
Arolwg Mynediad at Wasanaethau
Mae modd i chi chwarae rhan bwysig yn y prosiect hwn drwy gwblhau'r arolwg isod. Nid oes angen gwybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad, manylion cyswllt ayyb) i'r arolwg yma (os nad ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi). Fyddwn ni ddim yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i geisio adnabod pwy ydych, felly peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol mewn unrhyw flychau testun rhydd. Gweler y polisi preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Mae aelodau o’r cyhoedd wedi gofyn i'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) adolygu sut gall drigolion gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau’r Cyngor a sut mae’r Cyngor yn cysylltu gyda nhw.
Rydym eisiau clywed am eich profiad o gysylltu gyda’r Cyngor i gael gwybodaeth, talu am bethau, neu wneud cais i gael mynediad at rai gwasanaethau. Rydym yn gofyn pa wasanaethau rydych wedi cysylltu â’r Cyngor yn eu cylch a sut brofiad oedd hynny, yn hytrach nac eich barn am y gwasanaethau.
Mae'r ffurflen hon ar agor i bawb sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf sy eisiau'n helpu ni i wneud newid. Nodwch: dyw hyn DDIM y broses Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion ar gyfer CBSRhCT (dolen allanol), defnyddir y wybodaeth eich bod chi'n rhoi ar gyfer y prosiect Mynediad at Wasanaethau yn unig.
0% Ateb
