Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Ein Partneriaid Cydweithio ar FacebookRhannu Ein Partneriaid Cydweithio Ar TwitterRhannu Ein Partneriaid Cydweithio Ar LinkedInE-bost Ein Partneriaid Cydweithio dolen
Partneriaid Cydweithio Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon TafMae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf yn cynnwys Cyngor Rhondda Cynon Taf ac ein partneriaid cydweithio sy'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwella'r modd rydyn ni'n casglu a defnyddio tystiolaeth er mwyn llywio'r modd mae penderfyniadau'n cael eu llunio yn lleol a dyluniad gwasanaethau.Mae ein partneriaid cydweithio sy'n gweithio ar y cyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnwys:
Interlink Rhondda Cynon Taf.
Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICW).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM).
Prifysgol Caerdydd.
Interlink Rhondda Cynon Taf (Dolen allanol)Mae Interlink Rhondda Cynon Taf yn elusen sy'n cael ei harwain gan aelodau gan weithio gyda dros 550 o aelodau o grwpiau cymunedol i elusennau mawr. Diben Interlink yw gweithio gyda phobl, cymunedau, a sefydliadau cymunedol er mwyn sicrhau eu bod nhw'n derbyn y cymorth maen nhw ei angen.Eu prif meysydd gwaith yw:
Cyngor a chymorth yn y Gymuned - darparu gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant, a chyllid.
Gwirfoddoli - cefnogi gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddoli.
Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a Lles – cefnogi pobl ac yn gweithio gyda’i gilydd ar ymyrraeth gynnar ac atal i wella iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
Dinesydd, Cymunedol a Llais y Trydydd Sector - helpu pobl, cymunedau a'r sefydliadau’r trydydd sector i ddylanwadu ar a chymryd camau ar y pethau hynny sy’n bwysig iddyn nhw’.
Swyddogaeth Interlink Rhondda Cynon Taf yng Nghydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon TafMae Interlink Rhondda Cynon Taf yn cynnig cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd er mwyn cynorthwyo â gwaith Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf, yn benodol cynorthwyo ein cyfranogiad cyhoeddus, ymgysylltiadau a datblygiadau cyfranogi. Ac yntau'n Gyngor Gwirfoddol Sirol, mae Interlink Rhondda Cynon Taf yn hyrwyddo a hwyluso rhyngwyneb y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd gyda nifer fawr o sefydliadau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf ac yn sicrhau bod llais y sector gwirfoddol a thrigolion yn cael ei hadlewyrchu yn natblygiad a gweithrediad y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.Iechyd Cyhoeddus Cymru (Dolen allanol)Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i ddiogelu a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer pobl Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn un o'r 11 sefydliad sy'n ffurfio GIG Cymru.Swyddogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon TafIechyd Cyhoeddus Cymru yw'r sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol ar gyfer Cymru, gan weithio i wella iechyd a lles ledled Cymru. Mae gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru arbenigedd o ran dadansoddi data, tystiolaeth, gwerthuso ac ymchwilio polisi iechyd cyhoeddus ac arfer sy'n helpu Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf i gysylltu â rhwydweithiau addysg a rennir ledled Cymru a'r DU.Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) (Dolen allanol)Mae Carfan Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg wedi'i leoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac yn cynnwys:
Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus, Rheolwyr Proffesiynol, Ymgynghorwyr a Staff Gweinyddol.
Dadansoddwyr data.
Carfan Ysgolion ac Ysgolion Meithrin Iach.
Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Helpa Fi i Stopio.
Gan weithio gyda phartneriaid statudol a'r trydydd sector, gweledigaeth y garfan yw diogelu a gwella iechyd poblogaeth Cwm Taf Morgannwg. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni'n defnyddio data a chipolwg o ran ymddygiad er mwyn nodi a mynd i'r afael â phroblemau iechyd ein poblogaeth, gan helpu i leihau anghydraddoldebau o ran deilliannau iechyd a chynyddu disgwyliad oes iach.Mae Carfan Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn gweithio ledled Awdurdodau Lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr, ar gyfer poblogaeth o 450,000 o bobl.Swyddogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yng Nghydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon TafMae'r Garfan Iechyd Cyhoeddus Lleol, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn meddu ar bortffolio eang o waith mewn perthynas â phenderfynyddion iechyd ac yn cydweithio gyda Chydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf er mwyn rhannu'r hynny maen nhw'n ei ddysgu a gwella trefniadau rhannu data. Mae hefyd modd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg helpu Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf wrth gysylltu â'r isadeiledd ymchwil rhanbarthol ehangach, er mwyn cynorthwyo a chydlynu ymchwil, arloesedd a gwelliannau ledled meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.Prifysgol CaerdyddMae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru(Dolen allanol) a DECIPHer (Dolen allanol) yn bartneriaid cydweithio Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf. Maen nhw hefyd yn rhan o'n cymuned ymchwil ac mae modd i chi ddarllen rhagor am eu cyfraniad yma.