Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Helpu'r Cyngor i Fynd i'r Afael â Thlodi PlantRydyn ni, CYBI RhCT, wedi ymrwymo i gefnogi ymdrechion y Cyngor i fynd i'r afael â thlodi plant. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor i nodi sut gall y Cyngor weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau'n fwy croesawgar ac yn fwy effeithiol o ran grymuso plant a theuluoedd y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw. Rydyn ni'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth a thystiolaeth a darparu cymorth i helpu'r Cyngor i ddeall y mater yma a datblygu argymhellion i fynd i'r afael â'r agwedd hon ar dlodi plant. Trwy wneud hyn rydyn ni'n sicrhau bod ein hargymhellion a'n camau gweithredu wedi'u targedu ac yn effeithiol, gan helpu'r Cyngor i ddefnyddio ei adnoddau yn y modd mwyaf effeithiol.Beth fydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn ei wneud?1. Cynnwys TrigolionByddwn ni'n cynnwys trigolion a bydd eu profiadau bywyd go iawn nhw yn llywio ein prosiect, gan sicrhau bod y canlyniadau'n adlewyrchu anghenion a gobeithion y rheiny y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw. Byddwn ni'n casglu 'profiad bywyd' gan y gymuned drwy weithio gyda grŵp bach o ddinasyddion a sefydliadau partner. Os ydych chi'n byw, yn gweithio, yn chwarae neu'n astudio yn RhCT, gallwch chi hefyd gymryd rhan drwy gwblhau ein harolwg yng nghornel dde uchaf y dudalen hon.2. Defnyddio GwybodaethByddwn ni'n sicrhau bod y Cyngor yn deall ac yn defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael mewn perthynas â mynd i'r afael â thlodi plant. Drwy gasglu a rhannu'r wybodaeth yma, ein nod yw helpu'r Cyngor i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae'r broses yma'n cysylltu ymchwil â chamau gweithredu yn y byd go iawn, gan ei gwneud hi'n haws i'r sawl sy'n llunio polisïau i ddefnyddio'r dystiolaeth mewn modd effeithiol.3. Cefnogi Ymchwil NewyddRydyn ni'n deall pwysigrwydd ymchwil barhaus, felly rydyn ni'n helpu'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau newydd. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i gyfleoedd, llunio ceisiadau am grantiau, a darparu'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i sicrhau cyllid. Drwy gefnogi ymchwil newydd, rydyn ni'n sicrhau bod y Cyngor yn aros ar y blaen ac yn gweithredu datrysiadau arloesol er mwyn cefnogi teuluoedd y mae tlodi yn effeithio arnyn nhw.4. Rhannu Ein LlwyddiannauByddwn ni'n rhannu'r canfyddiadau a'r gwersi a ddysgwyd yn rhan o'n prosiect gydag eraill ledled Cymru a'r DU. Drwy rannu'r wybodaeth yma gydag eraill, ein nod yw dylanwadu ar bolisïau ac arferion ehangach, gan sicrhau bod ein prosiect yn effeithio ar bobl sy'n byw y tu hwnt i’n hardal leol. Mae'r ymdrech yma'n helpu i dynnu sylw at ein llwyddiannau ac yn annog defnyddio strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â thlodi plant ar raddfa fwy.

Rhannu Hydref 2025 ar FacebookRhannu Hydref 2025 Ar TwitterRhannu Hydref 2025 Ar LinkedInE-bost Hydref 2025 dolen
Rydyn ni bellach yn agosáu at ddiwedd ein prosiect Tlodi Plant. Rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar y Profiad Byw a'r Gwybodaeth Broffesiynol yma yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gynhalion ni ddau gyfarfod gweithgor, gan ddod â'n sefydliadau partner cymunedol a'n ymgynghorwyr profiad byw ynghyd i roi cymorth â dealltwriaeth o'r profiadau y mae teuluoedd incwm bach yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gymorth ymarferol ac ariannol ledled Rhondda Cynon Taf .
Canolbwyntiodd y cyfarfod cyntaf ar rannu gwybodaeth broffesiynol a gafodd ei chasglu o weithdai ein sefydliadau partner, yn ogystal â sgyrsiau strwythuredig rhwng sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol y Cyngor. Canolbwyntiodd yr ail gyfarfod ar brofiad byw, gan dynnu ar arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws a gafodd ei gynnal gyda defnyddwyr y gwasanaeth, ynghyd â sgyrsiau strwythuredig gyda dau ymgynghorydd profiad byw.
Trafododd y gweithgor heriau o ran ymwybyddiaeth, prosesau ymgeisio ac ymgysylltu, a dechreuodd archwilio argymhellion posibl yn seiliedig ar y gwaith yma. Ym mis Tachwedd, bydd y gweithgor yn cwrdd i ffurfio argymhellion y mae modd i'r Cyngor eu datblygu. Bydd adroddiad llawn ar gael ar ôl i'r gweithgor gwblhau'r gwaith yma.

