Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Gwybodaeth am Brosiectau'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI)
Rhannu Gwybodaeth am Brosiectau'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) ar FacebookRhannu Gwybodaeth am Brosiectau'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Ar TwitterRhannu Gwybodaeth am Brosiectau'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Ar LinkedInE-bost Gwybodaeth am Brosiectau'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) dolen
Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) RhCT - Ymholiadau a ChynigionAll CYBI RhCT eich helpu chi?Mae prosiect CYBI yn dechrau fel syniad sy'n ceisio canfod sut y gall y Cyngor ddefnyddio tystiolaeth yn well i wneud penderfyniadau ar gyfer maes, gwasanaeth neu brosiect penodol. Cafodd siart dystiolaeth CYBI RhCT ei datblygu i esbonio'r holl wahanol fathau o dystiolaeth sydd eu hangen er mwyn gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Y mathau gwahanol o dystiolaeth yw; profiad byw, ymchwil academaidd, gwybodaeth broffesiynol, data sefydliadol, data poblogaeth a data rheoli effaith.
Lewing, Gross a Molloy (2022), Early Intervention Foundation (wedi’i addasu)
Gallai syniad am brosiect ddod gan y canlynol:
Staff CBSRhCT- gallai staff y Cyngor nodi cyfleoedd neu feysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella
Gallai aelodau o’r cyhoedd nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella trwy rannu beth sy'n bwysig iddyn nhw, neu trwy ddod yn Ymgynghorwyr Profiad Bywyd. Gall CYBI RhCT gychwyn prosiect yn seiliedig ar yr wybodaeth hon.
Ar ôl i'r syniad yma gael ei nodi, mae angen gweld a oes modd i GYBI RhCT helpu. Mae modd i ni helpu gyda'r meysydd canlynol:
Cymorth i gael mynediad at y dystiolaeth orau bosibl, ei dehongli a'i defnyddio at ddiben penodol
Cymorth i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder o ran casglu tystiolaeth, ei dadansoddi a'i defnyddio wrth gyflawni gwaith o ddydd i ddydd.
Cymorth i ddatblygu syniadau ymchwil newydd at ddibenion mynd i'r afael â bylchau yn y sylfaen dystiolaeth, gwneud cysylltiadau ag academyddion a chyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer ymgymryd ag ymchwil newydd e.e. arfarnu gwasanaeth.
Os ydych chi'n teimlo y byddai modd i'r CYBI roi cymorth i chi, mae modd i chi gyflwyno ymholiad i GYBI RhCT. Dim ond ar adegau penodol o'r flwyddyn y byddwn ni'n derbyn ymholiadau mewn perthynas â phrosiectau ar hyn o bryd, mae modd i chi wirio pryd y byddwn ni'n croesawu prosiectau yma.Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) RhCT - Y broses Ymholi a ChynigionCam 1: Adolygiad CychwynnolMae'r broses yn dechrau adeg cyflwyno'r ymholiad. Caiff ei adolygu yn gyntaf gan Garfan CYBI RhCT, sy'n asesu a yw'r ymholiad yn gyflawn, yn berthnasol, ac yn cyd-fynd ag amcanion y CYBI a strategaeth gorfforaethol Cyngor RhCT. Os oes angen, bydd modd i'r garfan ofyn i'r ymholwr am ragor o wybodaeth. Os nad yw'r ymholiad yn bodloni'r gofynion sylfaenol, bydd yr ymholiad yn cael ei wrthod. Os yw'r ymholiad yn cael ei nodi'n ymholiad addas, bydd yn symud ymlaen i gyfarfod Clinig y Garfan CYBI er mwyn ei asesu.Cam 2: Cyfarfod Clinig y Garfan CYBIYn ystod y cam