Digwyddiadau Rhowch Lais!

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Sgyrsiau yn y gymuned sy'n cyfri
Bydd 'Rhowch Lais!', wedi'i arwain gan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) RhCT ac wedi'i ddarparu gan Dîm Llais y Gymuned mewn partneriaeth ag Interlink RCT, yn dod â sgyrsiau i galon cymunedau trwy gymysgedd o sesiynau ymgysylltiad anffurfiol mewn lleoliadau cymunedol lleol, digwyddiadau cymunedol RhCT ac ar-lein.

Tîm Llais y Gymuned: Matt, Kim, Deb & Laura
Amcan y fenter yw creu llefydd diogel, croesawgar lle mae pobl yn gallu rhannu'u profiadau a barnau ar yr hyn sy'n effeithio iechyd a lles yn eu cymunedau, gan sicrhau bod lleisiau lleol nid dim ond yn cael eu clywed ond yn cael eu defnyddio i oleuo ymchwil, gwneud penderfyniadau yn y Cyngor a dylunio gwasanaethau.
Rhowch lais: Mynediad at Wasanaethau
Bydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau teulu-cyfeillgar yn archwilio sut mae trigolion yn mynd ati i gysylltu â'r Cyngor, eu profiad o wneud hyn, a'r hyn hoffen nhw weld yn cael ei wella - gan helpu i greu 'drws ffrynt tecach' ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor. Bydd mewnwelediadau wedi'u casglu o'r digwyddiadau Rhowch Lais! hyn yn bwydo'n uniongyrchol i'n prosiect 'Mynediad at Wasanaethau'.
Does dim angen llenwi ffurflen na pharatoi unrhywbeth - gall trigolion alw i mewn, cael sgwrs, a chymryd rhan mewn gweithgareddau crëadigol (er bydd rhaid llenwi ffurflen cofrestru ar gyfer sesiynau ar-lein). Mae'r digwyddiadau hyn ar agor i bob oedran a phob unigolyn sy'n byw, gweithio neu chwarae yn RhCT.
Os rydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf, rydych chi'n gallu cymryd rhan gan gwblhau'n harolwg ar-lein. Hefyd, gall sefydliadau cymunedol lleol yn cefnogi'u defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan ac yn gwneud cais i'n cyfle 'Mynediad at Wasanaethau' i dderbyn tâl am eu hamser.
Dyddiadau a Lleoliadau’r Digwyddiadau
Gall trigolion alw i mewn i unrhyw un o’r sesiynau yma:
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
5ed Mehefin 2026 | 10yb – 2yh | Stiwdio 1, Theatr y Parc a’r Dâr, Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6NL |
12fed Mehefin 2026 | 11yb – 2yh | Canolfan Cymuned Maerdy, Park Place, Maerdy, Glynrhedynog, CF43 4DD |
| 8ed Gorffennaf 2026 | 2yh - 4yh | Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon, Heol y Depo, Aberdâr CF44 8DL |
23ain Gorffennaf 2026 | 6yh – 7yh | Ar-lein trwy Microsoft Teams (Angen ffurflen cofrestru) |
29ain Gorffennaf 2026 | 2:30yh - 5:30yh | Cafe 50, Heol yr Orsaf, Pontyclun, CF72 9EE |
1af & 2il Awst 2026 | Trwy’r dydd | Cegaid o Fwyd Cymru, Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, CF37 4PE |
| 25 Awst | 10yb - 2yh | Yr Hen Lyfrgell, Porth, CF39 9PF |
Gweithgareddau i bob oedran
Bydd y digwyddiadau yn cynnwys ystod o weithgareddau anffurfiol, crëadigol wedi'u dylunio i hybu sgyrsiau a chwarae, gan gynnwys:
- Peirograffeg (llosgi pren)
- Paentio cerrig
- Plannu hadau
Caiff lluniaeth ysgafn ei ddarparu, ac mae croeso i deuluoedd.
Cymerwch ran ac ennill
Bydd ymwelwyr sy'n ymuno â'r rhestr dosbarthu mewn digwyddiad yn cael mynediad i gystadleuaeth i ennill taleb gwerth £50, gan eu helpu nhw i aros yn gysylltiedig â chyfleoedd i gymryd rhan yn y dyfodol.
Hefyd, cewch chi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.