Helpu i recriwtio ein 'Carfan Llais y Gymuned' newydd
Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Cyfle
Helpu i recriwtio ein 'Carfan Llais y Gymuned' newydd.
Beth yw hyn?
Dyma gyfle i weithio gyda'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI), Interlink RhCT a Carfan Datblygu'r Gymuned – RhCT Gyda'n Gilydd i helpu i recriwtio ein Carfan Llais y Gymuned newydd. Bydd y garfan yma’n cynnwys 6 unigolyn fydd yn gweithio gyda'r CYBI i sicrhau bod barn a safbwyntiau'r gymuned yn cael eu clywed ledled y Cyngor.
Rydyn ni eisiau unigolion i'n helpu gyda'r broses recriwtio yma drwy ymuno â'n gweithgor.
Nifer yr Ymgynghorwyr Profiad Bywyd sydd eu hangen:
· Mae angen 2 Ymgynghorydd Profiad Bywyd
Beth fydd rhaid i mi ei wneud?
· Ymuno â gweithgor bach a mynd i gyfarfodydd y gweithgor ar-lein drwy gydol mis Awst
· Cynnig eich syniadau a'ch barn ar y deunyddiau recriwtio (gan gynnwys disgrifiadau swyddi, hysbysebion, ffurflenni cais ac ati)
· Ein helpu ni i gynllunio sut i recriwtio'r Garfan Llais y Gymuned mewn ffordd hygyrch a chynhwysol
· Helpu i greu'r cwestiynau ar gyfer cyfweliadau aelodau'r Garfan Llais y Gymuned
· Bod ar y panel cyfweld a gweithio gyda gweddill y garfan i nodi'r ymgeiswyr mwyaf addas ar gyfer y rolau
Bydd y Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned ar gael i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi i ymgymryd â'r cyfle yma.
Pa brofiad sydd ei angen arna i?
· Profiad o brosesau recriwtio cynhwysol a hygyrch (yn ymgeisydd neu'n gyflogwr) NEU
· Profiad o geisio am swydd NEU
· Profiad o gynnal cyfweliadau neu gymryd rhan mewn cyfweliad
Am ba mor hir y bydd rhaid i mi fod ynghlwm â'r gwaith?
· Rhaid i chi allu mynd i 4 cyfarfod ar-lein awr o hyd. Mae rhagor o fanylion isod:
(Os oes gyda chi gwestiynau am ddyddiadau/amseroedd y cyfarfodydd, cysylltwch â Shannon - HDRC@rctcbc.gov.uk)
Dyddiad/Amser
05/08/25 9.30–10.30am (Gall y cyfarfod cyntaf bod wyneb-yn-wyneb os yw'n well gennych chi)
12/08/25 9.30–10.30am
19/08/25 10.30–11.30am
26/08/25 10.30–11.30am
· Rhaid i chi allu mynd i gyfweliadau wyneb yn wyneb dros 2 ddiwrnod ar ddiwedd mis Medi (byddwn ni’n pennu dyddiadau’r cyfweliadau gyda'r Ymgynghorwyr Profiad Bywyd pan fyddwch chi’n dechrau yn y rôl)
Beth yw'r manteision i fi?
· Fe gewch chi dalebau am eich cyfraniad ar gyfradd o £20 yr awr. Mae talebau'n cynnwys Amazon, Love2Shop (Dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) a Chredydau Tempo Time (Dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig )
· Bydd carfan a phartneriaid y CYBI yn eich cefnogi chi drwy gydol eich amser yn y rôl
· Bydd gyda chi gyfle i ddylanwadu ar sut rydyn ni'n recriwtio ar gyfer Carfan Llais y Gymuned a phwy fydd yn cael eu dewis ar gyfer y rolau
· Gallwch chi ddatblygu sgiliau cyfweld drwy gyfrannu'n uniongyrchol i'r broses gynllunio a chynnal y cyfweliadau
· Bydd eich cyfraniad yn sicrhau bod aelodau'r gymuned yn deall y broses recriwtio a'r deunyddiau (heb fod yn llawn jargon y Cyngor!)
· Byddwch chi’n rhan o banel cyfweld amlasiantaeth ac yn sicrhau recriwtio teg a chynrychioliadol
Pa gymorth sydd ar gael?
· Fe gewch chi gymorth uniongyrchol gan garfan y CYBI i'ch helpu chi i ddeall eich rôl ac ateb eich cwestiynau
· Bydd hefyd modd darparu hyfforddiant i'ch cefnogi yn y rôl
· Mae cymorth ymarferol ar gael i'ch helpu i fynd i gyfarfodydd (gan gynnwys cludiant i gyfarfodydd ac oddi yno)
Beth fydd y cam nesaf?
· Os oes gyda chi ddiddordeb yn y cyfle yma, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb a’i hanfon drwy e-bost at HDRC@rctcbc.gov.uk
(Os bydd nifer o ffurflenni'n dod i law, bydd rhaid i ni gynnal proses ddethol. Byddwn ni'n rhannu'r manylion llawn gyda chi ar y pryd).
· Bydd aelod o garfan y CYBI yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am y camau nesaf
Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni Mynegi Diddordeb:
· Hanner dydd ar 25ain Gorffennaf
Os oes gyda chi ymholiadau am y cyfle, y talebau neu'r ffurflen Mynegi Diddordeb, e-bostiwch HDRC@rctcbc.gov.uk.