Mynediad at Wasanaethau

Rhannu Mynediad at Wasanaethau ar Facebook Rhannu Mynediad at Wasanaethau Ar Twitter Rhannu Mynediad at Wasanaethau Ar LinkedIn E-bost Mynediad at Wasanaethau dolen

Click here for English / Cliciwch yma am Saesneg

Sut gall Cyngor Rhondda Cynon Taf ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth i drigolion mewn modd sy’n gynhwysol o anghenion a dewis pobl?

Fe ofynnodd Ymgynghorwyr Profiad Byw i Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) adolygu’r ffordd mae trigolion yn cael mynediad at wasanaethau a sut mae’r Cyngor yn cyfathrebu gyda nhw. Mae Cyngor RhCT yn hyrwyddo ymagwedd digidol yn gyntaf i gyfathrebiadau gyda’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod gwybodaeth am wasanethau’r Cyngor yn bennaf yn cael ei rannu ar-lein.

Fe gynyddodd y newid i ddarparu gwasanaethau ar-lein yn ystod y pandemig ac mae’r ddarpariaeth ar-lein wedi helpu’r Cyngor i ymdopi gyda galw cynyddol. Nid yw’r newid i wasanaethau ar-lein wedi bod yn fuddiol i bawb. Mae rhai trigolion yn gwynebu heriau wrth gael mynediad at a defnyddio gwasanaethau ar-lein ac mae opsiynau eraill wyneb yn wyneb yn weithiua’n wael yn cael eu hyrwyddo.

Beth fydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn ei wneud?

Rydym yn gwybod fod pobl yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau’r Cyngor mewn sawl ffordd gwahanol, boed hynny’n gefnogaeth wyneb yn wyneb gan gynghorydd IBobUn, help dros y ffôn gan y ganolfan gyswllt, neu ddefnyddio’r wefan i ddod o hyd i wybodaeth. Rydym eisiau deall mwy am brofiad trigolion a staff yn defnyddio’r platfformau yma.

Byddwn yn edrych ar wahanol fathau o wybodaeth fel profiadau trigolion, data mae’r Cyngor yn casglu, ymchwil academaidd, a gwybodaeth gan awdurdodau lleol eraill i:

  • Adnabod sut mae trigolion RhCT yn cael mynediad at wasanaethau ar hyn o bryd, a darganfod unrhyw fylchau.

  • Deall beth mae awdurdodau lleol eraill yn ei wneud i ddarparu mynediad cynhwysol at wasanaethau.

  • Ystyried profiadau staff wrth iddynt ddarparu cefnogaeth drws ffrynt i drigolion.

  • Dyfnhau ein dealltwriaeth o brofiadau pobl pan maent yn dod i gyswllt â’r Cyngor, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb.

  • Archwilio sut mae trigolion yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau ar hyn o bryd, a sut buasent yn dewis gwneud hyn.

  • Asesu os yw sianeli digidol y Cyngor yn gydnaws â anghenion trigolion.

Sut byddwn yn gwneud hyn

I ddechrau, byddwn yn adeiladu darlun clir o sut mae’r Cyngor yn cefnogi trigolion i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Bydd yn cynnwys tystiolaeth o sawl ffynhonnell gan gynnwys data’r cyngor a barn trigolion a staff. Mae’r Ymgynghorwyr Profiad Byw yn rhan o weithgor y prosiect ac rydym hefyd yn gweithio gyda’n carfan Llais y Gymuned i ymgysylltu gyda thrigolion a grwpiau cymunedol. Drwy ddeall sut mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau nawr, gallwn wybod beth sy’n gweithio’n dda ac adnabod unrhyw rwsytrau a/neu blychau yn y ddarpariaeth.

Yn ystod cam nesaf y prosiect, byddwn yn ystyried pa mor rhwydd ydy e i drigolion ddefnyddio ein gwasanaethau a byddwn yn ystyried sut i wneud gwelliannau. Byddwn yn gweithio gyda staff i ddeall beth sydd am eu helpu nhw i wneud y gwelliannau yma mor effeithiol â phosib.

Gallwch edrych ar ein prosiectau eraill yma neu gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.

  • Mae modd i chi chwarae rhan bwysig yn y prosiect hwn drwy gwblhau'r arolwg isod. Nid oes angen gwybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad, manylion cyswllt ayyb) i'r arolwg yma (os nad ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi).  Fyddwn ni ddim yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i geisio adnabod pwy ydych, felly peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol mewn unrhyw flychau testun rhydd.  Gweler y polisi preifatrwydd am ragor o wybodaeth. 

    Mae aelodau o’r cyhoedd wedi gofyn i'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) adolygu sut gall drigolion gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau’r Cyngor a sut mae’r Cyngor yn cysylltu gyda nhw. 

    Rydym eisiau clywed am eich profiad o gysylltu gyda’r Cyngor i gael gwybodaeth, talu am bethau, neu wneud cais i gael mynediad at rai gwasanaethau. Rydym yn gofyn pa wasanaethau rydych wedi cysylltu â’r Cyngor yn eu cylch a sut brofiad oedd hynny, yn hytrach nac eich barn am y gwasanaethau. 

    Mae'r ffurflen hon ar agor i bawb sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf sy eisiau'n helpu ni i wneud newid. Nodwch: dyw hyn DDIM y broses Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion ar gyfer CBSRhCT (dolen allanol), defnyddir y wybodaeth eich bod chi'n rhoi ar gyfer y prosiect Mynediad at Wasanaethau yn unig. 

    Arolwg
    Rhannu Arolwg Mynediad at Wasanaethau ar Facebook Rhannu Arolwg Mynediad at Wasanaethau Ar Twitter Rhannu Arolwg Mynediad at Wasanaethau Ar LinkedIn E-bost Arolwg Mynediad at Wasanaethau dolen
Diweddaru: 05 Meh 2026, 10:08 AC