Clinigau Cymunedol

Rhannu Clinigau Cymunedol ar Facebook Rhannu Clinigau Cymunedol Ar Twitter Rhannu Clinigau Cymunedol Ar LinkedIn E-bost Clinigau Cymunedol dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Bydd Clinigau Cymunedol CYBI RhCT yn rhoi cyfle i unrhyw un sy'n byw, gweithio, astudio neu'n chwarae yn RhCT (gan gynnwys ymgynghorwyr profiad byw a sefydliadau partner a chymunedol) i gynnig eu barn nhw ar anghydraddoldebau iechyd a'n prosiectau.

Dyma gyfarfodydd sy'n seiliedig ar drafodaethau a byddan nhw'n helpu i lywio ac arwain gwaith prosiect y CYBI. Yn ystod y clinigau yma, bydd cyfle gyda chi i drafod eich profiad chi o faterion penodol, effaith anghydraddoldebau iechyd ar y gymuned leol, unrhyw syniadau sydd gyda chi o ran sut i fynd i'r afael â'r materion yma a sut i sicrhau llwyddiant y prosiect yn ogystal ag unrhyw rwystrau y gallwch chi eu nodi.

Byddwn ni'n cyhoeddi manylion y pwnc fydd dan sylw cyn yr achlysur felly os oes diddordeb gyda chi yn yr hyn rydyn ni'n ei drafod, mae croeso i chi ymuno â ni.

Rydyn ni'n cyfarfod drwy gydol y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau ac yn croesawu aelodau rheolaidd ac aelodau newydd. Mae modd i chi lenwi'r ffurflen ar waelod y dudalen yma i roi gwybod i ni eich bod chi'n dod neu gysylltu â ni mewn ffordd sy'n haws i chi (mae hyn er mwyn i ni sicrhau bod digon o de a choffi – sef y flaenoriaeth!).
Nodwch: mae'r cyfarfodydd yma'n agored i unrhyw un sydd â diddordeb ac sydd wedi cofrestru diddordeb. Nid cyfleoedd â thâl ydyn nhw.
Mae modd i chi ddod o hyd i'r wybodaeth ddefnyddiol ganlynol ar y dudalen yma:
  • Rhestr o gyfarfodydd sydd i ddod
  • Agendâu cyfarfodydd sydd i ddod
  • Nodiadau cyfarfodydd blaenorol

  • Cyn llenwi'r ffurflen yma, nodwch ddyddiad y cyfarfod yr hoffech chi fynychu (gweler yr adran Dyddiadau Allweddol ar y dudalen yma). Dim ond at ddibenion eich gwahodd i'r cyfarfod a mynychu'r cyfarfod y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol. 

    Llenwi'r ffurflen
    Rhannu Cofrestrwch ddiddordeb mewn mynychu un o Glinig Cymunedol ar Facebook Rhannu Cofrestrwch ddiddordeb mewn mynychu un o Glinig Cymunedol Ar Twitter Rhannu Cofrestrwch ddiddordeb mewn mynychu un o Glinig Cymunedol Ar LinkedIn E-bost Cofrestrwch ddiddordeb mewn mynychu un o Glinig Cymunedol dolen
Diweddaru: 22 Jul 2025, 12:02 PM