Sefydliadau Partner a Chymunedol

Rhannu Sefydliadau Partner a Chymunedol ar Facebook Rhannu Sefydliadau Partner a Chymunedol Ar Twitter Rhannu Sefydliadau Partner a Chymunedol Ar LinkedIn E-bost Sefydliadau Partner a Chymunedol dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae sefydliadau partner yn grwpiau cymunedol lleol, elusennau neu sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd i waith y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.
Maen nhw'n gwneud hyn trwy gyflawni'r camau canlynol:
  • Darparu ymgynghoriaeth arbenigol
  • Darparu tystiolaeth (eu profiadau fel sefydliad)
  • Hwyluso mynediad (uniongyrchol neu anuniongyrchol) at dystiolaeth o brofiad byw (unigolion y maen nhw'n gweithio gyda nhw)
Os ydych chi'n gweithio i sefydliad lleol ac yn awyddus i gymryd rhan yn un o'n prosiectau, bydd y cyfleoedd ar gyfer sefydliadau partner yn cael eu rhannu yma. Bydd y cyfleoedd yn manylu ar yr ymrwymiad amser sydd ei angen, canolbwynt y prosiect, a'r gefnogaeth a gaiff ei chynnig i'r rhai sy'n cymryd rhan.
Ochr yn ochr â chefnogaeth gan garfan Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd yn ystod eich cyfranogiad, mae sefydliadau partner hefyd yn cael eu talu am eu hamser a'u gwybodaeth arbenigol wrth gefnogi gwaith prosiect a wneir gan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd. Mae cyfraddau talu yn cael eu gosod yn ôl y prosiect a'u cytuno ymlaen llaw mewn trafodaeth â charfan Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd. Mae modd i sefydliadau partner anfonebu'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ar ddiwedd eu cyfranogiad mewn prosiect.
Caiff sefydliadau partner eu hannog i fynychu ein Clinigau Cymunedol sy'n lle i ymgynghorwyr profiad byw a sefydliadau partner a chymunedol i gynnig eu barn nhw ar anghydraddoldebau iechyd a'n prosiectau. Am wybodaeth ynghylch pryd y caiff ein clinig nesaf ei gynnal, cliciwch yma.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch CYBI@rctcbc.gov.uk.

Diweddaru: 22 Jul 2025, 12:04 PM