Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Tlodi Plant ar FacebookRhannu Tlodi Plant Ar TwitterRhannu Tlodi Plant Ar LinkedInE-bost Tlodi Plant dolen
Helpu'r Cyngor i Fynd i'r Afael â Thlodi PlantRydyn ni, CYBI RhCT, wedi ymrwymo i gefnogi ymdrechion y Cyngor i fynd i'r afael â thlodi plant. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor i nodi sut y gall y Cyngor weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau'n fwy croesawgar ac yn fwy effeithiol o ran grymuso plant a theuluoedd y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw. Rydyn ni'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth a thystiolaeth a darparu cymorth i helpu'r Cyngor i ddeall y mater yma a datblygu argymhellion i fynd i'r afael â'r agwedd hon ar dlodi plant. Trwy wneud hyn rydyn ni'n sicrhau bod ein hargymhellion a'n camau gweithredu wedi'u targedu ac yn effeithiol, gan helpu'r Cyngor i ddefnyddio ei adnoddau yn y modd mwyaf effeithiol.Beth fydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn ei wneud?1. Cynnwys TrigolionByddwn ni'n cynnwys trigolion a bydd eu profiadau bywyd go iawn nhw yn llywio ein prosiect, gan sicrhau bod y canlyniadau'n adlewyrchu anghenion a gobeithion y rheiny y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw. Byddwn ni'n casglu 'profiad bywyd' gan y gymuned drwy weithio gyda grŵp bach o ddinasyddion a sefydliadau partner. Os ydych chi'n byw, yn gweithio, yn chwarae neu'n astudio yn RhCT, gallwch chi hefyd gymryd rhan drwy gwblhau ein harolwg yng nghornel dde uchaf y dudalen hon.2. Defnyddio GwybodaethByddwn ni'n sicrhau bod y Cyngor yn deall ac yn defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael mewn perthynas â mynd i'r afael â thlodi plant. Drwy gasglu a rhannu'r wybodaeth yma, ein nod yw helpu'r Cyngor i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae'r broses yma'n cysylltu ymchwil â chamau gweithredu yn y byd go iawn, gan ei gwneud hi'n haws i'r sawl sy'n llunio polisïau i ddefnyddio'r dystiolaeth mewn modd effeithiol.3. Cefnogi Ymchwil NewyddRydyn ni'n deall pwysigrwydd ymchwil barhaus, felly rydyn ni'n helpu'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau newydd. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i gyfleoedd, llunio ceisiadau am grantiau, a darparu'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i sicrhau cyllid. Drwy gefnogi ymchwil newydd, rydyn ni'n sicrhau bod y Cyngor yn aros ar y blaen ac yn gweithredu datrysiadau arloesol er mwyn cefnogi teuluoedd y mae tlodi yn effeithio arnyn nhw.Rhannu Ein LlwyddiannauByddwn ni'n rhannu'r canfyddiadau a'r gwersi a ddysgwyd yn rhan o'n prosiect gydag eraill ledled Cymru a'r DU. Drwy rannu'r wybodaeth yma gydag eraill, ein nod yw dylanwadu ar bolisïau ac arferion ehangach, gan sicrhau bod ein prosiect yn effeithio ar bobl sy'n byw y tu hwnt i’n hardal leol. Mae'r ymdrech yma'n helpu i dynnu sylw at ein llwyddiannau ac yn annog defnyddio strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â thlodi plant ar raddfa fwy.

Diweddaru: 10 Meh 2025, 10:44 AC
Arolwg Barn Byr
Dim pleidleisiau cyflym ar gyfer y prosiect hwn
Cylch Bywyd
Ar Agor
Tlodi Plant ar hyn o bryd yw
Mae modd i chi ddweud eich dweud ar hyn o bryd yn rhan o'r ymgynghoriad yma.
Wrthi'n cael ei adolygu
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Tlodi Plant
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau ac mae'r sylwadau a gyflwynwyd yn cael eu hadolygu a'u gwerthuso ar hyn o bryd. Bydd carfan y prosiect yn rhannu'r canlyniadau allweddol maes o law.
Adroddiad terfynol
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Tlodi Plant
Mae canlyniadau terfynol yr ymgynghoriad wedi'u cofnodi yma. Mae modd i hyn gynnwys crynodeb o'r holl sylwadau a gasglwyd yn ogystal ag argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.