Cwestiynau Cyffredinol
- Eich helpu chi i gael mynediad at y dystiolaeth orau sydd ar gael, ei dehongli a'i defnyddio.
- Eich helpu chi i ddatblygu'r sgiliau, gwybodaeth a hyder i gasglu, dehongli a defnyddio tystiolaeth.
- Eich cynorthwyo chi i ddatblygu syniadau ymchwil newydd a chyflwyno ceisiadau am gyllid.
Beth yw'r CYBI?
Mae modd i chi ddod o hyd i'r wybodaeth yma ar ein tudalen 'Beth yw'r CYBI?'
Sut alla i gymryd rhan?
Os ydych chi'n sefydliad cymunedol, bwriwch olwg ar ein tudalen Sefydliadau Partner a Chymunedol.
Os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd, bwriwch olwg ar ein tudalen Ymgynghorwyr Profiad Byw, ateb arolygon mewn perthynas â phrosiectau ar ein hadran prosiectau byw neu wirio a oes unrhyw gyfleoedd prosiect ar gael.
Os oes gyda chi syniad am brosiect, darllenwch ein tudalen 'Cyflwyno Ymholiad Prosiect'.
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni. Fel arall, bwriwch olwg ar ein Hwb Hyfforddiant ac Adnoddau.
Pa fath o bethau all CYBI RhCT fy helpu i gyda?
Mae croeso i chi gyflwyno ymholiad i weld a oes modd i ni:
Cofiwch, rhaid i ddeillianau eich prosiect elwa cymuned Rhondda Cynon Taf.
Rydw i wedi cydweithio â CYBI RhCT fel ymchwilydd neu bartner. Beth yw'r disgwyliadau o ran cydnabod y bartneriaeth yma?
Mae disgwyl i ymchwilwyr, partneriaid, unigolion a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o CYBI RhCT gydnabod cefnogaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal yn ei waith ymchwil personol ac yn ystod gweithgareddau lledaenu gwybodaeth. Er enghraifft, pan rydych chi'n cyhoeddi dogfennau, mae disgwyl i chi gyfeirio at CYBI RhCT yn eich adran 'Cyfeiriadau'. Mae hefyd disgwyl i chi gynnwys a rhannu canlyniadau a data sydd wedi'u cyflawni gan CYBI.