Teithio Llesol

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Cyflwyniad i Deithio Llesol
Mae Teithio Llesol yn golygu teithio drwy gerdded, seiclo neu olwyno ar gyfer teithiau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys pethau fel mynd i’r ysgol neu gwaith, ymweld â siopau, neu fynychu apwyntiadau yn y feddygfa neu fferyllfa.
Y Cyngor sy’n gyfrifol am gynllunio a gwella llwybrau Teithio Llesol ar draws RhCT i helpu i wneud y teithiau yma’n haws ac yn fwy diogel.
Rydym eisiau:
Casglu gwybodaeth i helpu ni ddeall ble mae’r angen mwyaf am lwybrau Teithio Llesol yn RhCT
Mesur effaith cynlluniau Teithio Llesol ar iechyd a lles pobl yn Rhondda Cynon Taf
Codi ymwybyddiaeth am Deithio Llesol a deall faint mae’r cyhoedd yn gwybod yn barod am lwybrau lleol, cyfleusterau, a manteision Teithio Llesol.
Beth fyddwn ni’n wneud
Byddwn yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i ddeall a chodi ymwybyddiaeth o lwybrau Teithio Llesol yn RhCT. Bydd hyn yn cynnwys data sefydliadol, gwybodaeth am y boblogaeth, data mesur effaith, ymchwil academaidd, gwybodaeth broffesiynol a phrofiad byw gan bobl leol.
Bydd dod a’r ffynonellau yma ynghyd yn ein helpu i adeiladu darlun llawn o’r anghenion a’r cyfleoedd presennol.
Sut gallwch chi gymryd rhan
Mae eich barn yn bwysig i ni. Drwy gymryd rhan yn ein harolygon a rhannu eich profiadau, byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol i’r dystiolaeth profiad byw rydym yn defnyddio i ddeall sut mae pobl yn teithio ar draws RhCT.
Bydd eich adborth yn ein helpu ni ddeall beth sy’n gweithio’n dda, beth sydd ddim, a pha rwsytrau sy’n gwynebu pobl sy’n teithio ar droed, ar olwyn neu ar feic.
📝Atebwch ein harolwg
Dywedwch wrthym ni am eich profiadau o deithio ar droed, ar feic neu ar olwyn yn RhCT.
🗺️ Defnyddiwch ein map Teithio Llesol
Dangoswch y llwybrau rydych chi’n eu defnyddio, ble rydych yn teimlo bod angen gwelliannau, a ble rydych chi’n meddwl y buasai llwybr Teithio Llesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i chi.
Ymwadiad Pwysig
Nid yw hyn yn rhan o broses ymgynghori ffurfiol y Cyngor, a ni fydd y wybodaeth rydych chi’n ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau uniongyrchol am Deithio Llesol. Bydd eich ymateb yn cael ei defnyddio i gefnogi’r prosiect hwn, sy’n ein helpu i adeiladu gwell dealltwriaeth o brofiadau byw ac anghenion teithio lleol a all gryfhau ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am Deithio Llesol, ewch i dudalen Teithio Llesol RCTCBC (dolen allanol)