Beth sy'n bwysig i chi?

Rhannu Beth sy'n bwysig i chi? ar Facebook Rhannu Beth sy'n bwysig i chi? Ar Twitter Rhannu Beth sy'n bwysig i chi? Ar LinkedIn E-bost Beth sy'n bwysig i chi? dolen
Ein nod ni yw creu diwylliant sy'n caniatáu i Gyngor Rhondda Cynon Taf fod yn fwy gweithredol o ran cynnal gwaith ymchwil a defnyddio tystiolaeth i wneud penderfyniadau. Trwy wneud hyn, gallai'r Cyngor dorri'r cylch tlodi drwy fynd i'r afael â'r penderfynyddion iechyd ehangach; lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella cyfleoedd bywyd ein trigolion.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r cyhoedd i sicrhau bod gyda ni ddealltwriaeth well o beth sy'n bwysig i chi, felly os ydych chi'n byw, yn gweithio, yn chwarae neu'n astudio yn RhCT, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth trwy ddod yn rhan o bethau.
Beth fydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn ei wneud?
Rydyn ni'n ceisio deall beth sy'n bwysig i gymunedau RhCT. Byddwn ni'n gweithio gyda staff y Cyngor i edrych ar wahanol fathau o wybodaeth, fel barn arbenigwyr, profiadau pobl, data ac ystadegau, dulliau mesur effaith, ac ymchwil academaidd ac yn cyflwyno'r rhain mewn ffordd sy'n cefnogi'r Cyngor i ddefnyddio'r dystiolaeth yma i wneud penderfyniadau am y gwasanaethau y mae'n eu darparu.
Sut y byddwn ni'n gwneud hyn?
Byddwn ni'n casglu'r data yma i'n helpu ni i ddeall blaenoriaethau yn y gymuned. Bydd eich blaenoriaethau’n cael eu trafod ac yn ein helpu ni i lunio pa feysydd i ganolbwyntio arnynt nesaf. Mae modd i chi fwrw golwg ar yr hyn rydyn ni'n canolbwyntio arno ar hyn o bryd ar ein tudalen prosiectau.
Sut mae modd i chi gymryd rhan
Mae eich profiadau chi’n werthfawr iawn i ni ac mae modd i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel sydd wedi'i nodi yma. Fodd bynnag, gall cymryd rhan fod mor syml â chwblhau arolwg barn. Cymerwch funud i ateb ein harolwg barn ar y dudalen hon, neu os oes gyda chi amser, bydden ni'n ddiolchgar pe byddai modd i chi ateb ein harolwg ar waelod y dudalen yma.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wefan o'r enw Dewch i Siarad RhCT (Dolen allanol) sy'n rhoi cyfle i drigolion rannu eu barn ar faterion lleol, fel prosiectau newydd, y Cynllun Corfforaethol, y gyllideb a llawer yn rhagor!
Sut byddwn ni'n defnyddio eich data personol?
Rydyn ni'n egluro hyn yn ein Polisi Preifatrwydd.

  • Mae modd i chi ddefnyddio'r ffurflen yma i roi gwybod i ni beth sy'n bwysig i chi. Mae modd i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio, yn chwarae neu'n astudio yn Rhondda Cynon Taf ac sydd eisiau ein helpu ni i wneud gwahaniaeth gwblhau'r ffurflen yma.  Mae hon yn brsoes wahanol i broses Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion (Dolen allanol) CBSRhCT. 

    Fyddwn ni ddim yn defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei darparu i geisio adnabod pwy ydych chi, felly peidiwch â nodi unrhyw wybodaeth bersonol y mae modd ei defnyddio i'ch adnabod mewn unrhyw flychau testun rhydd (oni bai eich bod chi am i ni gysylltu â chi, wrth gwrs).  Mae rhagor o fanylion wedi'u cynnwys yn ein polisi preifatrwydd.

    Nodwch: nid ffurflen ymholi am brosiect yw'r ffurflen yma. Os ydych chi'n sefydliad ac rydych chi'n dymuno cyflwyno ymholiad am brosiect, bwriwch olwg ar ein tudalen prosiectau am ragor o wybodaeth.

    Bydd angen 10-15 munud arnoch chi i gwblhau'r arolwg yma.

    Cwblhau'r arolwg
    Rhannu Beth sy'n bwysig i chi? ar Facebook Rhannu Beth sy'n bwysig i chi? Ar Twitter Rhannu Beth sy'n bwysig i chi? Ar LinkedIn E-bost Beth sy'n bwysig i chi? dolen
Diweddaru: 18 Meh 2025, 08:14 AC