Cwrdd â Charfan Graidd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT

Rhannu Cwrdd â Charfan Graidd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT ar Facebook Rhannu Cwrdd â Charfan Graidd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT Ar Twitter Rhannu Cwrdd â Charfan Graidd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT Ar LinkedIn E-bost Cwrdd â Charfan Graidd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT dolen
Cwrdd â’r Garfan....
Sefydlwyd y Garfan ym mis Ionawr 2024 ac mae wedi bod yn tyfu ers hynny! Mae gyda ni ystod eang o sgiliau a phrofiadau ac mae pob aelod o'r garfan yn cynnig rhywbeth gwahanol. Rydyn ni'n garfan amlddisgyblaethol sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn Rhondda Cynon Taf, gan ddod â sgiliau ym meysydd ymgysylltu â'r cyhoedd, dadansoddi data, meithrin ymchwil, a synthesis tystiolaeth ynghyd. Mae ein hymdrech gydweithredol yn sicrhau dull cyfannol tuag at wella deilliannau iechyd a thorri’r cylch tlodi drwy gynnal gwaith ymchwil arloesol a llunio polisïau strategol.
I gael rhagor o wybodaeth am y garfan, ewch i'n tudalennau Llywodraethu a Rheoli a Phartneriaid Cydweithio.
Zoë Lancelott - Pennaeth Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT

Mae Zoë yn arwain y garfan ac mae ganddi gyfoeth o brofiad o weithio gyda phlant, pobl ifainc, teuluoedd a'r gymuned yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae Zoë yn arwain ar yr ymdrechion i sefydlu diwylliant o ymchwil yn y Cyngor gan weithio gydag Uwch Arweinwyr y Cyngor ac Aelodau Etholedig i hyrwyddo defnyddio tystiolaeth a chael effaith gadarnhaol ar anghydraddoldebau iechyd. Mae hi hefyd yn gweithio gyda'r Partneriaid Cydweithio i bennu cyfeiriad strategol y Garfan a chyda chyrff rhanbarthol a chenedlaethol i gyflawni amcanion y Garfan. Mae Zoë yn gyfrifol am oruchwylio materion ariannol y Garfan ac am chwilio am gyfleoedd ymchwil a buddsoddi newydd i sicrhau cynaliadwyedd y Garfan yn y dyfodol y tu hwnt i 2028.

Mae gwaith Zoë yn hanfodol wrth annog penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar bob lefel o fewn y Cyngor, gyda'r nod o dorri’r cylch tlodi a gwella cyfleoedd bywyd y trigolion mwyaf difreintiedig.
Mae Zoë wedi byw a gweithio yn RhCT ers 30 mlynedd ac mae ganddi lawer o brofiad o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus i wella deilliannau i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau mewn bywyd. Mae hi'n falch o fod yn awtistig ac ag ADHD, mae Zoë bob amser yn gwneud rhywbeth a fydd fel arfer yn cynnwys llunio cynllun, prynu hen bethau o’r Oes Fictoria, rhedeg o gwmpas ar ôl ei thri phlentyn niwroamrywiol neu aros ar ddi-hun, pan ddylai hi fod yn y gwely.
Rolau Arbenigol yn rhan o Garfan Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT
Mae rolau’r Garfan wedi'u grwpio yn ôl y meysydd arbenigol canlynol: Datblygu Sefydliadol, Ymchwil a Thystiolaeth, Effaith Data a'i Weithredu ac Ymgysylltu a Chyfathrebu. Mae pob rôl yn chwarae rhan hanfodol wrth wella gallu'r awdurdod lleol i ymgorffori ymchwil ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn rhan o’i ddiwylliant a'i weithrediadau. Mae hyn yn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu llywio gan dystiolaeth gadarn a bod y gymuned yn cymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil. Drwy’r ymdrechion yma, mae’r Garfan yn anelu at greu seilwaith ymchwil cynaliadwy sy’n cefnogi llunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn mynd i’r afael â phenderfynyddion iechyd ehangach.
Datblygiad Sefydliadol
Mae rôl Datblygu Sefydliadol o fewn y Garfan yn ymwneud â gwella gallu'r Awdurdod Lleol i ymgorffori ymchwil ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn rhan o’i ddiwylliant a'i weithrediadau. Mae hyn yn cynnwys:
  • Dysgu Proffesiynol: Datblygu sgiliau a gwybodaeth staff i ddehongli a throsi tystiolaeth yn welliannau polisi a gwasanaeth.
  • Newidiadau Strwythurol: Addasu dulliau recriwtio, secondio, a disgrifiadau swyddi i hyrwyddo diwylliant ymchwil.
  • Arweinyddiaeth: Rhoi’r sgiliau angenrheidiol i arweinwyr, Aelodau Etholedig a staff i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol wrth wneud penderfyniadau.

