Mae Carfan Llais y Gymuned Yma

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Rydym mor falch o gyhoeddi bod Carfan Llais y Gymuned wedi dechrau’n swyddogol! Mae’r tîm yn cynnwys chwech o drigolion lleol sydd yn gweithio’n rhan amser (chwe awr yr wythnos) ochor yn ochor â Chydweithrediad ar Benderfynyddion Iechyd RhCT (CYBI RhCT), cymunedau lleol a sefydliadau partner. Eu swydd yw sicrhau bod profiadau byw a llais y gymuned yn siapio popeth yr ydym yn wneud.
Beth fydd y garfan yn wneud:
Rhoi adborth ar syniadau prosiect newydd a sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion y gymuned
Meithrin cysylltiadau cryf gyda thrigolion a sefydliadau lleol
Casglu a rhannu straeon a phrofiadau o’r gymuned
Cymryd rhan mewn hyfforddiant i wella’r ffordd rydym yn gweithio
Rhannu gwybodaeth gyda phobl am brosiectau a chyfleoedd gyda CYBI
Yr wythnos hon
Mae’r tîm yn mynd drwy’r broses anwytho, yn dysgu am y penderfynyddion iechyd ehangach, sut mae prosiectau CYBI yn gweithio a’r dulliau byddant yn eu defnyddio. Caiff y tîm ei gefnogi gan ein Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned sef Shannon Lee, y tîm craidd yn CYBI a phartneriaid allweddol yn y Cyngor.

Pam fod hyn yn bwysig
Mae gwrando ar leisiau lleol yn helpu’r Cyngor i wneud gwell penderfyniadau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Bydd y garfan yn sicrhau bod cymunedau yn cael eu cynnwys yn ein gwaith o’r cychwyn i’r diwedd.
Dysgu mwy a chymryd rhan
Ewch i dudalen Carfan Llais y Gymuned i ddysgu mwy am y tîm a sut rydym yn gweithio gyda chymunedau.
Eisiau gofyn cwestiwn neu gymryd rhan? Ebostiwch HDRC@rctcbc.gov.uk