Cynadleddau CYBI RhCT

Rhannu Cynadleddau CYBI RhCT ar Facebook Rhannu Cynadleddau CYBI RhCT Ar Twitter Rhannu Cynadleddau CYBI RhCT Ar LinkedIn E-bost Cynadleddau CYBI RhCT dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae cynadleddau'n rhan bwysig o waith Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) am sawl rheswm:
  1. Cyfnewid gwybodaeth: Mae'r cynadleddau yma'n rhoi llwyfan i ymchwilwyr, swyddogion llywodraeth leol, a rhanddeiliaid eraill rannu eu canfyddiadau a'u mewnwelediadau diweddaraf. Mae'r cyfnewid gwybodaeth yma'n helpu i hybu dealltwriaeth a chymhwyso ymchwil ar benderfynyddion iechyd
  2. Cyfleoedd rhwydweithio: Cyfleoedd unigryw i gysylltu â chyfoedion, cydweithwyr posibl, ac arbenigwyr yn y maes. Y gobaith yw y gall y rhyngweithio yma arwain at bartneriaethau newydd, prosiectau ar y cyd, a chysylltiadau proffesiynol gwerthfawr
  3. Datblygiad proffesiynol: Mae gweithdai, seminarau a sesiynau gwella sgiliau a gwybodaeth yn helpu gweithwyr proffesiynol i wybod am y methodolegau ymchwil, tueddiadau a'r arferion gorau diweddaraf
  4. Arddangos ymchwil: Cyfle inni dynnu sylw at yr ymchwil effeithiol sy'n cael ei chynnal o fewn CYBI RhCT a chan ein partneriaid.
  5. Adborth a gwella: Cyfle i gael adborth adeiladol gan gyfoedion. Mae'r adborth yma'n amhrisiadwy o ran mireinio dulliau ymchwil a gwella ansawdd ein gwaith.
  6. Annog ymgysylltiad: Pwysleisio pwysigrwydd ymchwil o fewn llywodraeth leol ac iechyd cymunedol ac annog diwylliant o ddysgu ac ymgysylltu parhaus ymhlith swyddogion llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill.

Diweddaru: 14 Ebr 2026, 05:28 PM