Mae'r gwaith yma'n cael ei arwain gan Rhianydd Davies, ein Harweinydd Datblygu Sefydliadol sydd wedi bod yn gweithio yn y Cyngor ym maes Adnoddau Dynol (AD) ers 21 mlynedd! Yn flaenorol, roedd hi'n rheoli'r carfanau hyfforddi ac Iechyd Galwedigaethol. Mae hi'n aelod o uwch garfan rheoli’r Adran Adnoddau Dynol. Mae ganddi wybodaeth a phrofiad o weithio i'r Cyngor a datblygu sefydliadol. Wedi'i geni yn Zambia, Affrica, mae hi wrth ei bodd yn teithio ac yn archwilio'r hyn sydd gan y byd i'w gynnig. Yn ystod ei hamser rhydd, mae hi'n gwneud cacennau blasus (mae angen i bawb roi cynnig ar ei theisen diferion lemwn!).
Ymchwil a Thystiolaeth
Mae ein gwaith Ymchwil a Thystiolaeth yn canolbwyntio ar nodi anghenion o ran tystiolaeth a bylchau o ran synthesis tystiolaeth, canfyddiadau ymchwil, a chefnogi datblygiad a chyllid prosiectau ymchwil arloesol i lywio gwneud penderfyniadau a gwella deilliannau. Mae wedi'i wneud o ddwy elfen allweddol: Synthesis Tystiolaeth a Deori Ymchwil, a eglurir isod.
Synthesis Tystiolaeth
Yng nghyd-destun y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd, mae Synthesis Tystiolaeth yn golygu'r broses o gasglu, gwerthuso ac integreiddio canfyddiadau ymchwil i gefnogi’r broses o wneudpenderfyniadau. Mae'n cynnwys:
  • Nodi Anghenion o ran Tystiolaeth: Gweithio gyda staff y Cyngor i nodi anghenion o ran tystiolaeth

  • Syntheseiddio Tystiolaeth: Mae hyn yn golygu dwyn ynghyd gwybodaeth arbenigol o wahanol ffynonellau i gynhyrchu allbynnau perthnasol ac allbynnau y mae modd eu gweithredu.
  • Prosiectau Defnyddio Gwybodaeth: Cyd-ddylunio a chyflawni prosiectau sy'n mynd i'r afael â’r anghenion tystiolaeth a nodwyd, gan sicrhau bod allbynnau'n amserol ac yn berthnasol i'r cyd-destun. Mae modd i chi ddysgu rhagor am ddefnyddio gwybodaeth yma.
Deori Ymchwil
Mae Deori Ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu a chefnogi cynigion ymchwil a cheisiadau am gyllid. Mae hyn yn cynnwys:
  • Nodi Bylchau Mewn Tystiolaeth: Gweithio gyda staff y Cyngor i nodi bylchau mewn tystiolaeth a lle mae angen cynnal gwaith ymchwil sylfaenol.
  • Datblygu Rhwydweithiau: Creu grwpiau amlddisgyblaethol i ddatblygu a chyflwyno ceisiadau am gyllid.
  • Cefnogi Staff yr ALl: Hwyluso’r broses o ddatblygu a chyflwyno ceisiadau i ariannu gwaith ymchwil a gwerthuso arloesol.

Mae'r gweithgareddau yma'n cael eu harwain gan Dr Amy Lloyd, ein Harweinydd Ymchwil a Thystiolaeth, yr aelod cyntaf i ymuno â charfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd. Mae gan Amy dros ugain mlynedd o brofiad o weithio i bontio'r bwlch rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer. Mae hi'n frwdfrydig dros dystiolaeth ac mae hi'n mwynhau dod o hyd i ffyrdd o gefnogi pobl i gael mynediad at dystiolaeth, ei ddehongli a defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael - i lywio penderfyniadau sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl. Mae gan Amy PhD mewn gwella gofal iechyd a gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus. Dyma lle taniodd ei diddordeb mewn gwella deilliannau iechyd i bawb. Mae hi ar ei hapusaf pan mae hi yn yr awyr agored, yn ddelfrydol yn y mynyddoedd gyda'i theulu a'i chi.

