Mae Rhowch Lais! yn lansio yn RhCT: Sgyrsiau yn y gymuned sy'n cyfri!

Rhannu Mae Rhowch Lais! yn lansio yn RhCT: Sgyrsiau yn y gymuned sy'n cyfri! ar Facebook Rhannu Mae Rhowch Lais! yn lansio yn RhCT: Sgyrsiau yn y gymuned sy'n cyfri! Ar Twitter Rhannu Mae Rhowch Lais! yn lansio yn RhCT: Sgyrsiau yn y gymuned sy'n cyfri! Ar LinkedIn E-bost Mae Rhowch Lais! yn lansio yn RhCT: Sgyrsiau yn y gymuned sy'n cyfri! dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Gwahodd trigolion i rannu'u barn mewn digwyddiadau 'Rhowch Lais!' newydd ar draws RhCT

Mae trigolion ar draws Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres newydd o ddigwyddiadau cymunedol wedi'u dylunio i roi llais cryfach iddyn nhw wrth lunio gwasanaethau lleol.

Bydd 'Rhowch lais!', wedi'i arwain gan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) RhCT ac wedi'i ddarparu gan Dîm Llais y Gymuned mewn partneriaeth ag Interlink RCT, yn dod â sgyrsiau i galon cymunedau trwy gymysgedd o sesiynau ymgysylltiad anffurfiol mewn lleoliadau cymunedol lleol, digwyddiadau cymunedol RhCT ac ar-lein.

Ein Tîm Llais y Gymuned: Matt, Kim, Deb & Laura

Amcan y fenter yw creu llefydd diogel, croesawgar lle mae pobl yn gallu rhannu'u profiadau a barnau ar yr hyn sy'n effeithio iechyd a lles yn eu cymunedau, gan ddechrau gyda ffocws penodol ar wella mynediad at wasanaethau cyngor.

Bydd y gyfres gyntaf o ddigwyddiadau teulu-cyfeillgar yn archwilio sut mae trigolion cysylltu â'r Cyngor ar hyn o bryd, eu profiadau o wneud hyn, a beth hoffen nhw weld yn cael ei wella - yn helpu i lunio 'drws ffrynt tecach' i wasanaethau cyngor.

Yn gwrando ar yr hyn sy'n cyfri

Mae 'Rhowch Lais!' wedi'i adeiladu ar egwyddor syml: mae sgyrsiau'n bwysig

Mae'r ymgyrch yn hybu cynhwysedd a chyd-gynhyrchu, yn sicrhau bod lleisiau lleol yn fwy na chael eu clywed ond yn cael eu defnyddio i oleuo ymchwil, gwneud penderfyniadau gan y Cyngor, a dylunio gwasanaethau.

Does dim angen llenwi ffurflen na pharatoi unrhywbeth - gall trigolion alw i mewn, cael sgwrs, a chymryd rhan mewn gweithgareddau crëadigol. Mae'r digwyddiadau hyn ar agor i bob oedran a phob unigolyn sy'n byw, gweithio neu chwarae yn RhCT.

Dyddiadau a Lleoliadau’r Digwyddiadau

Gall trigolion alw i mewn i unrhyw un o’r sesiynau yma:

Dyddiad

Amser

Lleoliad

5ed Mehefin 2026

10yb – 2yh

Stiwdio 1, Theatr y Parc a’r Dâr, Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6NL

12fed Mehefin 2026

11yb – 2yh

Canolfan Gymunedol Maerdy, Park Place, Maerdy, Glynrhedynog, CF43 4DD

8ed Gorffennaf 20262yh - 4yhYmddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon, Heol y Depo, Aberdâr CF44 8DL

23ain Gorffennaf 2026

6yh – 7yh

Ar-lein trwy Microsoft Teams (Angen ffurflen cofrestru)

29ain Gorffennaf 2026

2:30yh - 5:30yh

Cafe 50, Heol yr Orsaf, Pontyclun, CF72 9EE

1af & 2il Awst 2026

Trwy’r dydd

Cegaid o Fwyd Cymru, Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, CF37 4PE

Mae'r tîm yn cydnabod na fydd pawb yn gallu mynychu digwyddiad wyneb-yn-wyneb. Er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu cymryd rhan, bydd CYBI RhCT yn cynnal sesiwn ar-lein ar ddydd Iau, 23 Gorffennaf, 6yh-7yh, yn cynnig cyfle arall i drigolion rhannu eu profiadau a barnau, beth bynnag yw eu hamgylchiadau.

Gweithgareddau i bob oedran

Bydd y digwyddiadau yn cynnwys ystod o weithgareddau anffurfiol, crëadigol wedi'u dylunio i hybu sgyrsiau a chwarae, gan gynnwys:

  • Peirograffeg (celf llosgi pren)
  • Paentio cerrig
  • Plannu hadau

Caiff lluniaeth ysgafn ei ddarparu, ac mae croeso i deuluoedd.

Cymerwch ran ac ennill

Bydd ymwelwyr sy'n ymuno â'r rhestr dosbarthu mewn digwyddiad yn cael mynediad i gystadleuaeth i ennill taleb gwerth £50, gan eu helpu nhw i aros yn gysylltiedig â chyfleoedd i gymryd rhan yn y dyfodol.

Gwneud newid gyda’n gilydd

Bydd mewnwelediadau wedi'u casglu trwy Rhowch Lais! yn bwydo prosiectau’r CYBI a gwaith y Cyngor, gyda gwaith dilynol wedi'u harwain gan Dîm Llais y Gymuned i sicrhau deialog ân effaith parhaus.

Mae 'cau'r cylch' yn rhan allweddol o'r ymgyrch - yn dangos i gymunedau 'Dwedoch chi, clywon ni' ac yn arddangos sut mae'u lleisiau yn llunio newid go iawn.

Os rydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf, rydych chi'n gallu cymryd rhan gan gwblhau'n harolwg ar-lein. Hefyd, gall sefydliadau cymunedol lleol yn cefnogi'u defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan ac yn gwneud cais i'n cyfle 'Mynediad at Wasanaethau' i dderbyn tâl am eu hamser.

I ddysgu mwy, edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau Rhowch Lais!

Diweddaru: 02 Meh 2026, 06:12 PM