Ymgynghorwyr Profiad Byw

Rhannu Ymgynghorwyr Profiad Byw ar Facebook Rhannu Ymgynghorwyr Profiad Byw Ar Twitter Rhannu Ymgynghorwyr Profiad Byw Ar LinkedIn E-bost Ymgynghorwyr Profiad Byw dolen
(Dolen allanol)

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English(Dolen allanol)

Mae Ymgynghorwyr Profiad Byw (LEA) yn bobl sy'n byw, yn gweithio, yn astudio, neu'n chwarae yn Rhondda Cynon Taf ac yn cefnogi gwahanol brosiectau o fewn y CYBI. Maen nhw'n rhannu eu barn a'u profiadau personol, gan gynnig gwybodaeth ac arbenigedd profiad bywyd unigryw sy'n helpu i lywio gwaith y CYBI.
Byddai modd i hyn gynnwys:
  • Cymryd rhan mewn gweithdy neu grŵp ffocws ar gyfer prosiect
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau gydag aelodau o garfan y CYBI.
  • Darparu gwybodaeth o brofiad byw i brosiectau, naill ai'n uniongyrchol (mynychu cyfarfodydd prosiect) neu'n anuniongyrchol (darparu gwybodaeth i'w chyflwyno ar eich rhan).
  • Cynghori'r garfan CYBI ar gynulleidfaoedd i ymgysylltu â nhw.
  • A llawer mwy!
Mae modd i rai ymgynghorwyr profiad bywyd gymryd rhan mewn sawl prosiect, mae modd i eraill wneud un yn unig, ond mae unrhyw faint o gymryd rhan yn gyfraniad gwerthfawr at waith y CYBI.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn cymryd rhan fel ymgynghorydd profiad byw, bydd ein cyfleoedd yn cael eu rhannu yma. Byddan nhw'n darparu gwybodaeth am ymrwymiadau amser, canolbwynt y prosiect a gofynion profiad byw, a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi. Mae croeso i chi hefyd ddod draw i'n Clinigau Cymunedol.
Mae eich amser, eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn bwysig i ni, felly rydyn ni'n cynnig gwneud yn iawn am eich amser ac ymrwymiad wrth gymryd rhan mewn gwaith prosiect gyda'r CYBI. Er nad oes modd i ni ddarparu taliad arian parod, mae modd i ni gynnig talebau a fydd yn talu am eich amser a'ch treuliau ar gyfer cymryd rhan mewn prosiectau.
Mae modd i ni gynnig talebau Amazon neu Love2shop(Dolen allanol) (Dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) neu mae modd i chi ddewis derbyn Credydau Amser Tempo(Dolen allanol) (Dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) y mae modd eu defnyddio mewn ystod o leoedd ledled Cymru a Lloegr. Byddwch chi'n derbyn Credydau Amser Tempo am fynychu Clinigau Cymunedol hefyd!
Nodwch, gallai derbyn talebau effeithio ar eich buddion. Os hoffech chi dderbyn cyngor annibynnol a chyfrinachol ynghylch hyn, e-bostiwch publicpartnerships@nihr.ac.uk a fydd yn gallu eich cyfeirio at y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am dalu, neu os hoffech chi dderbyn rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diweddaru: 30 Meh 2025, 09:10 AC