Adnoddau Ymchwil

Rhannu Adnoddau Ymchwil ar Facebook Rhannu Adnoddau Ymchwil Ar Twitter Rhannu Adnoddau Ymchwil Ar LinkedIn E-bost Adnoddau Ymchwil dolen
Os ydych chi'n drafftio adroddiad yn y gwaith, archwilio arferion gorau neu eisiau bod yn effro i'r newyddion diweddaraf, mae cael mynediad at ymchwil academaidd o ansawdd yn hanfodol. Isod, mae rhai adnoddau a llwyfannau dibynadwy fyddai'n gallu eich helpu chi i ddod o hyd i astudiaethau academaidd, eu hidlo a’u deall.
Cyn i chi ddechrau chwilio, dylech chi fod yn effro i ddau derm: adolygiad gan gyfoedion a rhag-argraffiadau.
Mae ymchwil academaidd yn wynebu dau adolygiad anhysbys gan gyfoedion, gan olygu bod arbenigwyr academaidd eraill yn darllen erthygl ac yn rhoi adborth i'r awduron a golygyddion cyn i erthygl gael ei derbyn a'i chyhoeddi. Mae ansawdd y broses adolygu gan gyfoedion yn amrywio o gyfnodolyn i gyfnodolyn ond credir iddo gynyddu dibynadwyedd cyhoeddiadau yn gyffredinol. Efallai na fydd rhai deunyddiau academaidd yn cael eu hadolygu llawer gan gyfoedion. Ceisiwch ddyfynnu ymchwil wedi'i adolygu gan gyfoedion mor aml â phosibl.
Mae rhag-argraffiadau yn fersiynau cynnar o bapurau ymchwil sy'n cael eu rhannu'n gyhoeddus cyn y cam adolygu gan gyfoedion. Maen nhw'n ddefnyddiol er mwyn cael mynediad at y canfyddiadau diweddaraf, yn enwedig mewn meysydd sy'n newid yn gyflym ac mae modd iddyn nhw gynnig cipolwg ar syniadau sy'n dod i'r amlwg neu safbwyntiau newydd. Fodd bynnag, am nad ydyn nhw wedi cael eu hadolygu yn ffurfiol, does dim modd sicrhau eu cywirdeb, ac mae modd i gasgliadau newid mewn fersiynau diweddarach. Mae modd i rag-argraffiadau fod yn werthfawr am iddyn nhw fod ar flaen y gad o ran ymchwil, ond cofiwch fod modd i hyn fod yn annibynadwy a dylai canfyddiadau gael eu defnyddio mewn modd gwyliadwrus - yn enwedig wrth lywio polisi neu lunio penderfyniadau.
Pob hwyl gyda'r chwilio!
1. Google Scholar
Adnodd hawdd i'w ddefnyddio a chael mynediad ato, mae Google Scholar (Dolen allanol) (Dolen allanol) yn eich galluogi i chwilio ar draws ystod eang o erthyglau, llyfrau a phapurau cynhadleddau academaidd. Yn aml, mae'n cysylltu'n unionyrchol â fersiynau testun llawn lle bynnag maen nhw ar gael. Fodd bynnag, os ydych chi'n wynebu tâl-fur, ystyriwch gysylltu â'r awdur cyfatebol a/neu chwiliwch ar ResearchGate (Dolen allanol) (Dolen allanol).
2. ResearchGate
Rhwydwaith lle mae ymchwilwyr yn lanlwytho eu cyhoeddiadau eu hunain ac yn cydweithio ag eraill. Mae ResearchGate (Dolen allanol) (Dolen allanol) yn aml yn eich galluogi chi i gyflwyno cais am gopïau testun llawn o bapurau yn uniongyrchol gan awduron, sy'n ddefnyddiol dros ben os ydy tâl-fur yn eich rhwystro chi rhag cael mynediad at ymchwil. Mae'r fersiwn sy'n cael ei rannu gan awdur yn aml yn cael ei alw'n "llawysgrif wedi'i dderbyn gan yr awdur". Dyma fersiwn terfynol neu fersiwn y papur sydd wedi'i dderbyn yn dilyn yr adolygiad gan gyfoedion.
3. The Conversation
Mae The Conversation (Dolen allanol) (Dolen allanol) yn cyhoeddi erthyglau sy'n seiliedig ar ymchwil sydd wedi'u hysgrifennu gan academyddion ac wedi'u golygu er dibenion eglurder a pherthnasedd i'r cyhoedd cyffredinol. Mae'n ffordd wych o gael mynediad at yr wybodaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr mewn perthynas â materion cyfredol mewn fformat hawdd i'w ddeall.
