Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Rôl Ymgysylltu â'r Cyhoedd ar FacebookRhannu Rôl Ymgysylltu â'r Cyhoedd Ar TwitterRhannu Rôl Ymgysylltu â'r Cyhoedd Ar LinkedInE-bost Rôl Ymgysylltu â'r Cyhoedd dolen
Mae modd i ymgysylltu â’r cyhoedd olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. I ni, mae'n golygu cynnwys aelodau o'r cyhoedd a sefydliadau partner yn uniongyrchol yn ein gwaith, gan sicrhau ein bod ni'n defnyddio arbenigedd profiad byw'r rhai yr effeithir arnyn nhw'n uniongyrchol gan y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn bwysig i'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd gan ei fod yn helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng y Cyngor a'r gymuned, mae'n annog cydweithio, ac mae'n sicrhau bod ein gwaith wir yn adlewyrchu anghenion a lleisiau ein cymuned leol. Drwy ymgysylltu â'r gymuned, mae'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd yn gobeithio creu effaith gadarnhaol a pharhaol ledled Rhondda Cynon Taf.Mae digon o ffyrdd i gymryd rhan, ni waeth faint o amser mae modd i chi ei gynnig. P'un a oes gyda chi ddim ond ychydig funudau neu gwpl o oriau rhydd, mae cyfle i chi gael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar waith y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.Sut mae modd i'r cyhoedd gymryd rhan?Un ffordd o gymryd rhan yw rhyngweithio â'r ystod o arolygon ac arolygon barn y mae modd dod o hyd iddyn nhw ar y wefan yma. Maen nhw'n ffordd wych o rannu eich barn gyda ni, llywio gwaith y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd, a sicrhau bod y gwaith rydyn ni'n ei gyflawni er budd gorau cymuned Rhondda Cynon Taf. Pam na ddechreuwch chi drwy ddweud wrthym ni beth sy'n bwysig i chi?Os oes gyda chi ddiddordeb neu brofiad penodol yn un o'n meysydd prosiect, mae modd i chi ymuno â ni fel Ymgynghorydd Profiad Byw. Mae Ymgynghorwyr Profiad Byw yn cymryd rhan mewn prosiectau trwy gynnig eu gwybodaeth a'u harbenigedd profiad byw. Am ragor o wybodaeth ar sut i ddod yn Ymgynghorydd Profiad Byw, cliciwch yma.Sut mae modd i sefydliadau cymunedol gymryd rhan?Os ydych chi'n gweithio i grŵp cymunedol, elusen neu sefydliad lleol neu'n ei gynrychioli, yna mae modd i chi gefnogi'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd fel sefydliad partner. Maen nhw'n cynnig ymgynghoriaeth arbenigol, yn darparu tystiolaeth o'r profiadau fel sefydliad, ac mae modd iddyn nhw ein helpu ni i gael mynediad at dystiolaeth o brofiad byw. Am ragor o wybodaeth am weithio gyda ni fel sefydliad partner, cliciwch yma.

Diweddaru: 10 Meh 2025, 11:19 AC
Prosiectau Cysylltiedig
Dim prosiectau cysylltiedig ar gyfer y prosiect hwn