Gwariant Ataliol

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Pam mae hi'n bwysig gwario arian i gadw pobl yn iachMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) yn dymuno sicrhau bod pawb yn aros yn iach ac yn hapus. Mae CBSRhCT yn credu y bydd gwario arian nawr ar wasanaethau ataliol yn helpu pobl i aros yn iach a gwella eu bywydau. Gall y gwasanaethau yma gefnogi unigolion a chymunedau, a naill ai atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol, neu o leiaf leihau eu heffaith. Bydd buddsoddi mewn cadw pobl yn hapus ac yn iach o'r cychwyn cyntaf, yn lle datrys problemau wrth iddyn nhw ddigwydd, yn gwneud gwahaniaeth mawr i bawb.Beth fydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn ei wneud?Rydyn ni'n ceisio deall sut y gall gwario arian nawr atal problemau yn y dyfodol. Byddwn ni'n edrych ar wahanol fathau o wybodaeth, fel barn arbenigwyr, profiadau pobl, data ac ystadegau, mesuriadau effaith, ac ymchwil academaidd er mwyn:- Diffinio gwariant ataliol
- Nodi gwasanaethau ataliol o fewn y Cyngor, pa broblemau maen nhw'n eu hatal a sut
- Dysgu sut mae gwario arian ar y gwasanaethau yma'n effeithio ar fywydau trigolion a chymunedau yn RhCT.
- Creu dull i archwilio meysydd lle mae'r Cyngor yn gwario arian ar fesurau atal
- Helpu gydag ymdrechion i gasglu rhagor o dystiolaeth a mesur canlyniadau
- Atal cychwynnol: Atal problemau cyn iddyn nhw ddechrau drwy helpu cymunedau cyfan.
- Atal eilaidd: Canfod a datrys problemau’n gynnar cyn iddyn nhw waethygu.
- Atal trydyddol: Lleihau effaith problemau sydd eisoes wedi digwydd.
- Atal sylfaenol: Y seilwaith sy'n galluogi pobl i fyw bywydau iach a gwella eu lles.