Caiff Amy ei chefnogi gan Greg Notman, ein Cydlynydd Synthesis Tystiolaeth. Mae Greg wedi ymuno â'r Garfan ar ôl treulio tair blynedd yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gan gefnogi amrywiaeth o brosiectau ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae'n edrych ymlaen at ddod â'r set sgiliau ymchwil yma i'r Garfan a helpu'r Cyngor i gael mynediad at ystod o dystiolaeth a'i dehongli i wella ei benderfyniadau. Y tu allan i'r gwaith, mae Greg yn gefnogwr hirhoedlog o'r Alban mewn amrywiaeth o chwaraeon a Chlwb Pêl-droed Queen of the South.

Caiff Greg ei gefnogi gan Leon Handley, Swyddog Graddedig y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd sy'n gweithio i sicrhau proses gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n sbarduno newid ystyrlon. Roedd rolau blaenorol Leon yn cynnwys gweithio fel cynorthwy-ydd personol yn helpu pobl ag anableddau i gael mynediad i'r awyr agored a gweithio fel hyfforddwr awyr agored. Roedd y rolau yma'n caniatáu iddo ddatblygu sgiliau cyfathrebu cryf, gyda'r pwyslais ar gydweithio yn ogystal ag angerdd dros greu cyfleoedd cynhwysol. Y tu allan i'r gwaith mae Leon yn mwynhau mynd allan yn yr awyr agored yn RhCT a chwrdd â phobl newydd.

Dr Oishee Kundu yw ein Cydlynydd Meithrin Gallu a Deori Ymchwil. Mae ei rôl yn cynnwys nodi ac addasu cyfleoedd hyfforddi i helpu'r Cyngor i ddod yn fwy gweithredol o ran ymchwil a gwneud cais am gyllid i wella safon yr wybodaeth sydd gyda ni am benderfynyddion iechyd ac ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd. Mae hi'n hoff iawn o ddysgu profiadol ac mae wedi datblygu gemau bwrdd yn ei rolau blaenorol gyda Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerfaddon. Mae gan Oishee PhD mewn polisi gwyddoniaeth ac mae hi'n gyffrous iawn am gyfathrebu gwyddoniaeth – mae hi'n Gymrawd Cyswllt o'r RISCS (Sefydliad Ymchwil ar gyfer Seibr-Ddiogelwch Cymdeithasol-dechnegol). Mae hi'n hoffi mynd i wyliau cerddoriaeth, mynd i wahanol leoedd ar y trên, a chysylltu â phobl i rannu straeon.
Effaith Data a Gweithredu Data
Mae ein gwaith Effaith Data a Gweithredu Data yn ymwneud â defnyddio data i lywio a gwella polisi ac arferion. Mae hyn yn cynnwys:
  • Seilwaith Data: Manteisio ar seilwaith digidol presennol yr ALl i gasglu a defnyddio gwybodaeth draws-gyfarwyddiaethol.
  • Cynnwys Tystiolaeth: Integreiddio tystiolaeth yn rhan o gylch Fframwaith Rheoli Cyflawniad blynyddol yr ALl i lywio polisi ac arferion.
  • Monitro a Rhannu Gwybodaeth: Datblygu dangosyddion a mesurau i olrhain effaith gweithgareddau’r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd a rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda gwahanol gynulleidfaoedd.

Ceri Parsons yw ein Cydlynydd Effaith a Gweithredu Data ac mae hi'n gweithio i helpu gwasanaethau Cyngor RhCT i ddefnyddio data wrth wneud penderfyniadau. Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddulliau cyfathrebu â’r cyhoedd y Garfan, fel y wefan yma! Ymunodd Ceri â Chyngor RhCT yn 2003 ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad o reoli data, gwasanaethau, systemau a gwelliannau digidol ac mae wedi gweithio gyda llawer o wahanol feysydd gwasanaeth y Cyngor, yn benodol, gwasanaethau sy'n cefnogi plant, pobl ifainc, teuluoedd a'r gymuned. Yn ei hamser hamdden, mae Ceri wrth ei bodd yn mynd i gigs (a dawnsio fel pe na bai neb yn gwylio), chwarae pŵl a threulio amser gyda'i theulu.

Caiff Ceri ei chefnogi gan Alex Jehu, Swyddog Cymorth Data ymroddedig y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd. Mae ei rôl yn cynnwys casglu, dadansoddi a rhannu data i helpu Cyngor RhCT i wneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth gref. Ar ôl tair blynedd o brofiad o weithio ym maes rheoli data gyda Mind Cwm Taf Morgannwg, ymunodd Alex â Chyngor RhCT fel prentis ansawdd data. Mae ei waith o fewn y Garfan yn cynnwys creu a rheoli cronfeydd data, sicrhau bod data yn gywir, hyfforddi eraill ar sut i ddefnyddio data a chydweithio â charfanau Cydweithrediadau Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd eraill ledled y DU i rannu gwybodaeth a gwella arferion. Y tu allan i'r gwaith, mae Alex yn mwynhau antur yn yr awyr agored o heiciau i deithiau beic hir.

