Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Pecynnau Gwaith CYBI ar FacebookRhannu Pecynnau Gwaith CYBI Ar TwitterRhannu Pecynnau Gwaith CYBI Ar LinkedInE-bost Pecynnau Gwaith CYBI dolen
Pecynnau gwaith (sydd hefyd yn cael eu galw'n ffrydiau gwaith neu'n rhaglenni gwaith) yw'r gwahanol rannau sy'n ffurfio CYBI RhCT. Mae'r nodau wedi'u rhannu'n chwe maes llai, sy'n canolbwyntio ar faterion penodol — gelwir pob un yn Becyn Gwaith.Pecyn Gwaith 1: Cynnwys ac Ymgysylltu â'r CyhoeddMae'r rhan yma o'r prosiect yn ymwneud â gwrando ar bobl leol a'u cynnwys yn rhan o bethau, yn enwedig y rhai nad ydyn nhw fel arfer yn cael eu clywed. Y nod yw sicrhau bod gan bawb gyfle i ddweud eu dweud mewn perthynas ag anghydraddoldebau iechyd. Bydd pobl o'r gymuned yn helpu i lunio prosiectau, yn ymuno â grwpiau llywio fel Ymgynghorwyr Profiad Bywyd, a hyd yn oed helpu i ddylunio gwaith ymchwil a chyflwyno ceisiadau am gyllid. Bwriad hyn yw sicrhau bod gan y cyhoedd gyfle i ddweud eu dweud mewn perthynas â'n gwaith. Pecyn Gwaith 2: Defnyddio Tystiolaeth i Gefnogi'r Broses Gwneud PenderfyniadauMae'r rhan yma'n canolbwyntio ar helpu'r Cyngor i wneud penderfyniadau gwell gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael. Mae'r pecyn gwaith yma'n edrych ar ba wybodaeth sydd ei hangen, yna'n gweithio gyda staff, partneriaid ac aelodau'r gymuned i gasglu a defnyddio'r dystiolaeth honno. Y nod yw sicrhau bod penderfyniadau wedi'u seilio ar ffeithiau ac ymchwil.Pecyn Gwaith 3: Datblygu'r Sgiliau a Gallu sydd eu hangen i Gynhyrchu, Dehongli a Defnyddio TystiolaethMae'r pecyn gwaith yma'n canolbwyntio ar hyfforddi a chefnogi pobl— staff y Cyngor, sefydliadau lleol a thrigolion lleol — fel eu bod nhw'n teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio ymchwil a data. Byddwn ni'n edrych ar ba sgiliau sydd gan bobl ar hyn o bryd, y bylchau o ran sgiliau, ac yna'n cynnig hyfforddiant perthnasol, e.e. dadansoddi data a sut i droi ymchwil yn weithred. Y nod yw sicrhau bod gan y bobl yr hyn sydd eu hangen arnyn nhw i wneud gwahaniaeth.Pecyn Gwaith 4: Cynnal Gwaith i Ddatblygu Cynigion Ymchwil a Cheisiadau am GyllidMae'r rhan yma'n ymwneud â chreu prosiectau ymchwil newydd a hynny er mwyn llenwi'r bylchau o ran yr wybodaeth sydd gyda ni. Mae'r gwaith yma'n rhoi cyfle i garfanau ddod at ei gilydd — gan gynnwys staff y Cyngor, ymchwilwyr ac aelodau'r gymuned — er mwyn llunio ceisiadau am gyllid. Y nod yw sicrhau cyllid er mwyn cefnogi syniadau newydd a all wella penderfynyddion iechyd ehangach yn yr ardal.Pecyn Gwaith 5: Addasu Strwythurau a Gweithdrefnau'r Awdurdodau Lleol er mwyn Cynnal Gwaith Ymchwil a Chasglu TystiolaethMae'r pecyn gwaith yma'n canolbwyntio ar waith y Cyngor ac yn nodi cyfleoedd lle mae modd cynnwys ymchwil yn rhan o benderfyniadau bob dydd. Gallai hyn olygu newid sut mae data'n cael ei gasglu, disgrifiadau swydd, neu sut mae adroddiadau'n cael eu hysgrifennu - a hynny er mwyn sicrhau bod ymchwil yn cael ei ddefnyddio'n fwy aml ac mewn modd effeithiol.Pecyn Gwaith 6 – Creu’r strwythur llywodraethu i gefnogi darpariaeth y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd, monitro effaith a lledaenu'r dysgu.Mae'r pecyn gwaith olaf yn ymwneud â sicrhau bod y prosiect cyfan yn rhedeg yn llyfn, mesur beth sy'n gweithio, a rhannu'r hyn sy'n cael ei ddysgu gydag eraill. Mae'n cynnwys sefydlu'r carfanau sy'n arwain y prosiect, olrhain cynnydd, a sicrhau ein bod ni'n dweud wrth bobl — o drigolion lleol i gyllidwyr cenedlaethol — am ein llwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd.Sut mae'r cyfan dod at ei gilyddEr bod pob Pecyn Gwaith (PG) yn canolbwyntio ar faterion unigol, maen nhw hefyd yn gweithio gyda'i gilydd, fel darnau o bos:
Mae llais y cyhoedd (PG1) yn helpu i lunio penderfyniadau (PG2), hyfforddiant (PG3), ac ymchwil (PG4).
Mae'r dystiolaeth sy'n cael ei chasglu (PG2) yn dangos lle mae angen rhagor o hyfforddiant (PG3) neu ymchwil newydd (PG4).
Mae hyfforddiant (PG3) yn helpu pobl i ddod yn rhan o bethau — o ymgysylltu â'r cyhoedd i waith ymchwil.
Mae'r prosiectau ymchwil (PG4) yn cael eu sefydlu ar sail yr anghenion sydd wedi'u nodi (PG2) ac yn cael eu cefnogi gan y sgiliau sy'n cael eu datblygu (PG3).
Mae newidiadau yn y ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio (PG5) yn ei gwneud hi'n haws defnyddio'r holl dystiolaeth ac ymchwil yma.
Ac mae'r gwaith llywodraethu a chyfathrebu (PG6) yn cynnal y cysylltiad rhwng pob dim ac yn cael ei rannu â'r byd ehangach.