad yn cael ei gau.

4. Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn ni'n dechrau gweithio ar y Prosiect gan gyflawni'r amcanion sydd wedi'u nodi yng Nghytundeb y Cynnig.

Cam 6: Mae'r Prosiect wedi dechrau

Byddwn ni'n sefydlu Grŵp Prosiect er mwyn gweithio gyda'n gilydd ar y Prosiect. Efallai bydd cyfarfodydd a chyfleoedd cysylltu rheolaidd, ond bydd hyn yn amrywio, gan ddibynnu ar eich prosiect. Byddwn ni'n galw heibio yn rheolaidd er mwyn gwirio ein bod ni'n cydlynu ac ar yr un trywydd.

Cam 7: Gwerthuso ac Adrodd

Byddwn ni'n paratoi adroddiad terfynol a rhannu ein canfyddiadau. Byddwch chi'n derbyn copi o'r adroddiad yma a bydd modd iddo gael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Mae modd i ni hefyd rannu'r canfyddiadau yn ein hachlysuron cyhoeddi canfyddiadau. Bydd gofyn i chi hefyd gymryd rhan mewn sesiwn myfyrio prosiect fydd yn ein helpu ni i ddysgu o'ch profiadau a bod yn rhan o brosiect CYBI a gwneud gwelliannau i'n prosesau yn ôl yr angen.

Diweddaru: 22 Jul 2025, 11:39 AC