Tlodi Plant

Rhannu Tlodi Plant ar Facebook Rhannu Tlodi Plant Ar Twitter Rhannu Tlodi Plant Ar LinkedIn E-bost Tlodi Plant dolen

Click here for English / Cliciwch yma am Saesneg

Helpu'r Cyngor i Fynd i'r Afael â Thlodi Plant
Rydyn ni, CYBI RhCT, wedi ymrwymo i gefnogi ymdrechion y Cyngor i fynd i'r afael â thlodi plant. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor i nodi sut gall y Cyngor weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau'n fwy croesawgar ac yn fwy effeithiol o ran grymuso plant a theuluoedd y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw. Rydyn ni'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth a thystiolaeth a darparu cymorth i helpu'r Cyngor i ddeall y mater yma a datblygu argymhellion i fynd i'r afael â'r agwedd hon ar dlodi plant. Trwy wneud hyn rydyn ni'n sicrhau bod ein hargymhellion a'n camau gweithredu wedi'u targedu ac yn effeithiol, gan helpu'r Cyngor i ddefnyddio ei adnoddau yn y modd mwyaf effeithiol.
Beth fydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn ei wneud?
1. Cynnwys Trigolion
Byddwn ni'n cynnwys trigolion a bydd eu profiadau bywyd go iawn nhw yn llywio ein prosiect, gan sicrhau bod y canlyniadau'n adlewyrchu anghenion a gobeithion y rheiny y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw. Byddwn ni'n casglu 'profiad bywyd' gan y gymuned drwy weithio gyda grŵp bach o ddinasyddion a sefydliadau partner. Os ydych chi'n byw, yn gweithio, yn chwarae neu'n astudio yn RhCT, gallwch chi hefyd gymryd rhan drwy gwblhau ein harolwg yng nghornel dde uchaf y dudalen hon.
2. Defnyddio Gwybodaeth
Byddwn ni'n sicrhau bod y Cyngor yn deall ac yn defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael mewn perthynas â mynd i'r afael â thlodi plant. Drwy gasglu a rhannu'r wybodaeth yma, ein nod yw helpu'r Cyngor i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae'r broses yma'n cysylltu ymchwil â chamau gweithredu yn y byd go iawn, gan ei gwneud hi'n haws i'r sawl sy'n llunio polisïau i ddefnyddio'r dystiolaeth mewn modd effeithiol.
3. Cefnogi Ymchwil Newydd
Rydyn ni'n deall pwysigrwydd ymchwil barhaus, felly rydyn ni'n helpu'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau newydd. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i gyfleoedd, llunio ceisiadau am grantiau, a darparu'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i sicrhau cyllid. Drwy gefnogi ymchwil newydd, rydyn ni'n sicrhau bod y Cyngor yn aros ar y blaen ac yn gweithredu datrysiadau arloesol er mwyn cefnogi teuluoedd y mae tlodi yn effeithio arnyn nhw.
4. Rhannu Ein Llwyddiannau
Byddwn ni'n rhannu'r canfyddiadau a'r gwersi a ddysgwyd yn rhan o'n prosiect gydag eraill ledled Cymru a'r DU. Drwy rannu'r wybodaeth yma gydag eraill, ein nod yw dylanwadu ar bolisïau ac arferion ehangach, gan sicrhau bod ein prosiect yn effeithio ar bobl sy'n byw y tu hwnt i’n hardal leol. Mae'r ymdrech yma'n helpu i dynnu sylw at ein llwyddiannau ac yn annog defnyddio strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â thlodi plant ar raddfa fwy.

  • Mae CYBI RhCT yn gweithio gydag aelodau etholedig i gasglu ystod o dystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi gweithgor. Bydd y grŵp yn gwneud argymhellion ar sut mae modd i'r Cyngor weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau'n fwy croesawgar ac yn fwy effeithiol o ran grymuso plant a theuluoedd y mae tlodi'n effeithio arnyn nhw. Mae'r grŵp wedi penderfynu canolbwyntio ar wasanaethau cymorth sy’n ymwneud â materion ymarferol ac ariannol, a sut mae modd cael mynediad at y gwasanaethau yma. 

    Yn rhan o'r gwaith parhaus hwn, rydyn ni am gasglu profiadau'r rhai sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf i weld pa wasanaethau sy'n cael eu defnyddio, barn pobl ar y gwasanaethau, a sut byddai modd eu gwella.

    Mae modd i chi chwarae rhan bwysig yn y prosiect hwn drwy gwblhau'r arolwg isod. Fydd dim angen rhannu unrhyw wybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad, manylion cyswllt ac ati) yn rhan o'r arolwg yma.

    Os hoffech chi unrhyw gymorth wrth gwblhau'r arolwg, neu os hoffech chi gael yr arolwg mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost aton ni: CYBI@rctcbc.gov.uk

    Dim ond at ddibenion cefnogi'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) y bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhannu ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r CYBI yn prosesu gwybodaeth bersonol, bwriwch olwg ar ein hysbysiadau preifatrwydd: http://www.rctcbc.gov.uk/HysbysiadPreifatrwyddGwasanaeth.

    Take Survey
    Rhannu Arolwg Gweithgor Tlodi Plant ar Facebook Rhannu Arolwg Gweithgor Tlodi Plant Ar Twitter Rhannu Arolwg Gweithgor Tlodi Plant Ar LinkedIn E-bost Arolwg Gweithgor Tlodi Plant dolen
Diweddaru: 30 Jul 2025, 03:53 PM