yma, bydd aelodau o’r Garfan yn cwrdd â'r ymholwr i drafod eu hymholiad yn fanylach. Mae'r cam yma'n helpu i asesu sut y gallai'r ymholiad fod o fudd i'r Cyngor, o fudd i drigolion, a chefnogi'r CYBI i adeiladu'r seilwaith ymchwil. Mae'n helpu Carfan y CYBI i asesu'r ymholiad o safbwynt pwysigrwydd; angen; effaith; materion dichonoldeb; cost a chapasiti; a sut mae'r ymholiad yn cydweddu â threfniadau cyllid a blaenoriaethau'r CYBI. Os bydd problemau mawr yn codi, fel nodau aneglur, diffyg adnoddau, pryderon moesegol, neu flaenoriaethau sy'n gwrthdaro, mae modd i'r garfan wrthod yr ymholiad. Fel arall, mae'n symud ymlaen i adolygiad gan Bartner Cydweithredol.Cam 3: Adolygiad gan Bartner CydweithredolYna caiff yr asesiad sydd wedi'i gynnal gan Garfan y CYBI ei rannu â Phartneriaid Cydweithredol y CYBI er mwyn ceisio'u sylwadau a'u mewnbwn nhw. Mae'r broses hon yn helpu i nodi sut mae'r ymholiad yn cysylltu â blaenoriaethau, ymchwil a gwaith prosiect presennol, pwy arall allai gefnogi'r gwaith yma a pha gapasiti sydd yna i ddatblygu a chyflawni'r prosiect dan sylw. Yna caiff y sylwadau eu defnyddio gan bartneriaid cydweithredol i wneud penderfyniad ynghylch a dylid cymeradwyo'r ymholiad yn brosiect CYBI. Os ystyrir bod y cynnig yn risg uchel, yn aneglur, yn rhy gostus, neu'n brin o gefnogaeth gan randdeiliaid, mae modd gwrthod y cynnig.Cam 4: Datblygu'r CynnigOs yw ymholiad yn llwyddo yn y cam clinig, bydd Nodyn Cwmpasu ffurfiol ar gyfer y prosiect sy'n cael ei gynnig yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â'r ymholwr. Mae'r ddogfen yma'n mireinio amcanion, methodoleg, cwestiynau ymchwil a chanlyniadau disgwyliedig y prosiect. Mae'r ddogfen hefyd yn cadarnhau'r manylion allweddol, gan gynnwys amserlenni, adnoddau gofynnol, moeseg a rhannu canfyddiadau. Mae hefyd yn rhannu'r prosiect yn dasgau unigol.Cam 5: Cytundeb y CynnigBydd gofyn i Noddwr y Prosiect (h.y. y person a fydd yn gyfrifol am berchen ar y prosiect) a Phennaeth y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd lofnodi Cytundeb y Cynnig. Yna, bydd y cytundeb yma'n cael ei ddefnyddio er mwyn llywio sut y bydd y prosiect yn cael ei weithredu a hefyd i fonitro cynnydd yn erbyn amserlenni i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau ar amser.Cam 6: Mae ein prosiect wedi dechrau!Dyma lle byddwn ni'n ymgymryd â'r tasgau sydd wedi'u cytuno a'u nodi yng Nghytundeb y Cynnig. Yn ystod y cam hwn, bydd carfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd yn sefydlu Grwpiau Prosiect, sy'n cynnwys arbenigwyr, a fydd yn dod at ei gilydd i helpu i gefnogi ac arwain y gwaith o gasglu tystiolaeth. Bydd Partneriaid Cydweithredol yn cael gwybod am y cynnydd sydd wedi'i wneud yn rhan o sesiynau'r Grŵp Cyflawni Gweithredol. Bydd prosiectau perthnasol yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, lle bydd modd i chi weld beth rydyn ni'n canolbwyntio arno a hyd yn oed cymryd rhan!Cam 7: Gwerthuso ac AdroddOs bydd prosiect yn cael ei gwblhau, bydd yr holl ganlyniadau'n cael eu hasesu, a chaiff adroddiad terfynol ei lunio. Caiff yr holl ganfyddiadau eu rhannu a bydd yr holl wersi a ddysgwyd yn cyfrannu at wella'r broses ymholi a chynigion.
Cydlynydd Cydymffurfio ac Ymgysylltu