Ffynonellau Data Mynediad Agored

Rhannu Ffynonellau Data Mynediad Agored ar Facebook Rhannu Ffynonellau Data Mynediad Agored Ar Twitter Rhannu Ffynonellau Data Mynediad Agored Ar LinkedIn E-bost Ffynonellau Data Mynediad Agored dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Dyma rai ffynonellau data sy'n benodol i Rondda Cynon Taf, wedi'u grwpio yn ôl mathau o dystiolaeth y Gacen Dystiolaeth y CYBI. Mae'r setiau data yma ar gael i bawb, sy'n golygu eu bod yn rhad ac am ddim i'w defnyddio, eu rhannu a'u haddasu, ond rhaid i chi roi cydnabyddiaeth i'r ffynhonnell wreiddiol wrth eu defnyddio. Mae'n debyg i fenthyg llyfr o lyfrgell - fe gewch chi eu darllen, cymryd nodiadau, a rhannu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu, ond mae angen i chi gydnabod o ble daeth yr wybodaeth. Mae hyn yn sicrhau eglurder ac yn rhoi cydnabyddiaeth briodol i'r sawl wnaeth greu'r data.

Lewing, Gross a Molloy (2022), Early Intervention Foundation (wedi’i addasu)

Data Profiad Byw
Cafodd Arolwg 'Eich Llais' Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid 2022-2023 (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) ei gynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Casglodd ymatebion gan bron i 5,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ar draws lleoliadau amrywiol, gan gynnwys ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid a chanolfannau yn y gymuned. Roedd yr arolwg yn ymwneud ag ystod o feysydd thematig megis addysg, cyflogaeth, lles, defnydd o'r rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol, cymuned, newid hinsawdd, troseddu, bwlio, hawliau a gweithgareddau. Mae modd defnyddio'r data arolwg yma i gynllunio gwasanaethau a pholisïau ar gyfer pobl ifainc, gan fynd i'r afael â'u hanghenion a'u pryderon yn effeithiol.
Data Sefydliadol a Gwybodaeth Broffesiynol
Mae llawer o ddata yn nogfennau Adroddiadau'r Cabinet (dolen allanol) a Chyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (dolen allanol), yn enwedig data gwybodaeth sefydliadol a phroffesiynol, a gaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau yn yr awdurdod lleol. Mae modd ichi hefyd ddod o hyd i ddata sefydliadol ar wasanaethau unigol ar dudalennau cyflawniad y Cyngor (dolen allanol).
Data Mesur Effaith
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol (dolen allanol) - dyma adroddiad blynyddol sy'n taflu goleuni ar gyflawniadau a heriau adran gwasanaethau cymdeithasol Rhondda Cynon Taf. Mae modd defnyddio'r adroddiad yma i ddeall cyflawniad a heriau'r adran gwasanaethau cymdeithasol, gan lywio strategaethau a gwelliannau yn y dyfodol.
Data Poblogaeth
Mae yna lawer o sefydliadau sy'n cynnig data poblogaeth mynediad agored ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac eraill. Mae modd bwrw golwg ar eu gwefannau yma:
Data Cymru (dolen allanol) - sefydliad sy'n helpu awdurdodau lleol yng Nghymru i ddod o hyd i ddata, eu dadansoddi a'u cyflwyno'n effeithiol.
Adran Gwaith a Phensiynau (dolen allanol) - yn ymwneud â meysydd fel budd-daliadau, pensiynau, rhaglenni cyflogaeth, a dosbarthiad incwm.
NOMIS (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) (System Gwybodaeth Gweithlu Ar-lein Genedlaethol) - gwasanaeth a gaiff ei ddarparu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y DU, sy'n cynnig ystadegau swyddogol ar boblogaeth, cymdeithas a'r farchnad lafur
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) - yn gyfrifol am gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data sy'n ymwneud â'r economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cynnal y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr bob deng mlynedd ac yn darparu mewnwelediadau allweddol sy'n llywio polisïau'r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.
Iechyd Cyhoeddus Cymru (dolen allanol) - data ac adroddiadau swyddogol wedi'u cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n ymwneud â meysydd allweddol fel tueddiadau iechyd, gwasanaeth cadw golwg ar glefydau, rhaglenni sgrinio, a mentrau iechyd cyhoeddus. Mae'r ystadegau yma'n helpu'r sawl sy'n llunio polisïau, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a'r cyhoedd i ddeall heriau a gwelliannau iechyd ledled Cymru.
StatsCymru (dolen allanol) - gwasanaeth data ar-lein rhad ac am ddim wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, sy'n cynnig ystadegau swyddogol manwl ar wahanol agweddau ar fywyd yng Nghymru, gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, tai a llywodraeth leol. Mae modd i ddefnyddwyr weld, trin, creu a lawrlwytho tablau i ddadansoddi data Cymru ar gyfer ymchwil, llunio polisïau a gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus.
Gwaith Ymchwil Academaidd
Mae modd bwrw golwg ar y rhain yn fanylach yn ein hadran Adnoddau Ymchwil.

Diweddaru: 22 Jul 2025, 12:03 PM