Staff Cyngor Rhondda Cynon Taf

Rhannu Staff Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Facebook Rhannu Staff Cyngor Rhondda Cynon Taf Ar Twitter Rhannu Staff Cyngor Rhondda Cynon Taf Ar LinkedIn E-bost Staff Cyngor Rhondda Cynon Taf dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae'r Cyngor yn cyflogi dros 10,000 o staff ar draws ei adrannau. Mae staff y Cyngor yn cyflawni swyddogaeth hanfodol o ran gwella iechyd a lles cymunedau lleol drwy siapio'r amodau mae pobl yn byw ynddyn nhw o ddydd i ddydd. Mae modd i staff Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf helpu i ddeall beth sydd wir yn cael effaith ar iechyd pobl a sut mae modd i'w gwaith helpu er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy eu cynorthwyo nhw i:

  1. Cael gafael ar y data gorau sydd ar gael, ei ddehongli a'i ddefnyddio
  1. Datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder i gasglu, dehongli a defnyddio tystiolaeth yn eu gwaith o ddydd i ddydd
  2. Datblygu syniadau ymchwil newydd er mwyn mynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth.

Mae'r fideo byr yma gan ein darparwr cyllid, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yn esbonio sut mae modd i staff Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n cymryd rhan mewn ymchwil wneud gwahaniaeth.

Am ragor o wybodaeth, bwriwch olwg ar ein prosiectau cysylltiedig ar ochr chwith de'r dudalen yma, neu gysylltwch â ni. Hefyd mae modd i staff Cyngor Rhondda Cynon Taf chwilio am adran y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ar INFORM neu RCT Source am adnoddau sydd wedi'u teilwra.

Diweddaru: 22 Jul 2025, 12:01 PM