Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Graddedigion, Interniaethau a Lleoliadau ar gyfer Myfyrwyr
Rhannu Graddedigion, Interniaethau a Lleoliadau ar gyfer Myfyrwyr ar FacebookRhannu Graddedigion, Interniaethau a Lleoliadau ar gyfer Myfyrwyr Ar TwitterRhannu Graddedigion, Interniaethau a Lleoliadau ar gyfer Myfyrwyr Ar LinkedInE-bost Graddedigion, Interniaethau a Lleoliadau ar gyfer Myfyrwyr dolen
Mae CYBI RhCT wedi ymrwymo i greu lleoliadau i raddedigion a myfyrwyr ac interniaethau sydd o fudd i'r ddwy ochr, a hynny drwy gydol oes y prosiect. Mae'r cynllun yma wedi meithrin safbwyntiau a dulliau arloesol a fydd o fudd i GYBI RhCT, a bydd yn parhau i wneud hynny, ynghyd â darparu llu o fanteision i'r rhai sy'n ymgymryd â lleoliad gyda ni, gan gynnwys:
Datblygu sgiliau
Archwilio gyrfaoedd
Profiad o'r byd go iawn
Cyfleoedd rhwydweithio
Gwella'ch cyflogadwyedd
Bwriwch olwg ar broffiliau swyddogion graddedig ac interniaid sydd wedi cwblhau eu lleoliad gyda ni ar y dudalen yma.
Dyma enghraifft o'r adborth rydyn ni wedi'i dderbyn hyd yn hyn:
'Mae'r interniaeth yma wedi bod yn gyfle datblygu proffesiynol hynod werthfawr, sydd wedi rhoi cyfle i mi ennill gwybodaeth ymarferol am Adnoddau Dynol, profiad o gynnal gwaith ymchwil, a hyder wrth gyflwyno canfyddiadau i uwch arweinwyr. Mae'r lleoliad wedi gwella fy ngallu i weithio mewn amgylchedd lle mae angen gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a bydd yn allweddol yn fy ngyrfa ym maes Adnoddau Dynol yn y dyfodol.'
'Ar y cyfan, roedd fy mhrofiad interniaeth yn werthfawr iawn ond mae cyfle bob amser i wella. Pe bawn i'n cael cyfle tebyg eto, byddwn i'n ceisio mwy o gyfleoedd i fynychu cyfarfodydd a deall y broses o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o safbwyntiau gwahanol. Roedd yr hyfforddiant MBTI yn agoriad llygad ac roedd y cymorth ar faterion lles a ddarparodd fy ngoruchwyliwr yn ddefnyddiol iawn. Roeddwn i'n deall rôl y rheolwyr ym mhob carfan, o'r garfan Adnoddau Dynol i'r garfan rheoli cyflawniad.'
'Mae'r interniaeth yma wedi bod yn brofiad trawsnewidiol, o safbwynt proffesiynol a phersonol. Rydw i wedi dysgu sgiliau gwerthfawr ym maes dadansoddi data, gwerthuso polisïau a strategaethau adnoddau dynol, yn ogystal â dealltwriaeth well o sut mae gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn siapio gweithrediadau'r sector cyhoeddus.'
Bydd yr holl swyddi gwag i raddedigion yn cael eu cyhoeddi ar wefan CBSRhCTyma.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn interniaeth neu leoliad ar gyfer myfyriwr, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfleoedd Profiad Gwaith Blaenorol
Lleoliad Profiad Gwaith: Awst 2026
Mae Beth Colcomb yn astudio Gwyddorau Biofeddygol yn Prifysgol Birmingham ar hyn o bryd ac mae gyda hi ddiddordeb cryf mewn iechyd cyhoeddus. Mae hi'n frwdfrydig am ddysgu mwy am anghyfartaleddau iechyd, dulliau ymchwil poblogaeth, gwneud penderfyniadau wedi'u llywio gan dystiolaeth, a gweithredu polisi. Yn ystod ei lleoliad gyda'r CYBI RhCT, mae hi wedi cael mewnwelediad gwerthfawr i sut mae ymchwil, profiad byw penderfyniadau wedi'u llywio gan dystiolaeth yn cael eu defnyddio i wella iechyd a lles cymunedau lleol. Trwy'i phrofiad gyda ni, mae hi wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd fydd yn ei chefnogi'i hastudiaethau mewn iechyd cyhoeddus yn y dyfodol. Yn ogystal, mae gan Beth profiad blaenorol o ymgysylltiad â'r cyhoedd trwy'i gwaith mewn sefydliadau lletygarwch lleol, sy wedi'i helpu hi adeiladu sgiliau rhyngbersonol a chwsmeriaid cryf.
Swyddog Graddedig: 2025
Roedd rolau blaenorol Leon Handley yn cynnwys gweithio fel cynorthwy-ydd personol yn helpu pobl ag anableddau i gael mynediad i'r awyr agored a gweithio fel hyfforddwr awyr agored. Roedd y rolau yma'n caniatáu iddo ddatblygu sgiliau cyfathrebu cryf, gyda'r pwyslais ar gydweithio yn ogystal ag angerdd dros greu cyfleoedd cynhwysol. Y tu allan i'r gwaith mae Leon yn mwynhau mynd allan yn yr awyr agored yn RhCT a chwrdd â phobl newydd.
Profiad Gwaith: Ionawr 2025
Mae Jennifer Mmbone Lagosa yn fyfyrwraig ryngwladol sy'n astudio am radd BSc mewn Busnes a Rheoli ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn rheoli prosiectau yn seiliedig ar ei chefndir a'i gwybodaeth. Mae hi'n frwdfrydig, yn freuddwydiwr y tu hwnt i'r ffiniau ac yn angerddol am ddysgu a hunanddatblygiad. Ymunodd hi â’n cynllun interniaeth i ennill gwybodaeth a phrofiad yn rhan o’i lleoliad 10 wythnos. Yn ystod ei hamser rhydd, mae hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda'i theulu, yn teithio i archwilio diwylliannau a phrofiadau newydd, ac yn ehangu ei safbwyntiau personol a phroffesiynol.
Profiad Gwaith: Ionawr 2025
Mae Shehab Bhuiyan yn fyfyriwr rhyngwladol ym Mhrifysgol De Cymru, yn astudio tuag at radd BA mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Mae ei waith academaidd yn canolbwyntio ar ddulliau rheoli pobl, ymddygiad sefydliadol, ac adnoddau dynol strategol. Mae Shehab yn gweithio fel intern yn rhan o garfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.
Profiad Gwaith: Ionawr 2025
Mae Shawon Kabir yn fyfyriwr Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'n ennill profiad ymarferol gyda charfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd. Yn rhan o’i waith cwrs, mae wedi datblygu sylfaen gref mewn meysydd AD allweddol, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, cyfathrebu ar gyfer busnes ac ymddygiad sefydliadol. Mae Shawon yn angerddol am Adnoddau Dynol a datblygu cymunedol.