Ymgysylltu a Chyfathrebu
Mae meithrin a chynnal perthnasoedd cryf gyda'n hystod eang o bartneriaid yn hanfodol wrth sicrhau llwyddiant Carfan Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT, yn ogystal â sicrhau ein bod ni'n ymgysylltu â'r bobl gywir ar yr amser cywir ac yn rhannu gwybodaeth am waith y Garfan gyda chynulleidfa amrywiol.

Dan Barlow yw ein Cydlynydd Cydymffurfiaeth ac Ymgysylltu ac mae'n gyfrifol am gydlynu gwaith gweinyddu rhaglenni a swyddogaethau cydymffurfio ar gyfer y Garfan, gan sicrhau gweithrediadau llyfn a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau cytundebol. Yn ogystal, mae Dan yn chwarae rhan allweddol wrth ymgysylltu â phartneriaid cydweithredol a rhanddeiliaid, meithrin perthnasoedd cryf a hwyluso cyfathrebu effeithiol. Drwy gefnogi aelodau'r Bwrdd Goruchwylio Strategol a'r Grŵp Cyflawni Gweithredol, mae Dan yn sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r Garfan yn cydweithio i gyflawni'r nodau o dorri’r cylch tlodi ac effeithio'n gadarnhaol ar benderfynyddion iechyd yn ein cymuned. Mae Dan yn dod â 25 mlynedd o brofiad addysgu a dysgu i'r Garfan ar ôl addysgu Cymraeg a Hanes mewn ysgolion cyfun yn y cymoedd, darlithio ar gyrsiau Meistr a gweithio ar raglenni addysg genedlaethol. Y tu allan i'r gwaith fe welwch chi Dan ar gopa mynydd, gyda'i drwyn mewn llyfr, mewn gig neu'n cludo ei dri phlentyn o amgylch De Cymru.

Shannon Lee yw ein Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned a hi yw ein swyddog sy’n hyrwyddo Dinasyddion sy'n Ymchwilwyr, gan roi rhan weithredol i ddinasyddion yn y broses ymchwil. Mae ei rôl yn cynnwys recriwtio a chefnogi aelodau o'r cyhoedd i fod yn Ymchwilwyr a/neu'n Ymgynghorwyr Profiadau Bywyd a chymryd rhan mewn grwpiau sy'n llywio prosiectau. Mae hi hefyd yn cyflawni gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd i sicrhau cyfranogiad a chynrychiolaeth y cyhoedd, gan weithio gyda phobl i gyd-gynhyrchu a chyd-gyflwyno prosiectau defnyddio gwybodaeth a gweithgareddau meithrin ymchwil. Mae Shannon yn eiriolwr annibynnol cymwys ac mae hi wedi gweithio i Age Cymru yn flaenorol gan gefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia. Mae hi hefyd wedi eirioli dros fyfyrwyr ledled De Cymru yn ei rolau fel Swyddog Lles a Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Y tu allan i'r gwaith, mae Shannon wrth ei bodd yn mynd am dro o amgylch RhCT ac mae hi bob amser yn barod i roi cynnig ar leoedd newydd i fwyta!

Victoria (Tori) Reynolds yw Swyddog Cyfathrebu’r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd. Mae hi'n gyfrifol am gynnal ac adolygu llwyfannau cyfathrebu’r Garfan i sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n cael ei rhannu gyda’r cyhoedd yn gywir, yn hygyrch ac yn amserol gan ddatblygu presenoldeb digidol i sicrhau bod y y rhaglen yn cyrraedd rhagor o bobl. oeddynt ei rôl flaenorol, roedd Tori yn gyfrifol am reoli'r garfan atal yn adran digartrefedd Cyngor Caerdydd, gan helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn y ddinas. Mae Tori yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu, bod yn yr awyr agored a theithiau cerdded yn y glaw.

Dewi Gillard yw Cynorthwy-ydd Cymorth Cydweithio y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ac mae'n darparu cymorth gyda phrosiectau a gwaith gweinyddol i'r garfan. Ymunodd Dewi â'r Cyngor yn 2020 yn rhan o'r garfan Profi, Olrhain a Diogelu, yn ystod y cyfnod yma daeth yn angerddol dros ddefnyddio ei sgiliau gweinyddu busnes er budd y gymuned. Yn ei amser hamdden mae Dewi yn gefnogwr brwd dros dîm pêl-droed Dinas Caerdydd ac mae wedi mynychu bron i 200 o gemau hyd yn hyn!

Diweddaru: 18 Meh 2025, 02:41 PM