Pwy sy'n cael cyflwyno ymholiad?

    Mae'r ffurflen ymholiad yn addas ar gyfer y canlynol:

    Staff Cyngor RhCT

    Partneriaid Cydweithio 

    Sefydliadau Cymunedol 

    Y Gymuned Ymchwil

    Os ydych chi'n ansicr a ydych chi'n perthyn i un o'r categorïau yma, mae modd i chi fwrw golwg ar ein Rhestr Termau neu gysylltu â ni am gyngor.

    Pa fath o bethau all CYBI RhCT fy helpu i gyda?

    Mae croeso i chi gyflwyno ymholiad i weld a oes modd i ni:

    • Eich helpu chi i gael mynediad at y dystiolaeth orau sydd ar gael, ei dehongli a'i defnyddio.
    • Eich helpu chi i ddatblygu'r sgiliau, gwybodaeth a hyder i gasglu, dehongli a defnyddio tystiolaeth.
    • Eich cynorthwyo chi i ddatblygu syniadau ymchwil newydd a chyflwyno ceisiadau am gyllid.

     Cofiwch, rhaid i ddeillianau eich prosiect elwa cymuned Rhondda Cynon Taf.

    Pryd alla i gyflwyno ymholiad?

    Oherwydd y niferoedd uchel o ymholiadau, dim ond ar adegau penodol o'r flwyddyn y byddwn ni'n agor cyfnodau ymholi am brosiectau. Mae hyn yn golygu mai dim ond pan fydd gyda ni'r gallu i weithio gyda chi y byddwn ni'n derbyn ceisiadau am brosiectau. Bydd y statws yn cael ei ddiweddaru ar waelod y dudalen ymholiadau. Os bydd y statws yn nodi 'AR GAU', fydd ffurflen yr ymholiad ddim ar gael. Os oes gyda chi gynnig ymchwil ar y gweill a hoffech chi siarad â'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd am gydweithio yn ystod cyfnod pan mae'r ymholiadau wedi cau, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod.

     Ble mae'r ffurflen ymholiad?

    Ydych chi wedi derbyn fy ymholiad?

    Pan fyddwch chi'n cyflwyno ymholiad, byddwch chi'n derbyn derbynneb e-bost awtomatig, felly gwiriwch eich blwch e-byst.  Os yw eich ymholiad yn un brys, neu os ydych chi'n ansicr os ydyn ni wedi derbyn eich ymholiad, cysylltwch â ni.

    Beth sy'n digwydd pan dwi'n cyflwyno ymholiad?

    Byddwn ni'n adolygu eich ymholiad ar ddiwedd y cyfnod ymholiadau. Bwriwch olwg ar ein tudalen ymholiadau am ddyddiadau pob cyfnod. Byddwn ni yna'n adolygu a blaenoriaethu eich ymholiad yn unol â'n proses ymholiadau a chynigion.

    Pryd fyddwch chi'n ymateb i fy ymholiad?

    Byddwn ni'n adolygu eich ymholiad ar ddiwedd y cyfnod ymholiadau. Bwriwch olwg ar ein tudalen ymholiadau am ddyddiadau pob cyfnod. Byddwn ni yna'n adolygu a blaenoriaethu eich ymholiad. Mae modd i hyn gymryd sawl wythnos. Pan fyddwch chi'n cyflwyno ymholiad, byddwch chi'n derbyn derbyneb e-bost awtomatig, mae modd iddo gynnwys rhagor o fanylion. Os yw eich ymholiad yn un brys, neu os ydych chi'n ansicr os ydyn ni wedi derbyn eich ymholiad, cysylltwch â ni.

     Pam all fy ymholiad gael ei wrthod?

    Mae modd iddo gael ei wrthod am un o'r rhesymau canlynol:

    • Fydd y cynnig ddim yn elwa cymuned Rhondda Cynon Taf
    • Does dim digon o dystiolaeth i gefnogi'r cynnig
    • Dyw'r cynnig ddim yn flaenoriaeth
    • Does ganddo ddim y gefnogaeth angenrheidiol
    • Mae ganddo amcanion aneglur
    • Mae gyda chi neu GYBI RhCT ddiffyg adnoddau
    • Mae pryderon moesegol
    • Mae blaenoriaethau'n gwrthdaro
    • Mae'r gost yn rhy uchel

    Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich ymholiad cyn i chi lenwi'r ffurflen

    Hoffwn i newid neu dynnu fy ymholiad yn ôl

    Bydd rhaid i chi siarad ag aelod o'n carfan. Cysylltwch â ni.

     Beth sy'n digwydd unwaith i fy ymholiad gael ei dderbyn?

    Caiff hyn ei egluro yn ein proses ymholiadau a chynigion.