Mynediad at Wasanaethau

Rhannu Mynediad at Wasanaethau ar Facebook Rhannu Mynediad at Wasanaethau Ar Twitter Rhannu Mynediad at Wasanaethau Ar LinkedIn E-bost Mynediad at Wasanaethau dolen

Click here for English / Cliciwch yma am Saesneg

Sut gall Cyngor Rhondda Cynon Taf ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth i drigolion mewn modd sy’n gynhwysol o anghenion a dewis pobl?

Fe ofynnodd Ymgynghorwyr Profiad Byw i Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) adolygu’r ffordd mae trigolion yn cael mynediad at wasanaethau a sut mae’r Cyngor yn cyfathrebu gyda nhw. Mae Cyngor RhCT yn hyrwyddo ymagwedd digidol yn gyntaf i gyfathrebiadau gyda’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod gwybodaeth am wasanethau’r Cyngor yn bennaf yn cael ei rannu ar-lein.

Fe gynyddodd y newid i ddarparu gwasanaethau ar-lein yn ystod y pandemig ac mae’r ddarpariaeth ar-lein wedi helpu’r Cyngor i ymdopi gyda galw cynyddol. Nid yw’r newid i wasanaethau ar-lein wedi bod yn fuddiol i bawb. Mae rhai trigolion yn gwynebu heriau wrth gael mynediad at a defnyddio gwasanaethau ar-lein ac mae opsiynau eraill wyneb yn wyneb yn weithiua’n wael yn cael eu hyrwyddo.

Beth fydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn ei wneud?

Rydym yn gwybod fod pobl yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau’r Cyngor mewn sawl ffordd gwahanol, boed hynny’n gefnogaeth wyneb yn wyneb gan gynghorydd IBobUn, help dros y ffôn gan y ganolfan gyswllt, neu ddefnyddio’r wefan i ddod o hyd i wybodaeth. Rydym eisiau deall mwy am brofiad trigolion a staff yn defnyddio’r platfformau yma.

Byddwn yn edrych ar wahanol fathau o wybodaeth fel profiadau trigolion, data mae’r Cyngor yn casglu, ymchwil academaidd, a gwybodaeth gan awdurdodau lleol eraill i:

  • Adnabod sut mae trigolion RhCT yn cael mynediad at wasanaethau ar hyn o bryd, a darganfod unrhyw fylchau.

  • Deall beth mae awdurdodau lleol eraill yn ei wneud i ddarparu mynediad cynhwysol at wasanaethau.

  • Ystyried profiadau staff wrth iddynt ddarparu cefnogaeth drws ffrynt i drigolion.

  • Dyfnhau ein dealltwriaeth o brofiadau pobl pan maent yn dod i gyswllt â’r Cyngor, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb.

  • Archwilio sut mae trigolion yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau ar hyn o bryd, a sut buasent yn dewis gwneud hyn.

  • Asesu os yw sianeli digidol y Cyngor yn gydnaws â anghenion trigolion.

Sut byddwn yn gwneud hyn

I ddechrau, byddwn yn adeiladu darlun clir o sut mae’r Cyngor yn cefnogi trigolion i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Bydd yn cynnwys tystiolaeth o sawl ffynhonnell gan gynnwys data’r cyngor a barn trigolion a staff. Mae’r Ymgynghorwyr Profiad Byw yn rhan o weithgor y prosiect ac rydym hefyd yn gweithio gyda’n carfan Llais y Gymuned i ymgysylltu gyda thrigolion a grwpiau cymunedol. Drwy ddeall sut mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau nawr, gallwn wybod beth sy’n gweithio’n dda ac adnabod unrhyw rwsytrau a/neu blychau yn y ddarpariaeth.

Yn ystod cam nesaf y prosiect, byddwn yn ystyried pa mor rhwydd ydy e i drigolion ddefnyddio ein gwasanaethau a byddwn yn ystyried sut i wneud gwelliannau. Byddwn yn gweithio gyda staff i ddeall beth sydd am eu helpu nhw i wneud y gwelliannau yma mor effeithiol â phosib.

Gallwch edrych ar ein prosiectau eraill yma neu gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.

  • Diwedd 2025 / dechrau 2026

    Rhannu Diwedd 2025 / dechrau 2026 ar Facebook Rhannu Diwedd 2025 / dechrau 2026 Ar Twitter Rhannu Diwedd 2025 / dechrau 2026 Ar LinkedIn E-bost Diwedd 2025 / dechrau 2026 dolen

    Rydym yn adolygu ymchwil academaidd ac adroddiadau yn y maes allgáu digidol, cynhwysiad a mynediad teg at wasanaethau, yn ogystal ag arfer gorau o awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rydym yn siarad ag arbenigwyr allgáu digidol i ddysgu am y rhwystrau sy’n gwynebu trigolion. Rydym yn dadansoddi data sefydliadol sy’n cael ei gasglu gan y Cyngor am ei wasanaethau a’i ddefnyddwyr er mwyn datblygu dealltwriaeth o sut mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth ar hyn o bryd ac oes yno unrhyw fylchau.

  • Mai 2025

    Rhannu Mai 2025 ar Facebook Rhannu Mai 2025 Ar Twitter Rhannu Mai 2025 Ar LinkedIn E-bost Mai 2025 dolen

    Cynhalion glinig gyda Ymgynghorwyr Profiad Byw a staff y Cyngor i drafod eu profiadau o ddarparu a chael mynediad at wasanaethau. Cafwyd trafodaeth gynhyrchiol a thynnwyd sylw at sawl rhwystr: diffyg gwybodaeth am ffyrdd eraill o gael mynediad at wasanaethau, amseroedd aros ac oedi yn y Ganolfan gyswllt, problemau gyda’r wefan yn bennaf ynglyn â’r hygyrchedd, a diffyg cyfleoedd galw fewn.

Cyhoeddi: 18 Mar 2026, 09:43 AC