Adnoddau Hyfforddi Eraill

Rhannu Adnoddau Hyfforddi Eraill ar Facebook Rhannu Adnoddau Hyfforddi Eraill Ar Twitter Rhannu Adnoddau Hyfforddi Eraill Ar LinkedIn E-bost Adnoddau Hyfforddi Eraill dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae yna lawer o adnoddau hyfforddi rhagorol ar gael a all eich helpu i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bwriwch olwg isod ar ein hadnoddau wedi'u hargymell.

NIHR (National Institute for Health and Care Research)

Mae'r NIHR (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) yn cynnig ystod o webinarau hyfforddi sy'n cynnwys pynciau megis darllen papurau ymchwil, ymwneud y cyhoedd, a dadansoddi data.

NIHR PHIRST(Public Health Intervention Responsive Studies Teams)
NIHR PHIRST (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) yw rhaglen wedi'i hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) sy'n helpu awdurdodau lleol i werthuso mentrau iechyd cyhoeddus. Mae seminarau NIHR PHIRST yn rhoi manylion am eu portffolio gwerthusiadau amrywiol ac yn ymchwilio'n fanwl i bynciau perthnasol.
Mae sianel YouTube NIHR PHIRST (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) yn cynnwys recordiadau o'u seminarau.
Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru
Nod Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru (dolen allanol) yw casglu cyfoeth o adnoddau defnyddiol mewn un man am bob agwedd ar gyd-gynhyrchu, yn ogystal â chyfeirio at ragor. Pe hoffech chi ddysgu rhagor, bwriwch olwg ar ei sylfaen wybodaeth (dolen allanol).
Y Brifysgol Agored
Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig cyrsiau ar-lein am ddim ar ymchwil, data a thystiolaeth drwy OpenLearn (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig).
NCRM (National Centre for Research Methods)
Mae'r NCRM yn cynnig rhaglen barhaus o gyrsiau byr a gweithdai. Ewch i'w wefan yma (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig).
Data Cymru
Mae Data Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi yn rhan o'i raglen adeiladu capasiti, dan arweiniad arbenigwyr yn eu maes. Caiff y cyfleoedd eu cyflwyno ar-lein. Bwriwch olwg ar ei gyrsiau hyfforddi (dolen allanol).
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu, a chanllawiau ar baratoi ystadegau ac adrodd arnyn nhw. Mae modd ichi gael cip ar yr hyn mae'n ei gynnig yma (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig).
Adnoddau Hyfforddi Cydweithrediadau Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd eraill
Ar hyn o bryd mae 30 o Gydweithrediadau Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ledled y DU. Maen nhw'n cynnig adnoddau hyfforddi a gweminarau sydd ar gael i'r cyhoedd ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Caerwenbir (Coventry)
Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Caerwenbir (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) yn cydlynu cyfres fisol o weminarau, y mae modd ichi gofrestru ar eu cyfer (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) neu mae modd gwylio'i recordiadau drwy ei Sianel YouTube (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig).
Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd De Tees
Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd De Tees (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) yn cynnig llu o fideos hyfforddi drwy ei Wefan Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig), a hefyd drwy ei Sianel YouTube (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) .
Am restr lawn o Gydweithrediadau Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd a'u gwefannau cysylltiedig, ewch i Adran 'HDRC' gwefan NIHR (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig).

Bydd rhagor o adnoddau hyfforddi ar y gweill yn fuan.

Diweddaru: 22 Jul 2025, 12:08 PM