Cynadleddau Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf

Rhannu Cynadleddau Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf ar Facebook Rhannu Cynadleddau Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf Ar Twitter Rhannu Cynadleddau Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf Ar LinkedIn E-bost Cynadleddau Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf dolen
Mae cynadleddau'n rhan bwysig o waith Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) am sawl rheswm:
  1. Cyfnewid gwybodaeth: Mae'r cynadleddau yma'n rhoi llwyfan i ymchwilwyr, swyddogion llywodraeth leol, a rhanddeiliaid eraill rannu eu canfyddiadau a'u mewnwelediadau diweddaraf. Mae'r cyfnewid gwybodaeth yma'n helpu i hybu dealltwriaeth a chymhwyso ymchwil ar benderfynyddion iechyd
  2. Cyfleoedd rhwydweithio: Cyfleoedd unigryw i gysylltu â chyfoedion, cydweithwyr posibl, ac arbenigwyr yn y maes. Y gobaith yw y gall y rhyngweithio yma arwain at bartneriaethau newydd, prosiectau ar y cyd, a chysylltiadau proffesiynol gwerthfawr
  3. Datblygiad proffesiynol: Mae modd i weithdai, seminarau a sesiynau gwella sgiliau a gwybodaeth helpu gweithwyr proffesiynol i wybod am y methodolegau ymchwil, tueddiadau a'r arferion gorau diweddaraf
  4. Arddangos ymchwil: Cyfle inni dynnu sylw at yr ymchwil effeithiol sy'n cael ei chynnal o fewn CYBI RhCT a chan ein partneriaid.
  5. Adborth a gwella: Cyfle i gael adborth adeiladol gan gyfoedion. Mae'r adborth yma'n amhrisiadwy o ran mireinio dulliau ymchwil a gwella ansawdd ein gwaith.
  6. Annog ymgysylltiad: Pwysleisio pwysigrwydd ymchwil o fewn llywodraeth leol ac iechyd cymunedol ac annog diwylliant o ddysgu ac ymgysylltu parhaus ymhlith swyddogion llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill.
Mae modd dod o hyd i'r wybodaeth ddefnyddiol ganlynol ar y dudalen yma:
  • Rhestr o gynadleddau sydd i ddod
  • Agendâu cynadleddau sydd i ddod
  • Nodiadau o gynadleddau blaenorol
Os oes diddordeb gyda chi mewn mynychu cynhadledd sydd i ddod, mae modd llenwi'r ffurflen isod i gofrestru diddordeb (nodwch, fydd cofrestru diddordeb ddim yn gwarantu tocynnau i chi ond byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i anfon gwahoddiad atoch chi i gofrestru am docynnau pan fyddan nhw ar gael).

  • Nodwch, fydd cofrestru diddordeb ddim yn gwarantu tocynnau i chi ond byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i anfon gwahoddiad atoch chi i gofrestru am docynnau unwaith y byddan nhw ar gael.  Os byddwch chi'n llwyddo i gael tocyn, byddwn ni'n cysylltu â chi eto i gasglu rhagor o wybodaeth amdanoch chi fel bod modd i ni sicrhau ein bod ni'n gallu diwallu eich anghenion.  

    Llenwi'r ffurflen
    Rhannu Cofrestrwch ddiddordeb mewn mynychu un o Gynadleddau CYBI RhCT ar Facebook Rhannu Cofrestrwch ddiddordeb mewn mynychu un o Gynadleddau CYBI RhCT Ar Twitter Rhannu Cofrestrwch ddiddordeb mewn mynychu un o Gynadleddau CYBI RhCT Ar LinkedIn E-bost Cofrestrwch ddiddordeb mewn mynychu un o Gynadleddau CYBI RhCT dolen
Diweddaru: 17 Meh 2025, 01:14 PM