Rhannu Awst 2025 ar FacebookRhannu Awst 2025 Ar TwitterRhannu Awst 2025 Ar LinkedInE-bost Awst 2025 dolen
Mae'r Gweithgor Tlodi Plant wedi dewis i ganolbwyntio ar roi gwybod am wasanaethau sy'n ymarferol ac yn rhoi cymorth o ran cyllid, a'r ffyrdd y mae modd cael mynediad atyn nhw. Dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn edrych ar dystiolaeth ac erbyn hyn mae'n canolbwyntio ar brofiadau byw a gwybodaeth broffesiynol yn Rhondda Cynon Taf.
Yn rhan o'r gwaith yma, rydyn ni'n dymuno clywed pa wasanaethau y mae'r rhai sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio, eu barn nhw ar y gwasanaethau yma, a sut mae modd eu gwella. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner yn y gymuned a staff y Cyngor (sy'n gweithio'n rhan o'r gwasanaethau yma) er mwyn clywed eu barn a'u sylwadau.
Os oes diddordeb gyda chi mewn cymryd rhan, mae modd i unrhyw un sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf gyda phlentyn dan 18 lenwi'r arolwg. Mae gyda chi tan ganol mis Medi i lenwi'r arolwg.
Bydd y gweithgor yn cwrdd ym mis Medi a Hydref i drafod ac adolygu'r dystiolaeth newydd sydd wedi'i chasglu.

Rhannu Mai 2025 ar FacebookRhannu Mai 2025 Ar TwitterRhannu Mai 2025 Ar LinkedInE-bost Mai 2025 dolen
Cafodd y prosiect tlodi plant ei sbarduno gan aelodau etholedig ac mae ganddo ddau ymgynghorydd profiad byw yn rhan o'r gweithgor, yn ogystal â phedwar sefydliad partner sy'n rhoi cymorth.
Mae'r prosiect yn bwrw golwg ar y cwestiwn: "Sut mae modd i ni weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau'n fwy croesawgar ac yn fwy effeithiol o ran grymuso plant a theuluoedd y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw?". Bydd hyn yn canolbwyntio ar wasanaethau sy'n rhan o gylch gorchwyl y Cyngor.
Bydd Carfan y CYBI yn casglu mathau gwahanol o dystiolaeth er mwyn ateb y cwestiwn yma ac yn ei gyflwyno i'r gweithgor dros y flwyddyn nesaf. Bydd y grŵp yna'n cyflwyno argymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth oedd wedi'i chyflwyno iddyn nhw.

Diweddaru: 24 Mar 2026, 06:47 PM
Arolwg Barn Byr
Dim pleidleisiau cyflym ar gyfer y prosiect hwn
Amserlen yr Ymgynghoriad
Ar Agor
Tlodi Plant wedi gorffen y cam hwn
Mae modd i chi ddweud eich dweud ar hyn o bryd yn rhan o'r ymgynghoriad yma.
Wrthi'n cael ei adolygu
Tlodi Plant ar hyn o bryd yw
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau ac mae'r sylwadau a gyflwynwyd yn cael eu hadolygu a'u gwerthuso ar hyn o bryd. Bydd carfan y prosiect yn rhannu'r canlyniadau allweddol maes o law.
Adroddiad terfynol
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Tlodi Plant
Mae canlyniadau terfynol yr ymgynghoriad wedi'u cofnodi yma. Mae modd i hyn gynnwys crynodeb o'r holl sylwadau a gasglwyd yn ogystal ag argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.