Hydref 2025
Rydyn ni bellach yn agosáu at ddiwedd ein prosiect Tlodi Plant. Rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar y Profiad Byw a'r Gwybodaeth Broffesiynol yma yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gynhalion ni ddau gyfarfod gweithgor, gan ddod â'n sefydliadau partner cymunedol a'n ymgynghorwyr profiad byw ynghyd i roi cymorth â dealltwriaeth o'r profiadau y mae teuluoedd incwm bach yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gymorth ymarferol ac ariannol ledled Rhondda Cynon Taf .
Canolbwyntiodd y cyfarfod cyntaf ar rannu gwybodaeth broffesiynol a gafodd ei chasglu o weithdai ein sefydliadau partner, yn ogystal â sgyrsiau strwythuredig rhwng sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol y Cyngor. Canolbwyntiodd yr ail gyfarfod ar brofiad byw, gan dynnu ar arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws a gafodd ei gynnal gyda defnyddwyr y gwasanaeth, ynghyd â sgyrsiau strwythuredig gyda dau ymgynghorydd profiad byw.
Trafododd y gweithgor heriau o ran ymwybyddiaeth, prosesau ymgeisio ac ymgysylltu, a dechreuodd archwilio argymhellion posibl yn seiliedig ar y gwaith yma. Ym mis Tachwedd, bydd y gweithgor yn cwrdd i ffurfio argymhellion y mae modd i'r Cyngor eu datblygu. Bydd adroddiad llawn ar gael ar ôl i'r gweithgor gwblhau'r gwaith yma.
Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau