Cwestiynau Cyffredinol
- Cymorth gan garfan ganolog y CYBI a phartneriaid cydweithio.
- Sgyrsiau rheolaidd gyda'n Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned
- Cymorth wrth fynychu cyfarfodydd
- Mynediad at Wasanaeth Cyngor Buddion Annibynnol (yn ôl yr angen)
- Cael eich cyfeirio at wasanaethau cymorth lleol
- Byw, gweithio, chwarae neu astudio yn Rhondda Cynon Taf
- Meddu ar brofiad byw perthnasol
- Bod yn frwdfrydig am wella deilliannau ar gyfer pobl a chymunedau
Pa gymorth sydd ar gael i mi fel Ymgynghorwr Profiad Byw?
Byddwch chi'n derbyn cymorth drwy gydol eich ymgysylltiad â'r CYBI er mwyn sicrhau eich bod chi'n teimlo'n hyderus yn cyflawni eich swydd. Bydd hyn yn cynnwys:
Os ydych chi'n teimlo y byddwch chi angen cymorth mwy penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod.
Pa sgiliau a phrofiad ydw i eu hangen er mwyn bod yn Ymgynghorydd Profiad Byw?
Y prif ofynion yw:
Bydd unrhyw sgiliau neu brofiadau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu nodi ar gyfer pob cyfle.
Sut alla i ddysgu rhagor am gyfleoedd i gymryd rhan?
Byddwn ni'n cyhoeddi pob cyfle ar ein tudalen Cyfleoedd Prosiect. Mae modd i chi dderbyn y newyddion diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr lle byddwn ni'n rhannu cyfleoedd, diweddariadau, astudiaethau achos a rhagor!
Os hoffech chi ragor o fanylion neu mae gyda chi gwestiwn mewn perthynas ag Ymgynghorwyr Profiad Byw
Cysylltwch â ni.