Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Carfan Llais y Gymuned ar FacebookRhannu Carfan Llais y Gymuned Ar TwitterRhannu Carfan Llais y Gymuned Ar LinkedInE-bost Carfan Llais y Gymuned dolen
Mae 6 o bobl sy'n byw yn RhCT yn ffurfio Carfan Llais y Cymuned.Mae aelodau o Garfan Llais y Gymuned yn cael eu cyflogi am 6 awr yr wythnos ac yn gweithio'n agos gyda Charfan y CYBI, y gymuned, a'n partneriaid cydweithio yn ystod yr amser yma. Maen nhw'n gweithio yn rhan o'r garfan ganolog i warantu bod gwaith y CYBI yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau'r gymuned ac i sicrhau bod profiad byw a llais y gymuned wedi'i gynnwys drwy holl waith y CYBI. Mae modd i chi ddysgu am bwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan o waith CYBI RhCT yma.Bydd Carfan Llais y Gymuned yn gwneud hyn trwy gyflawni'r camau canlynol:
Cefnogi'r broses ymholiadau a chynigion am brosiectau – darparu adborth, safbwyntiau profiad bywyd, a sicrhau bod prosiectau'n unol ag anghenion y gymuned.
Meithrin perthnasoedd â sefydliadau partner ac aelodau’r gymuned.
Casglu tystiolaeth o brofiad bywyd gan y gymuned.
Mynychu cyfleoedd hyfforddi a datblygu (a nodi bylchau).
Cefnogi gwaith datblygu gweithdrefnau a dogfennaeth CYBI mewnol.
Cyfathrebu â'r gymuned i sicrhau eu bod nhw'n effro i ddatblygiadau a chyfleoedd y CYBI.
Cynrychioli'r CYBI mewn cyfarfodydd ac achlysuron perthnasol.
Mae Carfan Llais y Gymuned yn derbyn cymorth uniongyrchol gan y Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned, yn ogystal â charfan ganolog ehangach y CYBI a'n partneriaid cydweithio. Cynigir cyfleoedd hyfforddi a datblygu iddyn nhw i'w cefnogi yn eu rôl a byddwn ni'n gweithio gyda nhw i nodi anghenion hyfforddi unigol i sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi yn ystod eu cyfranogiad, ac wedi hynny.
Mae Laura yn dod â chefndir mewn dysgu i'w rôl fel Aelod o Dîm Llais y Gymuned. Fel mam i dri o blant sy'n tyfu i fyny yn Rhondda Cynon Taf, mae hi'n angerddol am lunio'r gymuned i fod y lle gorau posib ar gyfer dyfodol ei phlant. Yn ei hamser rhydd, mae Laura yn hoff iawn o ddarllen ac ar hyn o bryd mae hi'n mwynhau'r her o ddysgu Cymraeg. Mae hi ar ei hapusaf pan mae hi gyda'i theulu a ffrindiau, yn enwedig pan mae bwyd ar gael! Mae Laura'n dwlu ar gwrdd â phobl newydd a chael clonc. Mae hi wrth ei bodd i fod yn rhan o dîm y CYBI ac yn edrych ymlaen at gael mynd allan yn y gymuned a gweithio gyda'i gilydd i wneud gwahaniaeth.
Mae Kim yn Aelod o Dîm Llais y Gymuned hefyd, a'i hamcan yw pontio'r bwlch rhwng y Cyngor ac aelodau'r cyhoedd yn RhCT. Mae hi'n teimlo'n angerddol am siarad dros eraill ac mae hi'n gobeithio dysgu gan ein cymuned i helpu RhCT ffynnu. Mae Kim yn arlunydd gyda llawer o hobïau, yn caru darllen ac yn byw gyda'i phlant a chi selsigen yn ardal Cwm Cynon.
Yn ymuno â nhw mae Matthew, sy wedi'i gyffroi i fod yn Aelod o Dîm Llais y Gymuned. Er symudodd e i RCT yn ddiweddar yn 2025, mae Matthew wedi bod yn ymuno â digwyddiadau a gweithdai cymunedol yn yr ardal ers 2023. Mae'r rhain yn cynnwys Eisteddfod Genedlaethol 2024, sesiynau crefft yn Gerddi Cymunedol Stryd y Ddôl, a sesiynau acrobataidd/polyn yn Canolfan Gymunedol Fferm y Capel. Mae profiad gan Matthew o ddysgu sgïo a Ffrangeg ond ar hyn o bryd mae e'n cyd-bwyso'i rôl gyda'r CYBI â bod yn gynorthwyydd dysgu mewn ysgolion ADY, wrth wirfoddoli bob pythefnos mewn band taro i bobl sy'n cael eu heffeithio gan Glefyd Parkinson. Mae Matthew yn angerddol am gerddoriaeth, yn enwedig drymio! Mae Matthew yn credu bod cymuned yn hanfodol i les ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'n Swyddog Ymgysylltiad â'r Cyhoedd a Chymuned i ddod â phrofiad byw i brosesau gwneud penderfyniadau'r Cyngor.
Ymunodd Debra â'r TLlG yn gynnar ym mis Rhagfyr 2025, ar ôl ymddeol ym Mawrth 2023 yn dilyn gyrfa o dros 40 mlynedd mewn Adnoddau Dynol (AD) awdurdod lleol, ble cefnogodd hi Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a'r cyngor ehangach. Yn dod â gwybodaeth a phrofiad o lywodraeth leol, mae hi wedi gweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus a gyda phartneriaid yn ei rôl fel swyddog arweiniol AD ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a phennaeth AD. Mae hi wedi cofleidio ymddeoliad ac mae hi'n mwynhau treulio amser gyda theulu a ffrindiau, mynd ar wyliau, a gofalu am ei lles. Mae hi wedi dod yn aelod brwdfrydig o'i chanolfan hamdden leol, grŵp cerdded ac yn gwirfoddoli gyda banc bwyd lleol. Mae'r rôl newydd hon yn gyfle delfrydol i Debra, fel trigolyn RhCT, defnyddio rhai o'i sgiliau a diddordeb go iawn mewn gwasanaethau cyhoeddus a gwerth adnoddau cymunedol i helpu pobl a gwella'u bywydau.
Mae David Snook yn Aelod oDîm Llais y Gymuned. Mae'i brofiad blaenorol yn cynnwys gweithio gydag Ieuenctid Cymru, Prosiect Cefnogi Gofalwyr RhCT sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl o fewn y gymuned, ac ar hyn o bryd mae e'n gweithio'n rhan amser fel Swyddog Brysbennu gyda Gwaith a Sgiliau RhCT wrth ochr ei rôl gyda'r TLlG. Mae gyda fe Gradd Meistr mewn Gwareiddiadau Hynafol ac yn gwneud PhD mewn Archeoleg gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Mae'i ddiddordebau mewn archeoleg a gwasanaethau cymunedol yn cyd-fynd â'i gilydd yn ei rôl gyda TLlG y CYBI achos mae e'n angerddol dros ymchwil a phrofiadau byw pobl. Mae e'n frwdfrydig am ddefnyddio'i sgiliau a phrofiadau i gefnogi prosiectau'r CYBI a gwella lles trigolion RhCT yn y tymor hir. Mae David yn eiriolwr balch dros faterion Niwroamrywiol a LHDTC+. Mae e'n ddarllenwr brwd sydd wrth ei fodd gyda hanes, gwyddoniaeth, materion cymdeithasol a phynciau eraill megis ffug-wyddoniaeth ac arswyd. Mae e'n dwlu ar ffilm arswyd da!