4. PubMed
Yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy'n gweithio ym maes iechyd, meddygaeth neu iechyd cyhoeddus, mae PubMed (Dolen allanol) yn adnodd am ddim sy'n cael ei gynnal gan Lyfrgell Genedlaethol Meddygaeth yr Unol Daleithiau, gan fynd i'r afael â llenyddiaeth fiofeddygol gan MEDLINE, cyfnodolion gwyddorau bywyd, a llyfrau ar-lein.
5. Cochrane Library
Mae'r Cochrane Library (Dolen allanol) yn ffynhonell dystiolaeth ar-lein yn ymwneud ag effeithiolrwydd ystod eang o ymyriadau mewn perthynas â gofal iechyd. Mae'n cynnwys adolygiadau testun llawn Cochrane wedi'u cyhoeddi ar-lein, detholiadau strwythurol o adolygiadau systematig eraill sydd wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolion meddygol ac iechyd eraill, a chofrestr o dreialon clinigol wedi'u rheoli. Mae am ddim yn bennaf i gyhoedd y DU, gan gynnwys staff y GIG, prifysgolion ac ati.
6. arXiv
Mae arXiv (Dolen allanol) yn storfa o rag-argraffiadau ac un o'r mannau gorau i gael mynediad am ddim at ymchwil ym meysydd ffiseg, mathemateg, gwyddorau cyfrifiadurol, bioleg feintiol, ystadegau cyllid feintiol, peirianneg drydanol a gwyddorau systemau, ac economeg.
7. SocArXiv
Mae archif agored gwyddorau cymdeithasol SocArXiv (Dolen allanol) yn darparu llwyfan am ddim ar gyfer gwyddonwyr cymdeithasol er mwyn lanlwytho papurau ymchwil craidd, rhag-argraffiadau a phapurau wedi'u cyhoeddi. Mae'r pynciau'n cynnwys Gwyddorau Cymdeithasol ac Ymddygiadol, y Gyfraith, Addysg, y Celfyddydau a Dyniaethau.
8. Storfa Ymchwil yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Ar gyfer gwaith mewn perthynas â natur, mae Storfa Ymchwil yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Dolen allanol) yn storfa mynediad agored ar gyfer deunyddiau ymchwil wedi'u cynhyrchu gan staff, naill ai yn unigol neu ar y cyd â phartneriaid ymchwil yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
9. Elicit
Mae Elicit (Dolen allanol) yn gynorthwy-ydd ymchwil AI sydd wedi'i ddylunio i symleiddio adolygiadau llenyddiaeth academaidd. Mae modd iddo helpu i greu crynodebau, nodi papurau allweddol a chanfod methodolegau perthnasol yn seiliedig ar eich cwestiynau ymchwil.
10. JSTOR
Mae modd i unrhyw un gofrestru ar gyfer cyfrif Jstor (Dolen allanol) am ddim, sy'n le gwych er mwyn dod o hyd i hen rifynnau o gyfnodolion academaidd. Mae'r gronfa ddata yn cynnwys erthyglau cyfnodolion, llyfrau, delweddau a ffynonellau cynradd mewn sawl disgyblaeth o bedwar ban byd.
Rhagor o argymhellion:
Defnyddiwch eiriau allweddol a gweithredwyr Boolean (AND, OR, NOT) gyda geiriau allweddol er mwyn mireinio eich chwiliad.
Er enghraifft, efallai bydd gyda chi ddiddordeb mewn sut mae casgliadau gwastraff yn cael effaith ar ddeilliannau iechyd cymuned. Efallai bydd nodi “waste collection community health” yn cynnig gormod o ganlyniadau, gyda rhai ohonyn nhw'n amherthnasol. Os ydych chi'n nodi'n benodol “waste collection” AND “community health”, byddwch chi'n dod o hyd i ganlyniadau chwiliad sy'n cynnwys y ddau derm yma. Mae hefyd modd i chi ddefnyddio OR er mwyn nodi'r ffyrdd gwahanol mae'r cysyniadau yma yn cael eu trafod. Felly mae modd i (“waste collection” OR “garbage disposal” OR “waste management”) AND (“community health” OR “public health” OR “health outcomes” OR “disease prevention”) roi canlyniadau mwy cynhwysfawr a pherthnasol.
Chwiliwch am adolygiadau systematig a meta-ddadansoddiadau pan fyddwch chi eisiau crynodebau lefel uchel o ran tystiolaeth ymchwil.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag awduron am gopïau neu esboniadau pellach. Mae modd cysylltu ag awduron ar LinkedIn hefyd, ac mae gyda phrifysgolion garfanau ymgysylltu â'r cyhoedd a dosbarthu polisi all fod yn gymorth wrth gael mynediad at ymchwil. Neges graidd: peidiwch â gadael i'r tâl-fur eich rhwystro!

Diweddaru: 10 Meh 2025, 11:29 AC