Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol

Rhannu Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol ar Facebook Rhannu Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol Ar Twitter Rhannu Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol Ar LinkedIn E-bost Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Cyflwyniad i nofio cynhwysol i blant Niwroamrywiol

Mae teuluoedd yn cofrestru eu plant i wersi nofio am sawl rheswm gan gynnwys diogelwch yn y dŵr, hyder yn y dŵr a sgiliau bywyd angenrheidiol; fodd bynnag mae profiadau plant niwroamrywiol yn gallu amrywio yn fawr.

Mae tîm gwasanaethau hamdden Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddarparu profiadau nofio cynhwysol a chefnogol i blant niwroamrywiol, a chreu gofodau diogel ble mae pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo’n hyderus i gyflawni eu nodau.

Mae’r tîm eisiau archwilio’r canlynol:

  • Y galw am wersi nofio i blant niwroamrywiol
  • Teuluoedd sydd yn defnyddio gwersi i blant niwroamrywiol mewn canolfannau hamdden yn barod, er mwyn deall eu profiadau a dysgu sut gellid gwella pethau
  • Y rheiny sydd ddim yn gwneud defnydd o wersi nofio i blant niwroamrywiol er mwyn deall y rhwystrau a’r heriau
  • Hyfforddiant sydd ar gael i staff am Niwroamrywiaeth

Beth fyddwn ni yn ei wneud

Byddwn yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i ddeall a chodi ymwybyddiaeth o wersi nofio cynhwysol i blant niwroamrywiol. Bydd hyn yn cynnwys data sefydliadol, gwybodaeth am y boblogaeth, data am effaith, ymchwil academaidd, gwybodaeth broffesiynol a phrofiad byw gan bobl leol.

Bydd dod a’r ffynonellau yma ynghyd yn ein helpu ni i adeiladu darlun llawnach o anghenion a chyfleoedd presennol.

Sut gallwch chi gymryd rhan

Mae eich barn yn bwysig i ni. Drwy gwblhau ein harolwg a rhannu eich profiadau, byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol i’r dystiolaeth profiad byw rydyn ni’n defnyddio i ddeall profiadau plant niwroamrywiol o fynychu gwersi nofio yn RhCT. Bydd eich adborth yn helpu ni weld beth sydd yn gweithio’n dda, beth sydd ddim, a’r rhwystrau mae pobl ifanc yn eu gwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau nofio.

📝Cwblhewch ein harolwg

Dywedwch wrthym ni am eich profiadau.

Ymwadiad pwysig

Nid yw hwn yn rhan o broses ymgynghori ffurfiol y Cyngor, ni fydd y wybodaeth rydych chi’n ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau uniongyrchol am gynlluniau nofio cynhwysol. Bydd eich ymateb yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r prosiect yma, a helpu ni adeiladu gwell dealltwriaeth o brofiadau byw ac anghenion hamdden lleol a all gryfhau ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.

  • Mae modd i chi chwarae rhan bwysig yn y prosiect hwn drwy gwblhau'r arolwg isod. Nid oes angen gwybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad, manylion cyswllt ayyb) i'r arolwg yma (os nad ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi).  Fyddwn ni ddim yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i geisio adnabod pwy ydych, felly peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol mewn unrhyw flychau testun rhydd.  Gweler y polisi preifatrwydd am ragor o wybodaeth.  

    Rydyn ni’n casglu adborth o deuluoedd gyda phlant niwro-amrywiol sy’n byw yn RhCT neu’n defnyddio canolfannau hamdden RhCT a chyfleoedd nofio lleol. Os bod eich plentyn yn nofio’n rheolaidd neu ddim yn nofio o gwbl, rydyn ni eisiau deall eich profiad a gwella cyfleoedd lleol. Mae’r arolwg hon yn ddienw ac yn cymryd tua 5 munud. 

    D.S. Does dim angen diagnosis ar eich plentyn. 

    Cymryd yr Arolwg
    Rhannu Cyflwyniad i Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol - Arolwg ar Facebook Rhannu Cyflwyniad i Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol - Arolwg Ar Twitter Rhannu Cyflwyniad i Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol - Arolwg Ar LinkedIn E-bost Cyflwyniad i Nofio Cynhwysol i Blant Niwroamrywiol - Arolwg dolen
Diweddaru: 09 Sep 2026, 04:55 PM