Teithio Llesol

Rhannu Teithio Llesol ar Facebook Rhannu Teithio Llesol Ar Twitter Rhannu Teithio Llesol Ar LinkedIn E-bost Teithio Llesol dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Cyflwyniad i Deithio Llesol

Mae Teithio Llesol yn golygu teithio drwy gerdded, seiclo neu olwyno ar gyfer teithiau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys pethau fel mynd i’r ysgol neu gwaith, ymweld â siopau, neu fynychu apwyntiadau yn y feddygfa neu fferyllfa.

Y Cyngor sy’n gyfrifol am gynllunio a gwella llwybrau Teithio Llesol ar draws RhCT i helpu i wneud y teithiau yma’n haws ac yn fwy diogel.

Rydym eisiau:

  • Casglu gwybodaeth i helpu ni ddeall ble mae’r angen mwyaf am lwybrau Teithio Llesol yn RhCT

  • Mesur effaith cynlluniau Teithio Llesol ar iechyd a lles pobl yn Rhondda Cynon Taf

  • Codi ymwybyddiaeth am Deithio Llesol a deall faint mae’r cyhoedd yn gwybod yn barod am lwybrau lleol, cyfleusterau, a manteision Teithio Llesol.

Beth fyddwn ni’n wneud

Byddwn yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i ddeall a chodi ymwybyddiaeth o lwybrau Teithio Llesol yn RhCT. Bydd hyn yn cynnwys data sefydliadol, gwybodaeth am y boblogaeth, data mesur effaith, ymchwil academaidd, gwybodaeth broffesiynol a phrofiad byw gan bobl leol.

Bydd dod a’r ffynonellau yma ynghyd yn ein helpu i adeiladu darlun llawn o’r anghenion a’r cyfleoedd presennol.

Sut gallwch chi gymryd rhan

Mae eich barn yn bwysig i ni. Drwy gymryd rhan yn ein harolygon a rhannu eich profiadau, byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol i’r dystiolaeth profiad byw rydym yn defnyddio i ddeall sut mae pobl yn teithio ar draws RhCT.

Bydd eich adborth yn ein helpu ni ddeall beth sy’n gweithio’n dda, beth sydd ddim, a pha rwsytrau sy’n gwynebu pobl sy’n teithio ar droed, ar olwyn neu ar feic.

📝Atebwch ein harolwg

Dywedwch wrthym ni am eich profiadau o deithio ar droed, ar feic neu ar olwyn yn RhCT.

🗺️Defnyddiwch ein map Teithio Llesol

Dangoswch y llwybrau rydych chi’n eu defnyddio, ble rydych yn teimlo bod angen gwelliannau, a ble rydych chi’n meddwl y buasai llwybr Teithio Llesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i chi.

Ymwadiad Pwysig

Nid yw hyn yn rhan o broses ymgynghori ffurfiol y Cyngor, a ni fydd y wybodaeth rydych chi’n ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau uniongyrchol am Deithio Llesol. Bydd eich ymateb yn cael ei defnyddio i gefnogi’r prosiect hwn, sy’n ein helpu i adeiladu gwell dealltwriaeth o brofiadau byw ac anghenion teithio lleol a all gryfhau ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth am Deithio Llesol, ewch i dudalen Teithio Llesol RCTCBC (dolen allanol)

Diweddaru: 04 Mar 2026, 10:03 AC