Mai 2025
Cafodd y prosiect tlodi plant ei sbarduno gan aelodau etholedig ac mae ganddo ddau ymgynghorydd profiad byw yn rhan o'r gweithgor, yn ogystal â phedwar sefydliad partner sy'n rhoi cymorth.
Mae'r prosiect yn bwrw golwg ar y cwestiwn: "Sut mae modd i ni weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau'n fwy croesawgar ac yn fwy effeithiol o ran grymuso plant a theuluoedd y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw?". Bydd hyn yn canolbwyntio ar wasanaethau sy'n rhan o gylch gorchwyl y Cyngor.
Bydd Carfan y CYBI yn casglu mathau gwahanol o dystiolaeth er mwyn ateb y cwestiwn yma ac yn ei gyflwyno i'r gweithgor dros y flwyddyn nesaf. Bydd y grŵp yna'n cyflwyno argymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth oedd wedi'i chyflwyno iddyn nhw.

Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau