Beth yw Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI)?

Rhannu Beth yw Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI)? ar Facebook Rhannu Beth yw Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI)? Ar Twitter Rhannu Beth yw Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI)? Ar LinkedIn E-bost Beth yw Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI)? dolen
Beth yw CYBI (Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd)?
Mae Cydweithrediadau Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) yn helpu i roi hwb i'r gallu a’r capasiti i gyflawni gwaith ymchwil ym myd llywodraeth leol. Eu nod yw ymgorffori diwylliant o ddefnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau ymhlith Cynghorau.
Mae'r CYBI yn defnyddio canfyddiadau ymchwil i ddeall sut mae penderfyniadau'n effeithio ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd. Mae'r CYBI hefyd yn chwilio am gyllid i gynnal ymchwil lle nad oes tystiolaeth ar gael eisoes. Gelwir ffactorau a all effeithio ar iechyd rhywun yn 'benderfynyddion iechyd' ac mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth, neu brofi eich gwybodaeth am benderfynyddion iechyd yma: Beth yw penderfynyddion iechyd?
Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) RhCT yn rhan o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (dolen allanol) ac yn cael ei hwyluso gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r CYBI (dolen allanol) yn cyllido, galluogi a chyflawni ymchwil gofal iechyd a chymdeithasol mwyaf arweiniol y byd sy'n gwella iechyd a lles pobl ac yn hyrwyddo twf yn yr economi.
Mae'r fideo byr yma gan ein hariannwr, NIHR, yn ddefnyddiol i ddeall beth yw ymchwil a pham ei fod yn bwysig.
Beth yw Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf?
Mae £5 miliwn wedi cael ei ddyfarnu (dolen allanol) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (2023) gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal er mwyn sefydlu Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT). Y nod yw creu diwylliant ymchwil bywiog o fewn yr Awdurdod Lleol sy'n annog gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hynny er mwyn torri’r cylch tlodi, gwella cyfleoedd bywyd y bobl fwyaf difreintiedig, a mynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd ehangach. Mae hyn yn cynrychioli:
  • Ffordd newydd o weithio i'r Cyngor.
  • Ffordd o rannu'r hyn rydyn ni yn RhCT yn ei wneud a dysgu gan eraill.
  • Cyfle unigryw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chynaliadwy i'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu.
Mae CYBI RhCT yn bartneriaeth bwerus, sy'n ymateb i anghenion pobl a chymunedau yn RhCT. Mae ein partneriaid yn cynnwys:
  • Dinasyddion sy'n byw, gweithio, astudio neu chwarae yn RhCT.
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf.
  • Interlink Rhondda Cynon Taf (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Ein cymuned ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
Beth fydd hyd prosiect CYBI RhCT?
Y bwriad yw y bydd CYBI RhCT yn gweithredu am bum mlynedd, Ionawr 2024 - Rhagfyr 2028.
Sut gall CBS RhCT ddylanwadu ar effaith Penderfynyddion Iechyd?
Mae pethau fel arian, tai, addysg, a mynediad at wasanaethau yn cael effaith fawr ar ein hiechyd — nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd yn feddyliol ac yn emosiynol. Mae llawer o broblemau iechyd yn gysylltiedig â sefyllfaoedd niweidiol, fel byw mewn tlodi neu dai gwael. Mae'r ffactorau cymdeithasol yma, fel cyflogau neu a oes modd i unigolion fanteisio ar gymorth meddygol, yn effeithio ar ba mor iach yw pobl a hyd yn oed pa mor hir y byddan nhw'n byw. Mae gan bawb brofiadau bywyd gwahanol, felly gall penderfynyddion iechyd amrywio'n fawr — hyd yn oed rhwng strydoedd cyfagos. Mae'r fideo byr yma gan ein hariannwr, yr NIHR, yn egluro pam bod penderfynyddion iechyd o ddiddordeb i'r Cyngor.
