Academaidd / Academia - Amgylchedd neu gymuned yn ymwneud â gwaith ymchwil, addysg ac ysgoloriaethau. Mae fel arfer yn cynnwys prifysgolion, colegau, sefydliadau ymchwil a'r bobl sy'n gweithio neu astudio ynddyn nhwAnghydraddoldebau Iechyd - Sut mae penderfynyddion iechyd yn amrywio ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl, gan olygu nad oes gyda phawb yr un cyfle i fyw bywyd da a chytbwys - yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol.
Blaenoriaethau - Beth sydd o bwys fwyaf i rywun. O ran Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf, bydd ein blaenoriaethau yn llywio pa brosiectau rydyn ni'n gweithio arnyn nhw, ac ym mha drefn.
Bwrdd Goruchwyliaeth Strategol - Y bwrdd sy'n gyfrifol am oruchwylio'r prosiect a gwneud penderfyniadau am ddyraniadau cyllid.
Bylchau mewn Tystiolaeth - Meysydd lle mae diffyg o ran tystiolaeth ddigonol er mwyn llywio'r broses llunio penderfyniadau.
Capasiti Ymchwil - Gallu sefydliad neu unigolyn i gynnal ymchwil yn effeithiol.
Carfan Llais Cymuned (CVT) - Carfan sy'n cynnwys pobl sy'n byw, gweithio, astudio neu chwarae yn Rhondda Cynon Taf sy'n sicrhau bod profiadau byw a llais y gymuned yn cael eu cynnwys ym mhob rhan o waith y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.
CBS RhCT - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Dolen allanol)
Clinig - Mae Clinig Carfan y Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd yn gyfarfod rhwng ymholwr prosiect y Cydweithrediad, Carfan y Cydweithrediad ac unrhyw arbenigwyr perthnasol eraill er mwyn trafod eu hymholiad yn fwy manwl cyn datblygu cynnig.CYBI RhCT - Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf
Cyfnod Ymholi - Cyfnod penodol lle mae modd i Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf dderbyn ymholiadau prosiectau.
Cydweithio - Gweithio gyda'n gilyddCyfleoedd - Cyfleoedd i Ymgynghorwyr Profiad Bywyd a Sefydliadau Cymunedol weithio gyda Chydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf ar brosiect. Mae'r rhain fel arfer yn gyfleoedd â thâl.
Cyfleoedd Bywyd - Y cyfleoedd sydd gyda phob unigolyn er mwyn gwella ei ansawdd bywyd.
Cyfuno Tystiolaeth - Y broses o gyfuno tystiolaeth o sawl ffynhonnell er mwyn dod i gasgliad.
Cylch Tystiolaeth - Diagram wedi'i ddatblygu gan Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf er mwyn esbonio'r holl wahanol fathau o dystiolaeth sydd eu hangen er mwyn galluogi penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth.
Cymuned - Pobl sy'n byw, gweithio, chwarae neu astudio neu rannu'r un amgylchedd neu ddiddordebau yn Rhondda Cynon TafCymuned Ymchwil - Grŵp o bobl - megis gwyddonwyr, arbenigwyr a staff prifysgol - sy'n cydweithio er mwyn astudio pethau, canfod gwybodaeth newydd, a rhannu beth maen nhw wedi'i ddysgu. Dysgwch ragor am gymuned ymchwil Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf.
Cynigion - Pan mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf yn derbyn ymholiad sy'n bodloni eu hisafswm o ran gofynion, mae'n bwrw 'cynnig' yn ei flaen cyn iddo ddod yn brosiect.
Cytundeb Cynnig - Contract sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn llywio gweithrediad prosiect Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd a hefyd monitro cynnig yn erbyn amserlenni er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau ar amser.
Data Mesur Effaith - Data sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn asesu effaith neu ddeilliannau rhaglen neu ymyriad.
Data poblogaeth - Data yn ymwneud â nodweddion poblogaeth, megis demograffeg, statws iechyd, a ffactorau cymdeithasol-economaidd.
Data sefydliadol - Data sydd wedi'i gasglu mewn sefydliad mewn perthynas â'i weithrediad a'i gyflawniad.
Data Ymchwil - Data sydd wedi'i gasglu drwy gydol y prosiect.Deori Ymchwil - Y broses o gynorthwyo datblygiad syniad neu gynnig ymchwil newydd.Grŵp Darparu Gweithredol (ODG) - Y grŵp sy'n gyfrifol am ddarpariaeth weithredol Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf.
Gweithredol o ran Ymchwil- Sefydliad neu unigolyn sy'n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau ymchwil.
Gwybodaeth Broffesiynol - Arbenigedd a sgiliau sydd wedi'u meddu trwy arfer a phrofiad proffesiynol.
HDRC - Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.
