Cymuned Ymchwil
Mae ein cymuned ymchwil yn cynnwys ein partneriaid cydweithio megis Prifysgol Caerdydd a rhwydwaith o bartneriaid cynorthwyol ar draws Prifysgol Caerdydd a thu hwnt. Rydyn ni wedi'n cysylltu â dros 30 o brifysgolion ledled y DU yn rhan o rwydwaith Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, ac yn defnyddio arbenigedd academaidd penodol o ran pwnc gan academyddion ledled sefydliadau rhyngwladol. Trwy ein partner cydweithio, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydyn ni wedi'n cysylltu â What Works Network (Dolen allanol) (grŵp o ganolfannau sy'n defnyddio tystiolaeth i wella dyluniad a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus) a Rhwydwaith Ymgysylltiad Polisi Prifysgolion.
Partneriaid Cydweithio Prifysgol Caerdydd
Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Wales (Dolen allanol) (WCPP), sydd wedi'u lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi datblygu dull arobryn, sy'n cael ei lywio gan alw o ran defnyddio tystiolaeth ymchwil.
Wedi'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, mae'r ganolfan yn cydweithio gydag arbenigwyr polisi blaenllaw er mwyn darparu tystiolaeth gynhwysfawr, berthnasol ac amserol i weinidogion, y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gwella penderfyniadau polisi a deilliannau.
Mae gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru hanes da o gyd-gynhyrchu tystiolaeth ymchwil gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol eraill.
Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd
Mae'r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (Dolen allanol) (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd yn Ganolfan Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Rhagorol.
Mae DECIPHer yn dod ag arbenigwyr blaenllaw at ei gilydd o ystod o ddisgyblaethau er mwyn mynd i'r afael â phroblemau iechyd cyhoeddus megis iechyd meddwl a lles, perthnasoedd cymdeithasol cadarnhaol, deiet a maeth, gweithgarwch corfforol a thybaco, alcohol a chyffuriau, gyda chanolbwynt penodol ar ddatblygu a gwerthuso dulliau system aml-lefel fydd yn cael effaith ar iechyd a lles plant a phobl ifainc. Mae DECIPHer yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae DECIPHer wedi datblygu sawl Rhwydwaith Gwella Iechyd Cyhoeddus effaith uchel a chyrsiau byr yn llwyddiannus, sy'n hwyluso Grwpiau Datblygu Ymchwil i gyd-gynhyrchu astudiaethau ymchwil, a throsi tystiolaeth er mwyn gwella iechyd a lles wrth leihau anghydraddoldebau, e.e. Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) (14). Bydd DECIPHer yn darparu hyfforddiant adeiladu capasiti.
Partneriaid Cynorthwyol Prifysgol Caerdydd
Rydyn ni'n datblygu partneriaethau gyda'r adrannau canlynol ym Mhrifysgol Caerdydd:
- Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE)
- Canolfan Datblygiad ac Ymchwil Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE)
- Adran Feddyginiaeth y Boblogaeth (DPM)
- Ysgol Seicoleg
- Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddau a Gwybodaeth
- Canolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC)
- Canolfan Treialon Ymchwil Adran Feddyginiaeth y Boblogaeth (CTR)
- Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifainc
- Rhaglen Hyfforddi Ymgysylltiad, Effaith ac Ymchwil CBLC
- Sefydliad Ymchwil Dŵr
- Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol
Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol
Mae sawl un o'n partneriaid o Brifysgol Caerdydd gan gynnwys DECIPHer a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhan o'r Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (Dolen allanol) (Sbarc/Spark), sy'n dod ag arbenigedd o ganolfannau ymchwil ynghyd sy'n arbenigo mewn gofal cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus, yr hinsawdd a chynaliadwyedd a rhwydwaith ehangach o ganolfannau ymchwil rhagorol sy'n berthnasol i faes iechyd y boblogaeth. Mae hyn yn darparu mynediad at ystod eang o arbenigedd er mwyn cefnogi prosiectau, gyda chymorth y cyswllt â Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
Partneriaid Ymchwil Eraill
- Prifysgol Bangor
- Y Brifysgol Agored