Cwestiynau Cyffredin
Rydw i wedi cydweithio â CYBI RhCT fel ymchwilydd neu bartner. Beth yw'r disgwyliadau o ran cydnabod y bartneriaeth yma?
Mae disgwyl i ymchwilwyr, partneriaid, unigolion a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o CYBI RhCT gydnabod cefnogaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal yn ei waith ymchwil personol ac yn ystod gweithgareddau lledaenu gwybodaeth. Er enghraifft, pan rydych chi'n cyhoeddi dogfennau, mae disgwyl i chi gyfeirio at CYBI RhCT yn eich adran 'Cyfeiriadau'. Mae hefyd disgwyl i chi gynnwys a rhannu canlyniadau a data sydd wedi'u cyflawni gan CYBI.
Gweler y datganiad cyfeiriadau (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig)(Dolen allanol) a'r logo 'Wedi'i gefnogi gan Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal' (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig)(Dolen allanol) ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal. Cyfeiriwch at yr adran Sut i ddisgrifio CYBI - canllaw i ymchwilwyr a phartneriaid (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig)(Dolen allanol) ar gyfer manylion y datganiad ac i weld y logo.