Llais Cymuned - Beth sydd gyda phobl leol i'w ddweud am eu bywydau, eu hanghenion, a'u syniadau.Llywio Penderfyniadau yn seiliedig ar Dystiolaeth - Llunio penderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael o ymchwil, data a gwybodaeth arbenigol.Llywodraethiant - Sut mae penderfyniadau yn cael eu llunio a phwy sy'n eu gwneud nhwMesur Effaith - y broses o asesu'r newidiadau - cadarnhaol neu negyddol, bwriadol neu anfwriadol - sy'n deillio o ymyriad, rhaglen, polisi neu weithgaredd penodol.NIHR - Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (Dolen allanol)Noddwr Prosiect - pwy bynnag fydd yn gyfrifol am fod yn berchen ar brosiect y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.Nodyn Cwmpasu Cynnig- Dogfen sy'n cael ei defnyddio er mwyn cwmpasu anghenion cynnig.Partneriaid Cydweithio - pobl sy'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwella'r modd rydyn ni'n casglu a defnyddio tystiolaeth er mwyn llywio'r modd mae penderfyniadau'n cael eu llunio yn lleol a dyluniad gwasanaethau. Dysgwch ragor am ein partneriaid cydweithio yma.Penderfynyddion Iechyd- Yr amgylchedd rydyn ni'n byw ynddo, yr economi a'n perthnasoedd cymdeithasol. Cyfeirir atyn nhw hefyd fel 'penderfynyddion ehangach iechyd'.
Poblogaeth - Pawb mewn tref, dinas neu wlad a.y.b. Byddai Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf yn canolbwyntio yn bennaf ar y boblogaeth yn Rhondda Cynon Taf.
Proforma Clinig - Templed dogfen sy'n cael ei gwblhau yng Nghlinig Carfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei nodiProfiad Bywyd - Profiad bywyd go iawn. Mae modd i hyn fod yn straeon personol neu wybodaeth am brofiadau neu deimladau o'r hynny mae rhywun go iawn yn ei brofi.
Prosiectau - O ran Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf, prosiectau yw pan rydyn ni'n gweithio gydag eraill ar ddarnau penodol o waith. Mae'r rhain yn dechrau yn ymholiadau, yna'n dod yn gynigion, ac yna'n brosiectau pan fo'r gwaith yn dechrau.
Rhanddeiliaid - Pobl neu grwpiau sydd â diddordeb mewn prosiect neu'n cael eu heffeithio ganddo. Mae modd iddyn nhw fod yn rhan o'r gwaith cynllunio, llunio penderfyniadau, neu gael eu heffeithio gan y canlyniadau.Rhaglen / Pecyn Gwaith - Y rhaglen waith sy'n cael ei chyflawni gan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd wedi'i hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal.RhCT - Rhondda Cynon Taf
Rhoi'r Wybodaeth ar Waith - Y broses o drosi gwybodaeth sy'n ymchwil yn arfer er mwyn gwella deilliannau. Mae modd i chi ddysgu rhagor am roi gwybodaeth ar waith yma (Dolen allanol).
Sefydliad - Grŵp sydd wedi'i sefydlu er mwyn cyflawni rhywbeth penodol. O ran Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf - ein sefydliad ni yw Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Sefydliadau Cymunedol - Grwpiau lleol sy'n cynnwys pobl sy'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn helpu eraill yn eu maes. Efallai eu bod nhw'n cynnal gweithgareddau, yn cynnig cymorth, neu'n darparu gwasanaethau er mwyn gwella bywydau pobl yn eu cymunedau, er enghraifft grwpiau cymuned, elusennau neu sefydliadau lleol.
Sefydliadau Cymunedol Partner - Grwpiau cymunedol lleol, elusennau neu sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd i waith y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd fel caiff ei ddisgrifio yma.
Staff CBS RhCT - Pobl sy'n cael eu cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. (Dolen allanol)
Tystiolaeth - yr wybodaeth orau sydd ar gael, wedi'i hymchwilio'n drylwyr er mwyn llywio penderfyniadau. Mae'r mathau tystiolaeth yma wedi'u nodi yn y cylch tystiolaeth.
Ymchwil - Proses systematig o gasglu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth er mwyn cynyddu ein dealltwriaeth o bwnc neu fater. Mae'n dilyn dull strwythuredig er mwyn ateb cwestiynau penodol neu brofi rhagdybiaethau, gyda’r nod yn aml o gael gwybodaeth newydd, dilysu theorïau newydd, neu ddatrys problemau.Ymchwil Academaidd - Ymchwil sy'n cael ei gynnal gan ysgolheigion neu ymchwilwyr mewn sefydliadau academaidd.
Ymgynghorydd Profiad Bywyd - Pobl sy'n rhannu eu barn a'u profiadau personol, gan gynnig gwybodaeth ac arbenigedd profiad bywyd unigryw sy'n helpu i lywio gwaith y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.
Ymholiad - Dyma fan cychwyn prosiect Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhain yn symud ymlaen i fod yn gynigion, ac yn dod yn brosiectau wedi iddyn nhw gael eu derbyn.Ymholwr - Y person sy'n cyflwyno ymholiad at Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf.