Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Llywodraethu a Rheoli ar FacebookRhannu Llywodraethu a Rheoli Ar TwitterRhannu Llywodraethu a Rheoli Ar LinkedInE-bost Llywodraethu a Rheoli dolen
Pwy sy'n gyfrifol am reoli CYBI RhCT? Cyfarwyddwr CYBI RhCTMae gan y CYBI ddau Gyd-Gyfarwyddwyr Arweiniol, sy'n gyfrifol am bennu gweledigaeth gyffredinol a chyfeiriad strategol y prosiect:
Louise Davies - Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned Cyngor Rhondda Cynon Taf
Yr Athro Dan Bristow- Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd
Bwrdd Goruchwylio Strategol Mae'r Cyd-Gyfarwyddwyr yn rhan o grŵp o'r enw'r Bwrdd Goruchwylio Strategol. Mae'r Bwrdd yma'n helpu i arwain CYBI RhCT drwy osod y cyfeiriad cyffredinol a sicrhau bod popeth rydyn ni'n ei wneud yn cyd-fynd â'n nodau a disgwyliadau ein hariannwr ac yn diwallu anghenion y bobl a'r sefydliadau dan sylw. Byddan nhw hefyd yn penderfynu sut mae'r gyllideb yn cael ei defnyddio.Mae'r ffordd y mae'r Bwrdd wedi'i sefydlu yn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed wrth wneud penderfyniadau. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o:
Cyngor Rhondda Cynon Taf (Aelodau o'r Cabinet ac Uwch Swyddogion)
Prifysgol Caerdydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Interlink RhCT (y Cyngor Gwirfoddol Sirol yn RhCT)
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Carfan Llais y Gymuned
Carfan Graidd CYBI (Pennaeth CYBI)
Mae modd bwrw golwg ar Gylch Gorchwyl y Bwrdd Goruchwylio Strategol yn yr adran ‘Dogfennau’ ar y dudalen yma.Grŵp Cyflawni GweithredolY Grŵp Cyflawni Gweithredol yw'r garfan sy'n darparu cyngor a chymorth arbenigol i garfan ganolog y CYBI. Maen nhw'n cefnogi'r broses o gyflawni'r pecynnau gwaith ac yn helpu i sicrhau bod popeth yn gweithio yn unol â Chynllun Busnes y CYBI, mae modd i chi ddod o hyd i'r Cynllun Busnes yma yn yr adran ‘Dogfennau’ ar y dudalen yma. Meddyliwch amdano fel hyn: y Bwrdd Goruchwylio Strategol sy'n ysgrifennu'r gerddoriaeth (nhw sy'n cynllunio'r darlun mawr), a'r Grŵp Cyflawni Gweithredol yw arweinydd y gerddorfa. Mae'r Grŵp Cyflawni Gweithredol yn cynnwys amrywiaeth o aelodau, gan gynnwys Carfan Graidd CYBI RhCT a'n partneriaid cydweithio. Pecynnau Gwaith Pecynnau gwaith (sydd hefyd yn cael eu galw'n ffrydiau gwaith neu'n rhaglenni gwaith) yw'r gwahanol rannau sy'n ffurfio CYBI RhCT. Mae'r nodau wedi'u rhannu'n chwe maes llai, sy'n canolbwyntio ar faterion penodol — gelwir pob un yn Becyn Gwaith.Mae Ymgynghorwyr Pecyn Gwaith yn cefnogi pob Pecyn Gwaith unigol — mae'r ymgynghorwyr yma'n cynnwys arbenigwyr o'r Cyngor lleol, sefydliadau partner ac aelodau o'r Grŵp Cyflawni Gweithredol. Eu gwaith nhw yw sicrhau bod eu rhan nhw o'r prosiect yn aros ar y trywydd iawn ac yn cyflawni'r hyn y bwriadwyd iddo ei wneud.Os ydych chi eisiau dysgu rhagor am yr hyn y mae pob Pecyn Gwaith yn ei wneud ar hyn o bryd, bwriwch olwg ar ein tudalen Pecyn Gwaith.Pennaeth y CYBI a Charfan Graidd y CYBIMae Carfan Graidd y CYBI yn gweithredu fel ystafell injan CYBI RhCT — maen nhw'n sicrhau bod popeth yn mynd rhagddo'n braf y tu ôl i'r llenni. Mae'r garfan yma'n cynnwys pobl â gwahanol sgiliau a chefndiroedd, sy'n gweithio gyda'i gilydd i helpu'r Cyngor i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.Zoe Lancelott sy'n arwain y garfan, ac mae pob uwch reolwr yn gofalu am ei faes arbenigedd ei hun.I gael rhagor o wybodaeth am aelodau'r garfan a'u swyddi, ewch i'n tudalen 'Cwrdd â'r Garfan'.Bwriwch olwg ar ein Cynllun Cyflawni sydd i'w weld yn yr adran 'Dogfennau' ar y dudalen yma i ddysgu rhagor am nodau CYBI RhCT.