Sut gall CYBI RhCT helpu i 'wneud gwahaniaeth'?
Mae'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd yn galluogi awdurdodau lleol i ddod yn fwy gweithredol o ran ymchwil, gan ymgorffori diwylliant o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Ein nod yw:
  • Gweithio gyda'r cyhoedd i ddeall anghenion a blaenoriaethau'n well.
  • Newid y diwylliant o ran sut mae pawb yng Nghyngor RhCT yn defnyddio tystiolaeth.
  • Helpu pobl i gael mynediad at y dystiolaeth orau bosibl, ei dehongli a'i defnyddio.
  • Helpu pobl i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder i gasglu, dehongli a defnyddio tystiolaeth.
  • Cefnogi pobl i ddatblygu syniadau ymchwil newydd a gwneud cais am gyllid.
  • Cysylltu â sefydliadau eraill i rannu dysgu, data a sgiliau arbenigol.
Mae gan ein cynllun cyflawni 6 nod allweddol, sydd wedi'u rhannu'n Becynnau Gwaith. Mae modd i chi ddarllen am y rhain ar ein tudalen Pecynnau Gwaith. Mae modd i chi hefyd ddarllen rhagor am yr hyn y byddwn ni'n ei wneud a sut y byddwn ni'n gwneud hyn drwy lawrlwytho ein Cynllun Busnes sydd i'w weld yn adran 'dogfennau' y dudalen yma.
Mae'r canlyniadau rydyn ni'n disgwyl eu gweld wedi'u nodi ym Mlaenoriaeth 2, tudalen 17 o Gynllun Corfforaethol Cyngor Cyngor Rhondda Cynon Taf 2024-2030 (dolen allanol).
Sut fydd CYBI RhCT yn penderfynu beth sy'n cael ei flaenoriaethu?
Mae modd i chi ddarllen y cyfan ar ein tudalen Llywodraethu a Rheoli. Mae modd i chi hefyd ddysgu rhagor am sut rydyn ni'n blaenoriaethu'r ymholiadau am brosiectau yma.
Beth yw rolau a sgiliau arbenigol CYBI RhCT?
Mae modd i chi ddarllen am ein carfanau a'n rolau arbenigol yma.
Sut mae cynnydd yn cael ei fonitro?
Rydyn ni'n cadw llygad ar ein cynnydd gan ddefnyddio Fframwaith Rheoli Cyflawniad y Cyngor — sef y system rydyn ni'n ei defnyddio i'n helpu ni i wirio ein cynnydd yn rheolaidd. Rydyn ni hefyd yn cadw mewn cysylltiad ag Aelodau Etholedig, yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd craffu, ac yn dilyn gweithdrefnau llywodraethu clir i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg fel y dylai.
Bob tri mis, byddwn ni'n anfon adroddiad cynnydd at ein hariannwr, yr NIHR, i ddangos yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni a'r hyn y byddwn ni'n gweithio arno nesaf.
Sut fydd effaith y prosiect yn cael ei mesur?
Byddwn ni'n mesur yr effaith rydyn ni'n ei chael drwy edrych ar ddangosyddion cyflawniad allweddol (arwyddion o gynnydd), cynnal archwiliadau a gwaith gwerthuso rheolaidd, a gwrando ar adborth gan y bobl a'r sefydliadau dan sylw.
Sut fyddwch chi'n rhannu eich canfyddiadau?
Byddwn ni'n rhannu'r hyn a ddysgwn mewn llawer o wahanol ffyrdd — trwy lunio adroddiadau, cyhoeddi erthyglau, achlysuron, a thrwy rannu gwybodaeth ar ein gwefannau mewnol a chyhoeddus. Mae hyn yn ein helpu ni i gysylltu â chynifer o bobl â phosibl, y tu mewn a'r tu allan i'r Cyngor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y wefan hon i gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae modd i chi danysgrifio i gael ein cylchlythyr hefyd!

Os ydych chi'n byw, yn gweithio, yn astudio neu'n chwarae yn RhCT mae modd i chi gymryd rhan i'n helpu ni i wneud gwahaniaeth.

Diweddaru: 17 Meh 2025, 03:28 PM