Awst 2025

Mae'r Gweithgor Tlodi Plant wedi dewis i ganolbwyntio ar roi gwybod am wasanaethau sy'n ymarferol ac yn rhoi cymorth o ran cyllid, a'r ffyrdd y mae modd cael mynediad atyn nhw. Dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn edrych ar dystiolaeth ac erbyn hyn mae'n canolbwyntio ar brofiadau byw a gwybodaeth broffesiynol yn Rhondda Cynon Taf.

Yn rhan o'r gwaith yma, rydyn ni'n dymuno clywed pa wasanaethau y mae'r rhai sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio, eu barn nhw ar y gwasanaethau yma, a sut mae modd eu gwella. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner yn y gymuned a staff y Cyngor (sy'n gweithio'n rhan o'r gwasanaethau yma) er mwyn clywed eu barn a'u sylwadau.

Os oes diddordeb gyda chi mewn cymryd rhan, mae modd i unrhyw un sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf gyda phlentyn dan 18 lenwi'r arolwg. Mae gyda chi tan ganol mis Medi i lenwi'r arolwg.

Bydd y gweithgor yn cwrdd ym mis Medi a Hydref i drafod ac adolygu'r dystiolaeth newydd sydd wedi'i chasglu.

Rhannu Awst 2025 ar Facebook Rhannu Awst 2025 Ar Twitter Rhannu Awst 2025 Ar LinkedIn E-bost Awst 2025 dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>