Mai 2025
Bydd y prosiect gwariant ataliol yn bwrw golwg ar dri maes gwasanaeth gwahanol. Y cyntaf o'r rhain yw'r gwasanaethau yn Rhondda Cynon Taf sy'n ceisio atal plant ifainc rhag mynd i ofal.
Mae Carfan y CYBI wedi nodi cwestiynau ymchwil fydd yn cael eu hateb gan ddefnyddio tystiolaeth gyfredol ac yn cael eu defnyddio i lunio:
- Adroddiad mewn perthynas â sut mae gwasanaethau'r Cyngor yn ceisio atal plant ifainc rhag mynd i ofal a pha ddeilliannau sy'n deillio o'r gwasanaethau yma.
- Mewnwelediadau er mwyn datblygu fframwaith i archwilio buddsoddiadau ataliol mewn meysydd gwasanaeth gwahanol.
Er mwyn sicrhau bod y garfan yn bwrw golwg ar y meysydd cywir, mae gyda ni ymgynghorydd profiad byw yn aelod o'r gweithgor.

Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau