Mai 2026

Rydyn ni'n gwahodd trigolion ar draws Rhondda Cynon Taf (RhCT) i ymuno â ni yn ein digwyddiadau Rhowch Lais! newydd. Mae'r digwyddiadau yma yn hwyl, rhyngweithiol, a fe wnewn nhw'n ein helpu ni i gasglu tystiolaeth profiad byw i fwydo mewn i'r prosiect hwn.

Mae Rhowch Lais! yn gyfres o weithgareddau ymgysylltiad â'r gymuned wedi'u dylunio i greu llefydd diogel, croesawgar lle mae pobl yn gallu rhannu'u profiadau a barnau ar yr hyn sy'n effeithio iechyd a lles yn eu cymunedau - gan ddechrau gyda'r prosiect hwn: Mynediad at Wasanaethau. I ganfod eich Rhowch Lais! agosaf, cliciwch yma: Digwyddiadau Rhowch Lais! | Gwnewch Newid yn RhCT

Os rydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf, rydych chi'n gallu cymryd rhan gan gwblhau'n harolwg ar-lein. Hefyd, gall sefydliadau cymunedol lleol yn cefnogi'u defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan ac yn gwneud cais i'n cyfle 'Mynediad at Wasanaethau' i dderbyn tâl am eu hamser.

Nodwch, rydyn ni eisiau gwybod am eich profiad o gysylltu â'r Cyngor i gael gwybodaeth, talu am bethau, neu wneud cais am fynediad i rai gwasanaethau. Byddwn ni'n gofyn am ba wasanaethau rydych chi wedi cysylltu â'r Cyngor a sut brofiad mae hwn, yn hytrach na beth rydych chi'n meddwl o'r gwasanaethau eu hunain.

Rhannu Mai 2026 ar Facebook Rhannu Mai 2026 Ar Twitter Rhannu Mai 2026 Ar LinkedIn E-bost Mai 2026 dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>