Ionawr 2026

Rydyn ni’n falch iawn i rannu ein hadroddiad cyntaf o’r prosiect hwn, sy ar gael i’w lawrlwytho o’r adran dogfennau allweddol ar y dudalen hon.

Mae’r adroddiad hwn yn ffocysu ar un agwedd ataliol penodol o fewn y Cyngor: atal gwahanu rhiant a baban. Rydyn ni’n diffinio beth yw gweithredoedd ataliol, mapio faint sy’n cael ai gwario ar rheiny, ac asesu’r effaith posibl yn nhermau deilliannau i drigolion ac adenillion ar fuddsoddiad.

Mae tua £1.17 miliwn yn cael ei gwario bob blwyddyn ar atal gwahanu rhiant a baban, gyda tua 55% o’r buddsoddiad hwn yn cael ei anelu at atal trydyddol: ymyrryd i atal problem rhag gwaethygu neu ddigwydd eto. Darganfyddon ni fod gwasanaethau yn RhCT yn alinio’n dda gydag arfer da mewn llefydd eraill, sy’n golygu’u bod nhw’n debyg o gael effaith cadarnhaol tebyg ar bedwar prif ddeilliant: ymwneud ffurfiol â gwasanaethau cymdeithasol, ymddiriedaeth mewn proffesiynolion, iechyd a lles rhieni, a hyder a sgiliau rhiantu. Sut bynnag, heb werthusiad ffurfiol, nid yw’n bosib dod i gasgliadau am effaith gwasanaethau, ac er bod arwyddion calonogol, mae’r isadeiledd data cyfredol yn ei wneud yn anodd i fesur eu heffaith yn llawn.

Hefyd, rydych chi’n gallu lawrlwytho ein crynodeb tystiolaeth byrrach sy’n rhoi trosolwg o’n gwaith.

Rhannu Ionawr 2026 ar Facebook Rhannu Ionawr 2026 Ar Twitter Rhannu Ionawr 2026 Ar LinkedIn E-bost Ionawr 2026 dolen
#<Object:0x00007fab7b45af28>