Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Beth sy'n bwysig i chi? ar FacebookRhannu Beth sy'n bwysig i chi? Ar TwitterRhannu Beth sy'n bwysig i chi? Ar LinkedInE-bost Beth sy'n bwysig i chi? dolen
Ein nod ni yw creu diwylliant sy'n caniatáu i Gyngor Rhondda Cynon Taf fod yn fwy gweithredol o ran cynnal gwaith ymchwil a defnyddio tystiolaeth i wneud penderfyniadau. Trwy wneud hyn, gallai'r Cyngor dorri'r cylch tlodi drwy fynd i'r afael â'r penderfynyddion iechyd ehangach; lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella cyfleoedd bywyd ein trigolion. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r cyhoedd i sicrhau bod gyda ni ddealltwriaeth well o beth sy'n bwysig i chi, felly os ydych chi'n byw, yn gweithio, yn chwarae neu'n astudio yn RhCT, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth trwy ddod yn rhan o bethau.Beth fydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn ei wneud?Rydyn ni'n ceisio deall beth sy'n bwysig i gymunedau RhCT. Byddwn ni'n gweithio gyda staff y Cyngor i edrych ar wahanol fathau o wybodaeth, fel barn arbenigwyr, profiadau pobl, data ac ystadegau, dulliau mesur effaith, ac ymchwil academaidd ac yn cyflwyno'r rhain mewn ffordd sy'n cefnogi'r Cyngor i ddefnyddio'r dystiolaeth yma i wneud penderfyniadau am y gwasanaethau y mae'n eu darparu.Sut y byddwn ni'n gwneud hyn?Byddwn ni'n casglu'r data yma i'n helpu ni i ddeall blaenoriaethau yn y gymuned. Bydd eich blaenoriaethau’n cael eu trafod ac yn ein helpu ni i lunio pa feysydd i ganolbwyntio arnynt nesaf. Mae modd i chi fwrw golwg ar yr hyn rydyn ni'n canolbwyntio arno ar hyn o bryd ar ein tudalen prosiectau.Sut mae modd i chi gymryd rhanMae eich profiadau chi’n werthfawr iawn i ni ac mae modd i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel sydd wedi'i nodi yma. Fodd bynnag, gall cymryd rhan fod mor syml â chwblhau arolwg barn. Cymerwch funud i ateb ein harolwg barn ar y dudalen hon, neu os oes gyda chi amser, bydden ni'n ddiolchgar pe byddai modd i chi ateb ein harolwg ar waelod y dudalen yma.Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wefan o'r enw Dewch i Siarad RhCT (Dolen allanol) sy'n rhoi cyfle i drigolion rannu eu barn ar faterion lleol, fel prosiectau newydd, y Cynllun Corfforaethol, y gyllideb a llawer yn rhagor!Sut byddwn ni'n defnyddio eich data personol?Rydyn ni'n egluro hyn yn ein Polisi Preifatrwydd.

Mae modd i chi ddefnyddio'r ffurflen yma i roi gwybod i ni beth sy'n bwysig i chi. Mae modd i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio, yn chwarae neu'n astudio yn Rhondda Cynon Taf ac sydd eisiau ein helpu ni i wneud gwahaniaeth gwblhau'r ffurflen yma. Mae hon yn brsoes wahanol i broses Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion (Dolen allanol) CBSRhCT.
Fyddwn ni ddim yn defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei darparu i geisio adnabod pwy ydych chi, felly peidiwch â nodi unrhyw wybodaeth bersonol y mae modd ei defnyddio i'ch adnabod mewn unrhyw flychau testun rhydd (oni bai eich bod chi am i ni gysylltu â chi, wrth gwrs). Mae rhagor o fanylion wedi'u cynnwys yn ein polisi preifatrwydd.
Nodwch: nid ffurflen ymholi am brosiect yw'r ffurflen yma. Os ydych chi'n sefydliad ac rydych chi'n dymuno cyflwyno ymholiad am brosiect, bwriwch olwg ar ein tudalen prosiectau am ragor o wybodaeth.
Bydd angen 10-15 munud arnoch chi i gwblhau'r arolwg yma.